Teulu eisiau i fwy wybod am gyflwr lle mae 'amser yn allweddol' i gael triniaeth

Mae teulu Helen Edwards yn galw am fwy o ymwybyddiaeth o enseffalitis ar ôl ei salwch sydyn
- Cyhoeddwyd
Mae teulu o Geredigion eisiau i fwy o bobl wybod am symptomau enseffalitis ar ôl i'r cyflwr daro un aelod o'r teulu.
Dechreuodd Helen Edwards, sy'n fenyw busnes 74 oed, deimlo'n sâl ddechrau mis Medi y llynedd, gan brofi symptomau tebyg i'r ffliw fel blinder a thymheredd uchel.
Ar ôl cael triniaeth ar gyfer haint wrin i ddechrau, dechreuodd ddangos arwyddion o ddryswch a newid yn ei hymddygiad.
Dywed ei theulu eu bod am godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr er mwyn helpu eraill i adnabod y symptomau'n gynt.

Dywed Jane Richards fod "amser yn allweddol" wrth drin enseffalitis
Yn ôl merch Helen, Jane Richards, dechreuodd ei mam brofi symptomau oedd yn debyg iawn i'r ffliw, gan deimlo'n flinedig gyda thymheredd uchel.
Aeth at y meddyg ar 5 Medi a chael triniaeth ar gyfer haint wrin, yn ôl ei merch.
Ond yna dechreuodd ei mam ymddwyn yn anarferol ac yn ddryslyd, gan ddangos arwyddion bod rhywbeth mwy difrifol yn bod.
Dywedodd Jane: "Efallai bydde hi yn mynd i'r 'stafell anghywir er enghraifft, ac roedd pethe eraill rhyfedd yn digwydd a 'naethon ni ddechrau meddwl bod rw'beth mwy na urine infection fan hyn.

Roedd Helen Edwards yn iach ac yn weithgar cyn i'w chyflwr waethygu'n sydyn
Cyn hyn, roedd Helen yn iach ac yn weithgar, yn mwynhau nofio yn y môr, chwarae pêl-fasged a gofalu am ei hwyrion.
Roedd hefyd yn cerdded y ci bob bore ac yn parhau i helpu gyda busnes cludiant y teulu, yn ogystal â rhedeg ei busnes ei hun yn gwerthu bwyd anifeiliaid a gwrtaith.
Wrth i'w chyflwr waethygu'n sydyn, dywed Jane nad oedd ei mam yn deall ei bod yn sâl.
"Bryd hynny roedd rhaid i ni drio ei pherswadio hi i fynd i'r ysbyty achos doedd e ddim yn amlwg iddi hi bod rw'beth yn bod."
'Doedd hi ddim yn gallu siarad'
Ar ôl iddi gael ei derbyn i adran A&E Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, roedd angen i aelodau'r teulu aros gyda hi drwy'r amser oherwydd ei dryswch.
Dywed Jane fod ei mam wedi colli'r gallu i symud yn iawn, i fwyta ac i siarad.
"Roedd ei co-ordination wedi mynd, doedd hi methu hyd yn oed codi cwpan, a dyma hi yn dechrau cysgu mwy a mwy a ddim yn deffro a dechrau crynu a methu stopio. Erbyn y diwedd doedd hi ddim yn gallu siarad."
O fewn cyfnod byr iawn roedd ei symptomau'n newid o ddydd i ddydd, ac nid oedd y teulu na'r meddygon yn siŵr beth oedd yn bod.
Enceffalitis: 'Angen gw'bod mwy wedi i Dad farw o'r cyflwr'
- Cyhoeddwyd21 Chwefror
Gwella anafiadau i'r ymennydd drwy syrffio
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2022
Achosion o enseffalitis yn uwch yn sgil Covid
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2021
Dywed Jane fod y teulu wedi chwilio am atebion ar-lein tra bod meddygon yn cynnal profion.
"Ar y dechrau roedden nhw'n meddwl mai haint ar yr wrin oedd e.
"Mae hyn yn digwydd yn aml o ran diagnosis achos mae y symptomau yn debyg, neu yn aml hefyd ma' nhw'n meddwl bod rhywun wedi cael stroc."
Er gwaethaf triniaethau gwrthfiotig, ni welwyd unrhyw welliant yn ei chyflwr.
Ar 12 Medi cafodd Helen ddiagnosis o enseffalitis.
Dywed y teulu pe baent wedi bod yn ymwybodol o'r cyflwr yn gynharach y byddent wedi "trio annog mwy o ymchwil i'r mater", ac maen nhw am adrodd eu profiad er mwy annog teuluoedd eraill i fod yn wyliadwrus am y symptomau.
'Ymwybyddiaeth yn beryglus o isel'
Mae enseffalitis yn gyflwr sy'n effeithio ar dri o bobl bob munud ledled y byd, ond mae ymgyrchwyr yn rhybuddio bod ymwybyddiaeth y cyhoedd ohono yn "beryglus o isel".
Mae'r cyflwr yn achosi llid neu chwydd bygythiol ar yr ymennydd, a gall arwain at ffitiau, cyfnodau o ddryswch a cholli'r gallu i gerdded neu siarad.
Yn ôl yr elusen Encephalitis International, sydd yn helpu'r teulu o Benrhyncoch, gallai'r cyflwr effeithio ar bobl o bob oedran ac mae oedi cyn diagnosis yn gallu arwain at "niwed pellach hirdymor".

