Cynghori parafeddygon newydd i symud dramor gan nad oes swyddi yng Nghymru

Mae myfyrwyr yn dweud eu bod wedi cael cyngor i wneud cais am swyddi yng Nghanada, Seland Newydd ac Awstralia
- Cyhoeddwyd
Ni fydd unrhyw barafeddygon sydd newydd gymhwyso yng Nghymru yn cael eu recriwtio eleni oherwydd problemau "ariannol a gweithredol", mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi cadarnhau.
Mae myfyrwyr sydd yn eu blwyddyn olaf o raddau gwyddor parafeddygol wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod wedi cael cyngor i wneud cais am swyddi yng Nghanada, Seland Newydd ac Awstralia.
Dywedodd un myfyriwr wrth y BBC fod y sefyllfa'n "wallgof" a dywedodd un arall eu bod yn teimlo'n "wirioneddol isel" ac yn "cael trafferth mawr" gyda'r wythnosau olaf o astudio a mynd ar leoliad.
Mae dwy brifysgol yng Nghymru, Abertawe a Wrecsam, yn darparu'r cyrsiau BSc Gwyddor Parafeddygol, gyda disgwyl i tua 70 o fyfyrwyr raddio yn yr haf.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i sicrhau bod "ein buddsoddiad mewn addysg a hyfforddiant iechyd yn cael ei gefnogi gan gyfleoedd gwaith o bwys".

Mae hyfforddiant lefel gradd i barafeddygon yn cael ei ariannu'n helaeth gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a fydd wedi gwario miliynau o bunnoedd eleni ar fwrsariaethau.
Bydd myfyrwyr wedi cyflawni misoedd o weithio ar leoliad, weithiau dros 100 milltir o'u cartref, mewn gwahanol rannau o Gymru.
Mewn blynyddoedd blaenorol, roedd disgwyl i fyfyrwyr ymgymryd â rolau fel parafeddygon newydd (NQPs) yn y Gwasanaeth Ambiwlans, ar gyflog Band 5 y GIG.
Ar ôl cyfnod o fentora am hyd at ddwy flynedd, byddai'r NQPs yn symud ymlaen i fod yn barafeddygon ar gyflog Band 6 y GIG.
Ond yn 2025 dim ond tua thraean o raddedigion a gafodd gynnig swyddi NQP i ddechrau, gyda rhai yn cael cynnig rolau Band 4 fel Technegwyr Meddygol Brys (EMT) yn hytrach na swyddi parafeddyg.
Cysylltwch â ni
Dy Lais, Dy Bleidlais
Eleni, mae Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru (WAST) yn dweud na fydd unrhyw rolau NQP yn cael eu recriwtio.
Dywedodd Carl Kneeshaw, cyfarwyddwr pobl yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Fel llawer o sefydliadau'r GIG, rydym yn llywio tirwedd ariannol a gweithredol anodd, sy'n golygu bod yn rhaid i benderfyniadau ynghylch recriwtio fod yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys lefelau staffio presennol, galw am y gwasanaeth, cymysgedd sgiliau'r gweithlu a fforddiadwyedd."
"Yn anffodus, fel mae pethau'n sefyll, nid ydym mewn sefyllfa i gyflogi parafeddygon newydd eleni," meddai Mr Kneeshaw.
"Rydym yn gwybod y bydd hyn yn siomedig iawn i'r rhai sy'n gobeithio dechrau eu gyrfaoedd gyda ni, yn enwedig ar ôl yr amser, yr ymdrech a'r ymrwymiad y maen nhw wedi buddsoddi yn eu hyfforddiant, ond rydym wedi ymrwymo i'w cefnogi wrth iddyn nhw ystyried eu camau nesaf."
Sut mae gwella bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr?
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
GIG Cymru 'bron wedi dymchwel' yn ystod y pandemig
- Cyhoeddwyd19 Mawrth
Rhestrau aros y gwasanaeth iechyd wedi lleihau'n sylweddol
- Cyhoeddwyd19 Mawrth
Dywedodd un o'r myfyrwyr sydd wedi'u heffeithio wrth BBC Cymru ei bod wedi cael sioc fawr gan y newyddion a'i bod wedi cael gwybod bod patrwm o "ymddeol a dychwelyd" - lle mae gweithwyr y GIG yn ymddeol cyn dychwelyd i'r gwasanaeth iechyd - wedi ychwanegu at y pwysau ar y gweithlu.
