Y Stiwt yn 100: Atgofion rhai o sêr Rhos

Y Stiwt
Disgrifiad o’r llun,

Daniel Lloyd, Mark Lewis Jones, Stifyn Parri a Caitlin Drake yn siarad gyda Manon Steffan Ros ar lwyfan y Stiwt

GanIwan Arwel
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Eleni mae adeilad y Stiwt yn Rhosllannerchrugog yn dathlu canmlwyddiant ers ei agor.

Er mwyn nodi'r pen-blwydd arbennig, fe ddaeth criw o berfformwyr adnabyddus yn ôl i Rhos i dalu teyrnged i'r theatr fu'n fan cychwyn i'w gyrfaoedd.

Ymysg y cwmni roedd yr actorion Mark Lewis Jones, Stifyn Parri a Caitlin Drake, yn ogystal â'r cerddor ac actor Daniel Lloyd.

Cafodd y Stiwt ei chodi drwy ymdrechion ac arian glowyr lleol.

Rhwng 1924 ac 1926 fe wnaeth Sefydliad Lles y Glowyr benderfynu rhoi ceiniog o werthiant pob tunnell o lo o'r gweithfeydd lleol, tuag at godi theatr yn y gymuned. Fe wnaeth hynny godi bron i £18,000 er mwyn adeiladu'r Stiwt.

Yn hwyrach, byddai glowyr yr ardal yn rhoi dwy geiniog o'u cyflog wythnosol tuag at gostau cynnal a chadw yr adeilad.

Yn ystod y noson o ddathliadau, roedd gan bob un o'r actorion atgofion melys i'w rhannu am eu cysylltiad nhw â'r lleoliad.

Dyma flas o'r straeon y bu'r criw yn eu rhannu gyda Manon Steffan Ros ar raglen Llwyfan, BBC Radio Cymru.

Mark Lewis Jones

Mae Mark yn un o actorion mwyaf blaenllaw Cymru, sydd wedi serennu mewn ffilmiau Hollywood a sawl cyfres deledu boblogaidd.

Mae wedi ymddangos yn y cyfresi Saesneg Gangs of London, The Crown a Chernobyl a chyfresi Cymraeg yn cynnwys Pen Talar, Dal y Mellt ac Y Golau: Dŵr.

Mae'n dod yn wreiddiol o Rosllannerchrugog ac ef oedd Llywydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam yn 2025.

Disgrifiad,

Mark Lewis Jones ar lwyfan y Stiwt

Stifyn Parri

Mae Stifyn yn actor sydd wedi ymddangos mewn sawl cyfres boblogaidd ar y teledu fel Brookside, ac ar lwyfan mewn cynyrchiadau mawr fel Les Miserables.

Cafodd y cyflwynydd a'r cynhyrchydd llwyddiannus ei fagu yn Y Rhos ac mae'n dweud fod Y Stiwt wedi bod yn allweddol i'w ddatblygiad fel actor.

Roedd yn cymryd rhan mewn cynyrchiadau'r Stiwt o oed ifanc iawn, a dywedodd ei fod wrth ei fodd yn dod adref i'r Rhos.

Disgrifiad,

Stifyn Parri yn sôn am ddylanwad Y Stiwt

Caitlin Drake

Mae Caitlin wrth ei bodd yn sôn wrth bobl am ei gwreiddiau yn y Rhos.

Yn ogystal â thrafod ei gyrfa a rhannu atgofion am y Stiwt, bu hefyd yn sôn am acen unigryw yr ardal a'i balchder o'r Gymraeg.

Disgrifiad,

Cailtlin Drake yn sôn am ei phrofiadau cynnar yn actio yn y Stiwt

Daniel Lloyd

Cafodd Daniel ei fagu yn Rhosllannerchrugog ac erbyn hyn mae'n Gyfarwyddwr Cyswllt yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug.

Mae Daniel yn adnabyddus am fod yn brif leisydd y band Daniel Lloyd a Mr Pinc ac mae hefyd yn actor a chyfarwyddwr.

Disgrifiad,

Daniel Lloyd sydd bellach yn Gyfarwyddwr Cyswllt yn Theatr Clwyd

I wrando ar y rhaglen gyfan ac i glywed yr holl sgwrsio o'r Stiwt, cliciwch yma.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig