Dedfrydu dyn o Wynedd, a geisiodd greu bomiau, am droseddau terfysgol

- Cyhoeddwyd
Mae cyn-fyfyriwr o Wynedd wnaeth lawrlwytho deunydd terfysgol o'r we, brolio am greu bom a cheisio creu dyfeisiau ei hun, wedi ei ddedfrydu.
Cafwyd Ashton Rees, 21 o Fangor, yn euog o bedwar cyhuddiad o feddu ar wybodaeth all fod yn ddefnyddiol i berson gyflawni neu baratoi gweithred derfysgol.
Clywodd y gwrandawiad dedfrydu yn Llys y Goron Lerpwl bod Rees wedi ymchwilio sut i wneud bomiau, a bod dwy ddyfais wedi eu canfod yn ei gartref.
Ond mae dwy ddyfais arall, a gafodd eu cuddio mewn coedwig, heb eu canfod.
Roedd Rees wedi rhannu'r dogfennau am greu bomiau gyda phobl eraill ar-lein, ac roedd lluniau ohono yn gwisgo dillad oedd â chysylltiadau eithafol - gan gynnwys mwgwd a chrys-t gyda slogan debyg i unigolyn wnaeth ladd disgyblion ac athro yn ysgol Columbine yn yr UDA yn 1999.
Clywodd y gwrandawiad bod Rees hefyd mewn cysylltiad ag unigolyn o Bort Talbot a gafwyd yn euog o droseddau terfysg yn ddiweddarach.
Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Cummings KC bod awtistiaeth y diffynnydd yn "rhannol" esbonio'r troseddau, a'i fod wedi ystyried ei oed adeg y troseddu - rhwng 17 ac 19 oed.
Dywedodd cyfreithiwr y diffynnydd bod gan Rees "ddiddordeb obsesiynol gyda gwneud pethau", ac nad oedd tystiolaeth ei fod yn cynllunio unrhyw ymosodiadau terfysgol.
Cafodd Rees ddedfryd o 12 mis o garchar a 12 mis ar drwydded, wedi ei gohirio am ddwy flynedd.
Bydd rhaid i'r cyn-fyfyriwr bioleg y môr hefyd gwblhau cyfnod adfer 60 diwrnod, a 200 awr o waith di-dâl.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mawrth