Honnodd eraill fod proses ailraddio o fewn Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi cyfrannu at yr argyfwng presennol.
Er gwaethaf gofyniad y bwrsariaeth a fyddai fel arfer yn ei gwneud yn ofynnol i'r myfyrwyr aros yng Nghymru, mae AaGIC wedi dweud wrth y garfan eu bod bellach yn rhydd i weithio yn unman.
Dywedodd un myfyriwr o Brifysgol Abertawe ei fod wedi bod yn ffonio gwasanaethau ambiwlans ledled y DU ond mai ychydig iawn o swyddi oedd ar gael.
Ychwanegodd fod y sefyllfa'n hynod rwystredig ond ei fod yn obeithiol o gael swydd parafeddyg yng Nghanada.
Dywedodd Prifysgol Abertawe eu bod wedi cael gwybod am y sefyllfa, ac mai eu "ffocws yw cefnogi ein myfyrwyr yn ystod y cyfnod heriol yma".
"Rydym yn deall bod Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn ymgysylltu gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ar y mater, ac rydym yn parhau mewn cyswllt agos â'r ddau gorff i ddeall yr effaith ac unrhyw atebion amgen posibl."
'Allforio sgiliau hanfodol'
Dywedodd un arall sydd wedi'i heffeithio bod y penderfyniad i beidio recriwtio parafeddygon newydd yn "dorcalonnus".
"Dwi wedi fy llorio gan hyn," meddai Alice (nid ei henw iawn).
"Dwi ddim yn meddwl bod neb yn gwneud y cwrs yma am unrhyw reswm arall 'na bod nhw eisiau helpu pobl.
"Dydyn ni ddim yn cael y cyfle yna i helpu pobl a 'da ni am golli'r sgiliau 'ma dros amser."
Ychwanegodd Alex (nid ei enw iawn) mai ei fwriad oedd "gweithio yng Nghymru a gwasanaethu cymunedau Cymraeg" ond "does neb am gael y cyfle i weithio yng Nghymru nawr".
"Maen nhw wedi dweud i ni geisio am swyddi yn Lloegr, ond does 'na ddim llawer ar gael yno chwaith," meddai.
"Mae 'na 16 o swyddi yng Nghanada. Mae Prifysgol Abertawe yn ceisio gweld os oes swyddi'n mynd yn Seland Newydd ac Awstralia.
"Mae ein graddau'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru a threthdalwyr Prydain. Yn y bôn, maen nhw'n allforio sgiliau achub bywyd hanfodol."
'Gwastraff syfrdanol o dalent ac arian trethdalwyr'
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i sicrhau bod "ein buddsoddiad mewn addysg a hyfforddiant iechyd yn cael ei gefnogi gan gyfleoedd gwaith o bwys".
Ychwanegodd y llefarydd bod y llywodraeth yn "gweithio'n agos" gyda'r awdurdodau perthnasol a phrifysgolion i "ymateb i'r heriau yma a chefnogi graddedigion".
Galwodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds, y newyddion yn "wastraff syfrdanol o dalent ac arian trethdalwyr".
Dyw'r sefyllfa ddim yn gwneud unrhyw synnwyr, meddai gan ychwanegu ei bod yn "gliriach nawr nag erioed bod Llafur wedi camreoli'r GIG yng Nghymru a does dim cynllun i'w drwsio".
Mae ymgeisydd Plaid Cymru, Dr Gwyn Williams, wedi galw ar y llywodraeth i ailafael mewn penodi parafeddygon sydd newydd gymhwyso.
Ychwanegodd fod y sefyllfa "yn bygwth gwaethygu amseroedd aros am ambiwlans ac yn dangos pa mor wantan mae addewidion etholiad Llafur".
"Enghraifft glir o fethiant i gynllunio'r gweithlu" sydd yma, meddai'r Ceidwadwyr Cymreig, sy'n dweud ei bod hi'n "gwbl annerbyniol" nad oes swyddi i'r graddedigion.
Dywedodd llefarydd y byddai'r Ceidwadwyr yn "recriwtio, hyfforddi a chadw staff rheng flaen" gan sicrhau bod y rhai sydd "eisiau gwasanaethu ein cymunedau yn gallu gwneud hynny, a bod cleifion yn cael gofal amserol maent yn ei haeddu".
Mae Reform a'r Blaid Werdd wedi cael cais am sylw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.