Rhybudd am wyntoedd cryfion wrth i Storm Dave daro Cymru

Rhybudd tywyddFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
  • Cyhoeddwyd

Mae rhybudd am wyntoedd cryfion mewn grym ar gyfer gogledd a gorllewin Cymru dros benwythnos y Pasg, wrth i Storm Dave daro.

Bydd y rhybudd melyn mewn grym o 17:00 ddydd Sadwrn tan 07:00 fore Sul.

Mae'n weithredol ar gyfer holl siroedd y gogledd heblaw am Wrecsam, a rhannau o Geredigion, Sir Benfro a Phowys.

Mae disgwyl hyrddiadau o hyd at 60mya yn eang ar draws ardal y rhybudd, ac fe allai gyrraedd 80mya mewn rhai mannau.

Mae rhybudd hefyd y gallai tonnau mawr achosi perygl ar hyd yr arfordir.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig