Diffyg swyddi i fyfyrwyr parafeddygol 'fel slap i'r wyneb'

Lorna Edwards
Disgrifiad o’r llun,

"Mae e'n bryder, bydde' ni wedi hoffi cael rhywfaint o rybudd, mae'n teimlo fel slap i'r wyneb," medd Lorna Edwards

  • Cyhoeddwyd

Mae myfyriwr sy'n hyfforddi i fod yn barafeddyg yn dweud ei bod hi'n ystyried symud dramor am waith, ar ôl cael gwybod na fydd unrhyw swyddi yn cael eu cynnig i barafeddygon sydd newydd gymhwyso.

Mae Lorna Edwards, 26 oed ac o Landeilo, ymhlith grŵp o tua 70 o fyfyrwyr ym mlwyddyn olaf eu gradd yng Nghymru, sydd wedi cael gwybod am rewi'r recriwtio.

Fe wnaeth Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru gadarnhau ddydd Mercher mai "tirwedd ariannol a gweithredol anodd" oedd y rheswm am hyn.

Mae'r corff sy'n cynrychioli parafeddygon yn dweud eu bod yn credu bod y rhewi ar recriwtio yng Nghymru yn debygol o gael ei ehangu ledled y DU dros y misoedd nesaf.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "gweithio'n agos" gyda'r gwasanaeth a chyrff eraill i fynd i'r afael â'r heriau a chefnogi graddedigion.

Myfyrwyr mewn siwtiau meddygol gwyn ac offer PPEFfynhonnell y llun, Lorna Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lorna Edwards ymhlith grŵp o tua 70 o fyfyrwyr ym mlwyddyn olaf eu gradd yng Nghymru, sydd wedi cael gwybod bod recriwtio'n cael ei rewi am gyfnod

Gall myfyrwyr sy'n awyddus i ddilyn gyrfa fel parafeddyg astudio'r cwrs BSc Gwyddoniaeth Parafeddygol mewn dwy brifysgol yng Nghymru, Abertawe a Wrecsam.

Mae dros 50 o gyrsiau ar gael ledled y Deyrnas Unedig hefyd.

Yng Nghymru, mae rhan helaeth o'r cymhorthdal ​​​​yn dod o Addysg a Gwella Gofal Iechyd Cymru (AaGIC) - cangen o'r GIG, sy'n cael ei chyllid gan Lywodraeth Cymru.

Mae bwrsariaethau AaGIC yn talu ffioedd dysgu am dair blynedd - cyfanswm o bron i £30,000 - gyda chyllid ychwanegol ar gyfer llety a lleoliadau gwaith.

Y llynedd, dim ond tua thraean o raddedigion yn wreiddiol a gafodd gynnig swyddi ar gyfer parafeddyg sydd newydd gymhwyso.

Eleni bydd y nifer hwnnw yn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (YGAC) yn sero.

Myfyrwyr mewn cotiau llachar yn ymarfer delio gya chlafFfynhonnell y llun, Lorna Edwards

Mae Lorna Edwards yn astudio gwyddoniaeth parafeddygol ym Mhrifysgol Abertawe ers tair blynedd.

Ei gobaith oedd cael swydd yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru ar ôl graddio, ond mae cyhoeddiad y gwasanaeth wedi codi amheuaeth dros ei chamau nesaf.

"Rydyn ni wedi cael gwybod y bydden ni'n graddio ym mis Gorffennaf, ond bydd dim swyddi ar gael i ni'n fuan yn y band rydyn ni wedi hyfforddi ar ei gyfer," meddai.

"Mae e'n bryder. Bydden ni wedi hoffi cael rhywfaint o rybudd. Mae'n teimlo fel slap i'r wyneb.

"Rydym wedi cael ein cadw yn y tywyllwch mewn gwirionedd ac mae'n sarhaus braidd. Rydym yn teimlo nad ydyn ni'n bwysig ac wedi cael ein gwthio i'r ochr.

"Nawr, gallen ni gael swyddi mewn bandiau llawer is na'r hyn rydyn ni wedi hyfforddi ar ei gyfer, a fi'n credu y bydd pobl naill ai'n gadael neu'n chwilio am yrfaoedd eraill.

"Felly beth wnaethon ni hyfforddi ar ei gyfer?"

Myfyrwyr parafeddygolFfynhonnell y llun, Lorna Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Y llynedd, dim ond tua thraean o raddedigion yn wreiddiol a gafodd gynnig swyddi ar gyfer parafeddyg sydd newydd gymhwyso

Eglurodd Ms Edwards wrth BBC Cymru ei bod wedi mwynhau'r cwrs a bod y brifysgol wedi darparu cefnogaeth trwy gydol y broses, ond bod y newyddion wedi lladd yr ysbryd tua diwedd y flwyddyn academaidd.

Bu myfyrwyr gwyddoniaeth parafeddygol eraill mewn cyswllt gyda'r BBC trwy Dy Lais, gan ddweud eu bod wedi cael cyngor i wneud cais am swyddi yng Nghanada, Seland Newydd ac Awstralia.

Nid yw Lorna Edwards yn diystyru hynny ar y funud.

"Fi'n ystyried mynd i ffwrdd. Fi'n credu bod angen i mi gadw fy holl opsiynau yn agored. Fi ddim yn diystyru unrhyw beth."

Myfyrwyr parafeddygol yn ymarfer delio gyda chlafFfynhonnell y llun, Lorna Edwards

Esboniodd Lorna Edwards nad ydy rhai opsiynau yn ymarferol iddi hi, fel mynd i Ganada, er y byddai hynny'n "gyfle gwych i rai pobl".

"Mae llawer ohonon ni'n fyfyrwyr aeddfed. Mae gan lawer o bobl eraill forgeisi, plant, gyrfaoedd eraill y maen nhw wedi'u stopio am nawr ac allen nhw ddim ailddechrau eu bywydau a symud hanner ffordd ar draws y byd.

"Hyd yn oed petai nhw'n medru, nid yw rhai pobl eisiau ac nid dyna oedden ni'n ei ddisgwyl."

'Gorfod aros yn Lloegr'

Mae'r sefyllfa'n destun pryder hefyd i Emilie Griffiths o Ynys Môn, sy'n astudio parafeddygaeth ym Manceinion.

"Fi'n teimlo'n drist a siomedig amdano fo," dywedodd ar raglen Dros Frecwast.

"'Da'n ni di neud tri blynedd o gweithio'n galad yn prifysgol a gweithio ar ambulances a 'neud shiffts 12 awr am ddim a wedyn 'dan ni ff'indio allan does 'na ddim swydd i ni ar gael."

Mae'r sefyllfa, meddai, yn creu "mwy o straen" ar fyfyrwyr yn eu blwyddyn olaf.

"'Dyn ni ddim yn gwbod lle 'dyn ni gallu mynd - 'dyn ni ddim yn gwbod be' 'dyn ni'n gallu 'neud am y blwyddyn."

Emilie Griffiths mewn gwisg myfyriwr parafeddygol yn tynnu hunlunFfynhonnell y llun, Emilie Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Emilie Griffiths ei bod bellach yn wynebu'r posibilrwydd o orfod barhau tu hwnt i Gymru er mwyn cael swydd

Roedd y profiad o hyfforddi, meddai, yn un gwerthfawr, ond mae ansicrwydd ynglŷn â'r dyfodol.

"'Dyn ni ar y ambulances hefo'r paramedics yn neud y twelve hour shifts so 'dan ni'n gweld pob dim ma' nhw'n mynd trwyddo. Ac achos dwi'n blwyddyn olaf fi dwi gorfod bod yn paramedic ar y funud a helpu pobl."

Roedd Emilie wedi gobeithio dychwelyd i Gymru i weithio, ond mae'n dweud bod y sefyllfa wedi newid ei chynlluniau.

"O'n i isio dod yn ôl... ond rŵan ti'n gwybod bo ti'm yn cael dod adra mae'n bach yn kick in the teeth.

"Rŵan dwi'n gorfod mynd i Loegr a dwi'm yn gwybod pryd fyddai'n defnyddio iaith Cymraeg eto."