Mae'r teulu'n dweud bod cyfnod ansicr o'u blaenau wrth i Helen barhau i dderbyn triniaeth
Dywed Jane fod "amser yn allweddol", gan nodi bod triniaeth wrthfeirysol o fewn 48 awr yn cynyddu'r siawns o osgoi'r symptomau mwyaf difrifol.
"Y mwya' o oedi sydd yn y driniaeth a'r ddiagnosis, mae'r outcome yn waeth."
Mae Helen bellach yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Treforys, Abertawe, ac mae ei chyflwr yn parhau i beri pryder i Jane.
"Yn achos mam ma gyda hi acquired brain injury nawr sy' yn golygu bod rhan o'i hymennydd hi ddim yn gweithio."
Mae hi'n annog pobl i ddysgu mwy am y symptomau ac i siarad ar ran rhywun sy'n rhy sâl i wneud hynny drosto'i hun.
"Dy' nhw ddim yn gallu siarad a dweud be' sy'n bod.
"Dyw doctoriaid ddim wastad yn gw'bod amdano fe achos dy' nhw ddim 'di dod ar ei draws e yn aml.
"Gan fod yr amserlen yn bwysig ma nabod y symptomau yn really bwysig."
'Symptomau tebyg i sawl cyflwr'
Dywedodd Mark Henwood, Cyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, fod enseffalitis yn "gyflwr prin a difrifol sy'n anodd ei ddiagnosio oherwydd bod y symptomau'n debyg i sawl cyflwr arall".
"Fel bwrdd iechyd rydym wedi ymrwymo i rannu gwybodaeth am gynifer o afiechydon a chyflyrau â phosibl – yn enwedig y cyflyrau mwyaf cyffredin sy'n effeithio ar nifer fawr o bobl."
Ychwanegodd fod y bwrdd iechyd yn annog unrhyw un sy'n teimlo'n sâl i gysylltu â GIG 111 oni bai ei fod yn argyfwng, pan ddylid ffonio 999.
"Gallwch hefyd wirio Gwiriwr Symptomau GIG 111 Cymru ar-lein sydd â gwybodaeth am enseffalitis."
Dywedodd hefyd fod staff yn cael eu hyfforddi i'r safonau uchaf i ymateb yn gyflym i "ystod eang o gyflyrau".