Hassan Khan, y dyn o Gaernarfon a sgandal anghyfiawnder yr 80au

Fe wnaeth Hassan Khan gael ei garcharu am 15 mlynedd am ladrad arfog, ond fe gafodd ei ryddhau ar ôl dwy
- Cyhoeddwyd
Mae mab dyn o Gaernarfon ddaeth yn adnabyddus ar ôl ennill apêl wedi iddo gael ei garcharu ar gam wedi talu teyrnged iddo wedi ei farwolaeth.
Yn ystod yr 1980au a'r 90au cafodd Hassan Khan sylw eang ac roedd yn rhan o sgandal anghyfiawnder gafodd ei drafod yn San Steffan.
Roedd yn un o dros 100 o achosion llys - gan gynnwys y Birmingham Six - wnaeth unai fethu neu a gafodd y dyfarniad ei wyrdroi oherwydd ymddygiad yr heddlu gan arwain at ddiddymu uned gyfan a disgyblu swyddogion.
Wedi ei farwolaeth ar 25 Chwefror, yn 71 oed, dywedodd ei fab Yassa Khan: "O dan y cyfan, dwi'n teimlo'r cariad pur tuag at Dad sydd wedi bod yno erioed."
Yassa Khan: Bywyd 'fel ffilm Goodfellas - ond yng Nghaernarfon'
- Cyhoeddwyd25 Mai 2024

Hassan Khan, fu farw yn 71 oed
Fe gafodd Hassan Khan ei fagu yn ardal Birmingham yn yr 1950au a 60au cyn setlo yng Nghaernarfon ar ôl cyfarfod merch o'r dre'.
Roedd ganddo record o droseddu ers iddo fod yn ei arddegau, yn cynnwys dwyn efo gwn tegan a derbyn nwyddau wedi eu dwyn.

Hassan Khan yn ifanc
Ond yn 1987 fe gafodd ei arestio am drosedd mwy difrifol - lladrad arfog yn ardal Birmingham.
Ar ôl clywed bod yr heddlu yn chwilio amdano aeth o'i wirfodd i'w orsaf leol yng Nghaernarfon.
Heb gael gweld twrna, fe gafodd ei roi mewn car gyda thri ditectif o Heddlu West Midlands wnaeth ei gyhuddo o'r lladrad arfog yng nghanolbarth Lloegr.
Ar ôl gwadu'r cyhuddiad, fe honnodd iddo gael ei guro a'i fygwth gan yr heddlu tan iddo gytuno i arwyddo datganiad yn cyfaddef i'r cyfan.
Fe gafodd ei ddyfarnu'n euog mewn achos llys a chael 15 mlynedd o garchar.
Brwydrodd yn erbyn y dyfarniad a denu sylw'r wasg yn lleol ac ar draws Prydain, gan gynnwys gan The Independent, y BBC ac ITN.
Adroddiad newyddion BBC Cymru o gartref Hassan Khan yng Nghaernarfon yn 1990
Mewn cyfweliad i Cymru Fyw yn 2023 dywedodd Yassa Khan, yr hynaf o'i dri o blant, am y cyfnod:
"Roedd y media storm rownd Dad yn quite massive, a wnaeth [y grŵp pop Cymraeg] Amddiffyn 'neud cân amdana fo.
"Roedd fi a Mam ar ITN ac roedd 'na lot o interest yndda fo a dwi'n cofio bod yn overwhelmed efo faint o bobl am y tro cynta' yn eu bywyd oedd yn ralio dros Dad yn meddwl bod o'n innocent.
"Dwi'n cofio roedd 'na petitions yn bob siop yn Dre."

Fe recordiodd y grŵp Amddiffyn gân am ymgyrch apêl Hassan Khan – gyda Yassa, oedd yn blentyn ysgol gynradd, yn y fideo
Rhan ganolog o'r achos yn erbyn Hassan Khan oedd ei gyfaddefiad a gafodd ei wneud, meddai'r heddlu, yn y car wrth deithio rhwng gogledd Cymru a Birmingham.
Roedd y 1,200 o eiriau o gyfaddefiad wedi eu hysgrifennu yn y car gan y ditectif oedd yn gwneud yr holi ac oedd yn defnyddio fflachlamp wedi ei roi o gwmpas ei wddf er mwyn gallu gweld yn iawn.
Yn ôl y barnwr, doedd llawysgrifen y ditectif wrth deithio yn y car yn y tywyllwch ddim yn wahanol iawn i'w lawysgrifen arferol.
Doedd yr euogfarn ddim yn ddiogel, meddai'r Llys Apêl, a chafodd Hassan Khan ei ryddhau ar ôl dwy flynedd. Roedd yn un o nifer o achosion tebyg yn gysylltiedig gydag uned troseddau difrifol Heddlu'r West Midlands. Yn dilyn ymchwiliad beirniadol fe gafodd yr uned ei diddymu a nifer o heddweision eu disgyblu.

Hassan Khan yn ddyn ifanc, a gyda'i fab Yassa Khan yn yr 1980au
Yna yn 2005 fe gafodd Hassan Khan ddedfryd am oes am ladrad arfog yn ne Lloegr.
Fe geisiodd apelio unwaith eto gan godi cwestiynau am yr ymchwiliad ac ymddygiad un ditectif yn benodol - oedd wedi bod yn aelod o uned troseddau difrifol Heddlu West Midlands.
Ond ar ôl ymchwiliad fe benderfynodd Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol beidio rhoi'r achos gerbron y Llys Apêl.
Fe dreuliodd Hassan Khan y rhan fwyaf o'r ddau ddegawd diwethaf o dan glo cyn cael ei ryddhau yn 2022. Bu'n diodde' o ganser yn ddiweddar.

Hassan Khan gyda'i fab hynaf Yassa yn fabi, ac yn ddiweddar
Mae ei fab hynaf Yassa Khan wedi ysgrifennu a chyfarwyddo ffilm fer PINK am ei berthynas gymhleth gyda'i dad.
Dywedodd wrth Cymru Fyw yn dilyn ei farwolaeth: "Pan dwi'n meddwl am Dad, dwi'n teimlo bob math o emosiynau - poen, balchder a chariad. Mae'n deimlad dwi erioed wedi gallu ei ddatod yn iawn.
"Ond unwaith nes i ei weld o ar ei wely angau - yn fregus a dryslyd - diflannodd y cymhlethdod. Yr unig beth oedd ar ôl oedd hiraeth - yr hiraeth amdano dwi wedi ei gael erioed. Ac o dan y cyfan, cariad pur at Dad dwi wedi ei gael erioed."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2025
