Etholiad: Cynhadledd 'mor bwysig' i ysbrydoli pobl ifanc i bleidleisio

Pobl ifanc
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gynhadledd ei chynnal gan yr Urdd yn y brifddinas

  • Cyhoeddwyd

Mae pobl ifanc wedi mynegi eu blaenoriaethau, wrth i etholiad y Senedd ym mis Mai agosáu a'r pleidiau yn prysur geisio ennill cefnogaeth.

Yng Nghaerdydd ddydd Iau, daeth 160 o ddisgyblion o bob cwr o Gymru i gynhadledd oedd wedi'i threfnu gan yr Urdd.

Yn benllanw i hyn oedd rhifyn arbennig o Pawb a'i Farn ar S4C a bu dau oedd yno ar y diwrnod, Aled ac Alys o Ysgol Bro Morgannwg, yn siarad ar Dros Frecwast.

Dywedodd Sian Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd, fod y digwyddiad wedi "dod â phobl ifanc ynghyd i gwrdd â gwleidyddion i holi'r cwestiynau, i glywed y sylwadau a gobeithio eu hysbrydoli nhw ar gyfer y dyfodol, ar gyfer 7 o Fai i bleidleisio."

Wrth siarad ar Dros Frecwast, dywedodd Aled ac Alys eu bod wedi cael nifer o sesiynau fel paratoi cwestiynau hystings a dysgu am y system bleidleisio newydd yn y gynhadledd.

Esboniodd Aled ei fod wedi cael profiad da a bod y ffaith bod cynrychiolaeth o bob plaid yn golygu ei fod yn medru "gweld yr opsiynau".

Un o'r blaenoriaethau o ran pynciau i Aled ydy addysg a chyllid myfyrwyr.

"Nes i really mwynhau'r drafodaeth agoriadol yn sôn am sut mae pleidiau yn bwriadu gwella'r gorwelion ar gyfer graddedigion."

Roedd Alys yn fodlon bod pobl ifanc yn cael digon o wybodaeth ar faterion sydd wedi'u datganoli, ond roedd hi'n teimlo bod angen mwy o bwyslais arnyn nhw.

"Dwi'n teimlo bod angen mwy o bwyslais ar y pynciau sy'n cael eu rheoli yn y Senedd yng Nghaerdydd, fel iechyd, cyllid a'r ochr ariannol."

'Sicrhau llais i bobl ifanc'

Dywedodd Alys fod y cyfryngau cymdeithasol yn eithaf pwysig o ran rhannu ymwybyddiaeth ymhlith bobl ifanc am wleidyddiaeth yng Nghymru.

"Ond, sai'n credu bod digon o bwyslais ar be' mae pleidlais yn g'neud a'r gwahaniaethau sydd.

"Dyna pam fi'n meddwl bod dyddiau fel ddoe, sy'n cael ei drefnu gan yr Urdd, mor bwysig, i hybu beth mae pob pleidlais yn golygu a be' sy' ar y gorwelion ar gyfer pleidlais mis Mai."

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau sydd ar y gweill (Yn agor mewn tab porwr newydd)

Dywedodd Sian Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd mai bwriad y diwrnod oedd i "sicrhau bo' ni yn rhoi llais i bobl ifanc ac un o werthoedd craidd yr Urdd yw sicrhau hynny."

Ychwanegodd fod y digwyddiad wedi "dod â phobl ifanc ynghyd i gwrdd â gwleidyddion i holi'r cwestiynau, i glywed y sylwadau a gobeithio eu hysbrydoli nhw ar gyfer y dyfodol, ar gyfer 7 o Fai i bleidleisio."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.