Troi'r cloc yn ôl i rêfs 2006

Tom Chetwode-Barton Ffynhonnell y llun, Working Word
Disgrifiad o’r llun,

Tom Chetwode-Barton yw un o gynhyrchwyr y prosiect

GanIwan Arwel
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Breuddwyd sawl person yw i allu troi y cloc yn ôl a dychwelyd i gyfnod yn eu harddegau.

Dyna'n union mae'r cynhyrchydd ffilm o Fôn, Tom Chetwode-Barton, wedi'i wneud drwy'r cynhyrchiad Ôl.

Mae Ôl yn cludo cynulleidfaoedd nôl i Lanberis yn 2006, i gyfnod pan oedd y wê a chyfryngau cymdeithasol yn eu dyddiau cynnar a phobl ifanc y cyfnod yn arfer â chymdeithas sy'n newid.

Dyna'r math o fywyd gafodd Tom yn tyfu fyny, a thrwy ddefnydd VR (realaeth rithwir) a chynhyrchiad sy'n llawn cerddoriaeth Gymraeg, mae cyfle i bobl yn 2026 brofi sut beth oedd mynychu rêfs yn 2006 a byw bywyd creadigol y cyfnod.

ÔlFfynhonnell y llun, Working Word
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r delweddau o fynyddoedd llechi Llanberis yn y cynhyrchiad

Dywedodd Tom ar raglen Llwyfan ar BBC Radio Cymru: "Profiad immersive VR ydi Ôl, stori hogyn ifanc cwiar yn ystod noson o fynd i barti yng Ngogledd Cymru.

"Mae'r stori yn cynnwys nostalgia, mixed media, darnau o media gan yr Archif yn Llyfrgell Cenedlaethol Cymru.

"Just basically am fod yn ifanc yn rhywle fel Gogledd Cymru, lle 'nes i dyfu i fyny efo'r sîn partïon a'r cerddoriaeth tecno a ballu," meddai.

Mae'r profiad yn cael ei arwain gan ddau actor gwahanol; yn Gymraeg gan Steffan Donnelly (Theatr Cymru), a'r seren o Gymru, Callum Scott-Howells (It's a Sin) yn Saesneg.

"Mae o fel cymysgfa o gêm, ffilm a theatr ar yr un adeg. Mae'n ffordd newydd o'r media sy'n tyfu ac sy'n datblygu yn ofnadwy o gyflym ac mae'n gallu bod yn emosiynol iawn."

Realiti RhithiolFfynhonnell y llun, Working Word
Disgrifiad o’r llun,

Mae defnyddwyr yn gwisgo peiriant realiti rithwir ar eu pennau

"Roedd o'n bwysig i mi fod y gerddoriaeth i gyd yn Gymraeg; pethau fel Super Furry Animals, Datblygu, Venetian Snares, ond hefyd yn electronig.

"Mae o'n math o gymysg o beth sy'n Gymraeg, yn dod o Gymru ac hefyd am hanes cerddoriaeth electronig.

"Tyfais i fyny yn mynd i free parties. Does 'na ddim byd mwy Cymraeg 'na rhywun yn setio fyny rig mewn cae yn rywle a dechra rhyw fath o barti.

"Dwi'n meddwl fod 'na wbath unigryw iawn am free party, fath â rêf 'di o a dwi'n meddwl fod 'na 'wbath am yr ysbryd yna sydd yn unigryw iawn yn Gymraeg achos mae croeso i bawb.

"Does 'na ddim beirniadu ar neb, does 'na ddim prejudice.

"Mae pawb just yna i edrych ar ôl ei gilydd a chael noson anhygoel," meddai.

llun o 2006Ffynhonnell y llun, Working Word
Disgrifiad o’r llun,

Dewlwedd arall o 2006

Mae'r profiad o wisgo'r penwisg VR yn rhoi cyfle i bobl gamu yn ôl i gyfnod gwahanol iawn o ran technoleg a dylanwad cyfryngau cymdeithasol.

Mae hefyd yn gyfnod ble nad oedd technoleg AI yn dylanwadu ar fywydau pob dydd unigolion.

Roedd o'n gyfnod cyffroes i bobl fel Tom, sy'n dweud fod darganfod y cyfryngau cymdeithasol yn y dyddiau cynnar wedi eu helpu nhw i ymdopi gyda'u hunaniaeth.

Ychwanegodd Tom: "'Nes i dyfu fyny yn 2006 ond hefyd dwi'n meddwl fod y cyfnod yna yn andros o ddiddorol achos mae o just fath â hyn oedd y rhyngrwyd really yn 'wbath oedd yn ddarn o'n bywydau ni i gyd.

"Roedd fel y Wild West, lle oedd 'na lot o bobl ifanc, yn enwedig pobl fel fi yn darganfod pethau fel Tumblr, er enghraifft. Heb Tumblr fyswn i ddim yn gwybod dim byd am ddiwylliant cwiar o gwbl," meddai.

Mae Ôl yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd tan 12 Ebrill ac mae modd cymryd rhan yn y profiad VR am ddim.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig