Dirwy o dros £2m i gwmni Huws Gray ar Ynys Môn yn dilyn marwolaeth gweithiwr

- Cyhoeddwyd
Mae cwmni deunydd adeiladu y mae eu pencadlys wedi'i leoli yn Llangefni, Ynys Môn wedi cael dirwy o dros £2m ar ôl i weithiwr gael ei wasgu a'i ladd gan beiriant.
Bu farw Paul Coulson, 56, ar 22 Mai 2024 pan ddefnyddiodd gweithiwr arall beiriant cludo (conveyor) heb sylweddoli bod Mr Coulson wedi camu y tu mewn iddo.
Digwyddodd y digwyddiad ar un o safleoedd cwmni Huws Gray yn Suffolk.
Fe blediodd Huws Gray yn euog i dorri Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 ac maen nhw wedi cael dirwy o £2.2m a'u gorchymyn i dalu'r costau llawn o £9,929 yn Llys Ynadon Chelmsford.
Dywedodd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) fod hyn yn "fethiant syfrdanol" ar ran y cwmni a bod "maint y ddirwy yn adlewyrchu difrifoldeb yr achos".

Cafodd Mr Couslon ei wasgu gan balet pren oedd yn pwyso tua thair tunnell
Yn rhan o swydd Mr Coulson roedd angen iddo dynnu unrhyw becynnu plastig o baletau pren ac fe gamodd i fewn i fframwaith y peiriant cludo er mwyn cael gwared ar rywfaint o blastig.
Ond doedd gweithiwr arall methu â gweld Mr Coulson, ac fe daniodd y peiriant cludo.
Arweiniodd hyn at y paletau pren, oedd yn pwyso tua thair tunnell, yn gwasgu'r dyn 56 oed.
Sylweddolodd y gweithiwr arall nad oedd y paletau pren yn symud felly newidiodd y cyfeiriad a thrio eto - gan wasgu Mr Coulson am yr eildro.
Roedd yr anafiadau mor ddifrifol bu farw Mr Coulson yn y fan a'r lle.

Wrth gynnal ymchwiliad, fe ddatgelodd HSE fod y cwmni eisoes wedi nodi bod gweithwyr yn mynd mewn i'r ardal beryglus o fewn y peiriant cludo ac wedi gosod arwyddion yn gofyn i weithwyr beidio â gwneud hynny.
Ond o edrych ar fideo CCTV rhwng 14 Ebrill a 23 Mai fe aeth gweithwyr i mewn i fframwaith y peiriant cludo ar 19 achlysur gwahanol.
Mae cwmni Huws Gray bellach yn ddarparwr deunydd adeiladau mawr gyda channoedd o fannau gwerthu ar draws y DU - ond fe ddechreuon nhw gyda dim ond un safle yn Y Gaerwen ar Ynys Môn.
Fe ddywedodd ymchwiliad HSE fod safle'r cwmni yn Suffolk, Herringswell Sawmills, wedi rhoi sticeri i fyny cyn y digwyddiad ond ni chafodd camau pellach eu cymryd tan ar ôl marwolaeth Mr Coulson.
Ers hynny mae mesurau pellach wedi cael eu cymryd i leihau'r risg o gael mynediad i'r peiriant gan gynnwys:
newid y drefn er mwyn cymryd y paletau allan o'u pecynnau cyn eu rhoi ar y peiriant
cael rhywun i warchod y peiriant er mwyn atal unrhyw un rhag cael mynediad
ac mae'r cwmni bellach yn sicrhau bod fideo CCTV ar gael i'r person sy'n defnyddio'r peiriant er mwyn iddo allu gweld pob ongl.
Dywedodd arolygydd HSE, Joanne Williams fod hyn yn "fethiant syfrdanol sydd wedi costio bywyd dyn ac wedi dwyn anwylyd oddi wrth ei deulu".
Ychwanegodd bod yn rhaid i bob cwmni, beth bynnag yw eu maint ddilyn rheolau diogelwch o ran defnyddio offer peryglus yn y gwaith.
"Pe bai Huws Gray Ltd wedi cymryd camau cadarn pan ddaethon nhw'n ymwybodol o'r broblem, mi fyddai Paul Coulson yn fyw heddiw," meddai.
"Bydd ein meddyliau bob amser gyda'i deulu a'i ffrindiau am y golled y maen nhw wedi'i dioddef."
Mae cais wedi cael ei wneud am sylw gan gwmni Huws Gray.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.