Pleidiau asgell chwith am atal Reform rhag ffurfio llywodraeth - Drakeford

Llun o Mark Drakeford yn sefyll wrth podiwm.  Mae e'n gwisgo siwt dywyll, crys gwyn a thei goch.Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Fydd ymgeisydd Reform i fod yn brif weinidog 'ddim yn llwyddo', yn ôl Mark Drakeford

GanCemlyn Davies
Gohebydd gwleidyddol BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Bydd y pleidiau asgell chwith yn Senedd Cymru yn atal Reform rhag ffurfio'r llywodraeth nesaf hyd yn oed os ydy'r blaid yn ennill y nifer fwyaf o seddi yn yr etholiad, yn ôl un o weinidogion amlycaf Cymru.

Daeth sylwadau Mark Drakeford wrth i'r polau piniwn awgrymu bod Reform yn cystadlu gyda Phlaid Cymru i fod y blaid fwyaf yn dilyn y bleidlais ar y seithfed o Fai.

Gan nad oes disgwyl i'r un blaid ennill dros hanner y seddi, mae'n debygol y bydd yn rhaid i unrhyw blaid sydd am arwain y llywodraeth ddod i gytundeb er mwyn sicrhau'r nifer angenrheidiol o bleidleisiau i'w harweinydd ddod yn brif weinidog.

Dywedodd arweinydd Reform yng Nghymru Dan Thomas: "Bydd pleidiau'r sefydliad yn gwneud unrhyw beth o fewn eu gallu i atal pobl go iawn rhag cael sedd wrth y bwrdd, a chael eu clywed."

Her 'gweitho gyda'i gilydd'

Mewn cyfweliad gyda rhaglen Politics Wales BBC Cymru, dywedodd y cyn-brif weinidog Llafur a'r ysgrifennydd cyllid presennol Mark Drakeford: "Mae wastad rhwng dau draean a thri chwarter o boblogaeth Cymru yn dewis pleidleisio dros bleidiau sy'n disgrifio eu hunain fel pleidiau sydd i'r chwith o'r canol, ac mae bob tro wedi bod traean neu chwarter o boblogaeth Cymru sydd wedi dewis pleidiau ar y dde."

"Dydw i ddim yn meddwl y bydd hynny'n wahanol yn y Senedd nesaf...a'r her wleidyddol i'r pleidiau blaengar fydd gallu gweithio gyda'i gilydd yn ddigonol i ddarparu'r llywodraeth sefydlog a blaengar mae pobl Cymru'n edrych i'r Senedd ei darparu."

Wedi'r etholiad bydd gan bob plaid yr hawl i enwebu ei harweinydd i fod yn brif weinidog, ond dywedodd Drakeford: "Dydw i ddim yn credu am eiliad y byddai ymgeisydd Reform yn cael sêl bendith y Senedd achos dwi'n meddwl y bydd gan y Senedd yna dri chwarter neu ddau draean o'i haelodau fydd ddim yn rhannu gwerthoedd y blaid honno.

Ychwanegodd: "Felly hyd yn oed os mai nhw fydd y blaid fwyaf – a dydw i ddim yn credu y bydd hynny'n digwydd – ond hyd yn oed os oedden nhw, gallan nhw gyflwyno'i hymgeisydd, a fydd yr ymgeisydd yna ddim yn llwyddo."

Pan awgrymwyd iddo y gallai hynny arwain at feirniadaeth bod y pleidiau asgell chwith yn dod at ei gilydd i atal Reform, dywedodd Drakeford: "Byddai gan y pleidiau asgell chwith...fwy o seddi a mwy o bleidleisiau rhyngddyn nhw a bydden nhw'n pleidleisio mewn modd fyddai'n adlewyrchu eu hetholwyr."

Dywedodd arweinydd Reform yng Nghymru Dan Thomas: "Bydd pleidiau'r sefydliad yn gwneud unrhyw beth o fewn eu gallu i atal pobl go iawn rhag cael sedd wrth y bwrdd, a chael eu clywed."

"Ym mis Mai mae'n amser anfon neges iddyn nhw nad ydy pobl Cymru'n barod i gael eu hanwybyddu eto."

Llun o Mark Drakeford a gohebydd gwleidyddol BBC Cymru Cemlyn Davies yn eistedd wrth bwrdd.  Mae'r ddau'n edrych tuag at y camera.
Disgrifiad o’r llun,

Siaradodd Mark Drakeford gyda Cemlyn Davies wrth i'w amser yn y Senedd ddod i ben

Daeth cyfweliad Mark Drakeford wrth i'w gyfnod ym Mae Caerdydd ddod i ben brynhawn Mercher yn dilyn cyfarfod olaf y Senedd cyn yr etholiad.

Ychydig iawn o bobl sydd wedi chwarae rôl bwysicach yn hanes datganoli ers 1999 na Drakeford.

Yn ymgynghorydd i'r prif weinidog ar y pryd Rhodri Morgan, helpodd i fraenaru'r tir ar gyfer gwleidyddiaeth Cymru yn y 21ain ganrif.

Yn 2011 cafodd ei ethol yn Aelod Cynulliad ac ers hynny mae e wedi gwneud rhai o'r swyddi amlycaf yn Llywodraeth Cymru.

Gwasanaethodd fel prif weinidog rhwng 2018-2024, gan arwain Cymru drwy'r pandemig.

Ond wedi arwain Llafur Cymru i fuddugoliaeth yn etholiad y Senedd yn 2021, mae'n gadael y Senedd gyda'i blaid ar ei hôl hi yn y polau piniwn.

Awgrymodd y pôl diweddaraf gan YouGov ar gyfer ITV Cymru Wales a Phrifysgol Caerdydd, dolen allanol bod y blaid yn drydydd ar 13%, o flaen y Gwyrddion ar 12%.

'Pobl yn colli ffydd'

Pan ofynnwyd iddo beth oedd yn gyfrifol am berfformiad Llafur yn y polau piniwn, dywedodd Drakeford: "Does dim dwywaith bob tro rydych chi'n ennill etholiad mae'r rhiw yn mynd yn fwy serth y tro nesaf."

"Mae 'amser am newid' yn slogan pwerus iawn mewn gwleidyddiaeth a'r hiraf rydych chi mewn gwleidyddiaeth, y mwyaf pwerus yw'r slogan.

"Felly mae llawer o rwystrau i ennill etholiad arall eto, ac mae'r zeitgeist yn wahanol.

"Mae teimlad, ar ôl blynydde o lymder, nad ydy'r system yn gweithio i bobl, ac wedyn mae pobl yn colli ffydd yn y ffyrdd o wneud pethau yr oedden nhw wedi eu cefnogi yn y gorffennol."

Ydy e'n cymryd cyfrifoldeb personol am berfformiad Llafur yn yr arolygon barn?

"Dydych chi ddim yn gwneud y swyddi yma heb fod yn barod i ysgwyddo'r cyfrifoldeb yna.

"Fe es i i mewn i'r etholiad diwethaf ar sail pôl piniwn ddywedodd taw hwnnw fyddai perfformiad gwaethaf Llafur erioed ac, yn y diwedd, chwe wythnos yn ddiweddarach, hwnnw oedd ein perfformiad gorau."

Mae modd gwylio Politics Wales ar BBC1 am 10:00 ar fore Sul 29 Mawrth ac ar iPlayer

Pynciau cysylltiedig