Byw gyda MS: 'Newidiodd ein bywydau ni dros nos'

- Cyhoeddwyd
"Yn 2002, aeth Mam i'w gwely un noson yn hollol iach, ac yn y bore, mi ddeffrodd hi a doedd hi methu symud."
Dwy oed oedd Elliw Sian pan ddechreuodd symptomau ei mam. I ddechrau, roedden nhw'n meddwl fod y fam i ddau o blant ifanc wedi cael strôc.
Ar ôl profion a misoedd o aros, cafodd ddiagnosis ym mis Ebrill 2003 o Sglerosis Ymledol neu MS.
"Yn ei 20au hwyr oedd hi, ac roedd ganddi fabi – fi – newydd droi'n ddwy oed a 'mrawd yn chwech," eglurai Elliw, "ac yn bartner i'n nhad ac yn iach... a dros nos fel'na, fel switsh, newidiodd ei bywyd hi."
Gofalwr ifanc
Newidiodd bywyd y teulu o Ddyffryn Nantlle i gyd. Bu'n rhaid i Elliw a'i brawd dyfu i fyny yn gyflym, meddai, gan orfod ymdopi â sefyllfaoedd doedd eu ffrindiau ddim yn gorfod meddwl amdanyn nhw, wrth helpu i ofalu am eu mam.
"Wrth dyfu i fyny fel gofalwr ifanc, o'dd o'n golygu cario lot o gyfrifoldebau o oed ifanc. A dim jest y gwaith domestig, fel helpu Mam efo'i thabledi hi, helpu i'w 'molchi hi, ei chodi hi o'r gwely, helpu iddi gerdded o'r stafell fyw i'r stafell gefn... Ond y poen meddwl o ran poeni am iechyd Mam fel plentyn.
"Weithiau, mae'r ochr seicolegol yn fwy na'r tasgau dyddiol. Dwi'n cofio bod yn blentyn ifanc iawn – tua chwech oed – pawb arall ar yr iard yn mwynhau'i hun amser cinio, ac ista yna'n meddwl: Sut mae Mam? Sut fydd hi pan fydda i adra?"
A hithau ond yn ddwy oed pan aeth ei mam yn sâl, dydy Elliw ddim yn ei chofio hi yn 'iach', dim ond yn cofio pan oedd yn gallu gwneud mwy, cyn i symptomau waethygu.
"Dwi'n cofio Mam yn medru gwneud mwy o bethau yn annibynnol. Dwi'n cofio Mam yn medru gyrru'r car – dydy hi ddim wedi gwneud hynny ers dros 15 mlynedd bellach. Cof plentyn ydy pob dim."
Mae symptomau MS yn amrywio o berson i berson, ac mae ei mam wedi dioddef â symptomau sydd wedi mynd a dod dros y blynyddoedd, meddai.
"Yn y blynyddoedd diwetha', mae Mam wedi colli'i golwg yn ei llygad dde. Dydy hi methu cerdded yn bell o gwbl, ond dydy hi methu cerdded heb help ffon. Mi 'naeth hi golli ei llais yn gyfan gwbl am dri neu bedwar mis, chwe mlynedd yn ôl.
"Tydy hi methu g'neud tasgau dyddiol 'da ni'n ei gymryd yn ganiataol yn hawdd iawn."
Profiadau wedi cynnau fflam
Er ei bod yn cyfaddef fod y ffaith iddi orfod bod yn ofalwr ifanc yn "pwyso" ar ei mam, mae Elliw yn dweud fod cael y rôl yna wedi siapio pwy ydy hi.
Dewisodd wneud gradd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac mae hi wrthi'n gwneud cwrs Meistr mewn Cyfraith Hawliau Dynol – a hynny'n bennaf oherwydd ei phrofiadau hi a'i theulu.

Elliw gyda'i rhieni ar ddiwrnod graddio
"Dwi'n meddwl bod fi yn ofalwr ifanc wedi rhoi y fflam 'na – isho gweld pobl yn cael y cyfle i 'neud be' maen nhw isho, ac isho g'neud yn saff bod y polisïau 'ma sydd mewn lle yn g'neud da er mwyn pobl. Oherwydd dwi 'di gweld systemau yn eu lle, a rheiny ddim yn gweithio.
"Dwisho bod mewn sefyllfa lle fedra i fynd at [bobl], gwrando be' ydy'u pryderon nhw, neu beth sydd ddim yn gweithio, a chael y sgiliau i newid neu fireinio, a bod y gofal maen nhw isho'i dderbyn yn ofal sy'n gweithio iddyn nhw.
"'Da chi'n byw drwy'r profiad efo'r person, felly mae hi'n bwysig gwrando, nid yn unig arna i fel gofalwr ifanc, ond be' am Nain a Taid, be' am ffrindiau Mam? Mae isho edrych yn ehangach wastad."
Ymchwil a gobaith
A hithau'n fis Ymwybyddiaeth Sglerosis Ymledol, mae Elliw yn awyddus i godi ei llais am y cyflwr sydd yn newid bywydau – nid dim ond y dioddefwyr ond eu teuluoedd a'u ffrindiau – ac i godi arian ar gyfer gwaith ymchwil.
"'Dan ni fel teulu wedi gweld y gwahaniaeth yn yr ymchwil fel oedd o ar gychwyn taith Mam, a rŵan. Mae o'n anhygoel be' fedra nhw ei wneud. Mae codi ymwybyddiaeth bod ymchwil dal angen cael ei wneud yn hollbwysig.
"Mae Mam yn cael cyfnod gwych ar y funud. Mae hi'n sefydlog ofnadwy. Mae hi dal i wenu, a dal yn gafael yn dynn mewn gobaith fel mae hi erioed."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2024

- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2025