MyfyrwyrFfynhonnell y llun, Lorna Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Eleni bydd y nifer o raddedigion fydd yn cael cynnig swyddi ar gyfer parafeddyg sydd newydd gymhwyso yn sero

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru - yn ôl eu Cyfarwyddwr Pobl Carl Kneeshaw - yn "llywio tirwedd ariannol a gweithredol anodd, fel llawer o sefydliadau'r GIG".

Golyga hynny, meddai, "bod rhaid i benderfyniadau recriwtio fod ar sail amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys lefelau staffio presennol, galw am wasanaethau, cymysgedd sgiliau'r gweithlu a fforddiadwyedd".

"Yn anffodus, fel mae pethau'n sefyll, nid ydym mewn sefyllfa i gyflogi parafeddygon sydd newydd gymhwyso eleni."

Cysylltwch â ni

Dy Lais, Dy Bleidlais

Ychwanegodd Mr Kneeshaw eu bod yn annog graddedigion sydd eisiau datblygu gyrfa o fewn y gwasanaeth i ystyried rolau technegydd meddygol brys y mae disgwyl i'r gwasanaeth eu cynnig gydol 2026, neu rolau o fewn gwasanaethau ambiwlans eraill a sefydliadau o fewn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae'r corff sy'n cynrychioli parafeddygon wedi dweud eu bod yn disgwyl gweld rhewi recriwtio tebyg yn cael ei gyflwyno ledled y DU yn ddiweddarach eleni.

Dywedodd Coleg Brenhinol y Parafeddygon y llynedd fod "anghydweddid ledled y DU", rhwng nifer y myfyrwyr sy'n graddio a nifer y rolau sydd ar gael.

Beth mae'r pleidiau yn ei ddweud?

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "wedi ymrwymo i sicrhau bod ein buddsoddiad mewn addysg a hyfforddiant y GIG yn cael ei gefnogi gan gyfleoedd cyflogaeth ystyrlon".

"Rydym yn gweithio'n agos gydag YGAC, AaGIC a phrifysgolion i fynd i'r afael â'r heriau hyn a chefnogi graddedigion."

Yn ôl Llafur Cymru, maent "wedi ymrwymo i sicrhau bod gan y GIG yng Nghymru y staff sydd eu hangen arno nawr ac yn y dyfodol", trwy gynllun gweithlu hirdymor.

Mae myfyrwyr a'r GIG yn cael eu "methu" gan Lywodraeth Cymru, meddai Plaid Cymru, gan ddweud eu bod wedi amlinellu cynlluniau i "greu strategaeth gweithlu cenedlaethol cynhwysfawr newydd, sydd ei hangen yn fawr".

Dywedodd Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, fod y penderfyniad yn "wastraff syfrdanol o dalent ac arian trethdalwyr", nad oedd yn gwneud synnwyr "ar adeg pan fo amseroedd ymateb ambiwlansys yn dal yn rhy hir ac mae cleifion yn aros mewn poen".

Yn ôl James Evans i Reform UK, mae'r penderfyniad yn "gwatwar" trethdalwyr Cymru.

"Nid yn unig y bydd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn parhau i fod heb ddigon o staff ac yn debygol o barhau i fethu â chyrraedd targedau amser ymateb allweddol sy'n achub bywydau, ond trethdalwyr sy'n talu'r bil," meddai.

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig ei fod yn "fethiant clir o ran cynllunio'r gweithlu gan Lywodraeth Lafur Cymru" a'i fod yn "gwbl annerbyniol bod myfyrwyr parafeddygol yn cael eu gadael heb gyfleoedd swyddi yng Nghymru".

Yn ôl Ian Chandler, Llefarydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Blaid Werdd: "Mae rhewi recriwtio Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn doriad ym mhob ffordd ond enw - pan fydd staff yn gadael, fydd neb yn dod i'w lle.

"Mae hynny'n golygu amseroedd ymateb arafach a mwy o risg i gleifion. Mae'n fethiant clir o ran cynllunio gan y llywodraeth Lafur."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.