Cyfnod ŵyna: Cysgu'n y garafan a hyfforddi ag oen plastig

- Cyhoeddwyd
Mae hi'n gyfnod prysur iawn i Elen Gwen Williams a'i theulu, a hithau'n gyfnod ŵyna iddyn nhw.
Mae Elen a'i phartner Owain wedi bod wrthi yn ŵyna mewn sied yn Rhosneigr, Ynys Môn ers dechrau Mawrth. Ac er ei fod yn gyfnod mae hi'n edrych 'mlaen ato bob blwyddyn, mae'n amser hir a blinedig, ac Elen yn "edrych ymlaen at noson allan wedyn!"
Mae'r blinder yn waeth eleni, eglura, ag Elen ar ei chyfnod mamolaeth gyda'u merch ifanc, Casi, a gan fod yna rhyw 150 o ddefaid yn y sied sydd angen eu sylw.
"Mae 'na bach o gystadleuaeth rhwng Owain a fi ar hyn o bryd, pwy sy'n cysgu orau! Neithiwr oedd y noson mae Casi 'di cysgu hira'.
"Pan mae o'n dod i'r tŷ, mae o'n cysgu ar y soffa so fod o ddim yn deffro ni. Fel arfer, 'da ni'n gallu dod â charafan – doedd ganddon ni'm lle eleni - a'i fod o'n cysgu yn y garafan, a bod o fath â crèche bach i'r plant!"
"Alli di weld pan ti'n mynd i'r sêl pwy sy'n ŵyna, achos bod nhw ddim 'di cael haircut ers dipyn!"
Rhaglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru
Ac er fod Elen wedi hen arfer ag ŵyna, a hithau wedi ei magu ar fferm Fron Felen yn Henllan, mae bod yn fam i Awel, sy'n dair a Casi, sy' bron yn 10 mis, yn golygu ei bod yn uniaethu ychydig mwy gyda'r defaid yn y sied fawr y dyddiau yma, meddai.
"Dwi'n ei gymharu o efo maternity ward! Os ydyn nhw'n dod ag oen eu hunain, 'sa ni'n dod â'r ddafad allan, mynd â hi i'r pen bach [yn y sied] wedyn, maen nhw yna am tua dau ddiwrnod, yn dibynnu os ydyn nhw'n iawn, a mae'r fam yn cymryd yr oen.
"Maen nhw'n dod i'r 'Cylch Meithrin', fel dwi'n licio'i alw o, i gymysgu. Unwaith mae popeth yn iawn, mi gâ'n nhw fynd allan i'r cae, a dyna pryd maen nhw'n 'mynd adra' i mi.
"Dwi'n fwy teimladwy tuag at y defaid rŵan, ar ôl cael plant!"
Elen yn siarad am y cyfnod ŵyna
Cynnig help llaw
Wrth gwrs, mae 'na adegau pan dydy natur ddim yn dilyn y cynllun, ac mae'n rhaid i'r ffermwr roi help llaw, ond mae blynyddoedd o brofiad, a digon o ymarfer, yn golygu fod Elen yn gwybod yn union beth sydd angen ei wneud er lles y ddafad a'r oen:
"Dwi'n cofio yn[g Ngholeg] Llysfasi, roedd 'na gefn dafad i ti bractisio efo oen plastig, ac oedd o'n dangos y gwahanol sefyllfaoedd 'sa ti'n gallu bod ynddyn nhw wrth dynnu oen.
"Rhai yn dod am ei ôl, so weithia' alli di jyst gael cynffon yn dod, wedyn tisho trio troi a thwistio er mwyn cael y coesau. Weithiau mae 'na un goes yn ôl ac un ymlaen. 'Da ni wedi bod yn bwydo rhai efo potel. Os oes 'na rai yn dod efo triplets, ti'n trio rhoi un i ddafad arall. Mae 'na rai wastad isho help.
"Mae mor bwysig, unwaith mae'r oen yn dod, bod y ddafad yn llyfu'r oen, a g'neud y bond sbesial yna. Achos pryd maen nhw yn y pen mawr, maen nhw'n nabod y fref, ac maen nhw'n gallu cofio'r ogla', felly pan maen nhw allan yn y cae, maen nhw'n gwybod.
"Dwi wrth fy modd yn gweld hynna – pryd mae'r ddafad yn brefu am yr oen, ac mae'r oen yn dallt fod Mam yn brefu, ac yn troi nôl. Mae'r bond yna'n bwysig."
Prysur ond pwysig
Dydy'r gwaith caled ddim drosodd i Elen a'r teulu eto - mae yna ychydig mwy o wythnosau prysur o'u blaenau - ond dyma un o gyfnodau pwysicaf y calendr amaethyddol iddyn nhw, eglurai, ac mae werth yr holl flinder.
"Mae o'r cyfnod mwya' prysur mae ffarmwr yn ei gael ond mae o'r cyfnod pwysica' achos dyma 'di'r arian sy'n dod fewn, pan maen nhw'n mynd i'r farchnad. Felly tisho gneud y gora' a chadw pob oen yn fyw a phob dafad yn iach.
"Mae'n gyfnod hir – alli di weld pan ti'n mynd i'r sêl pwy sy'n ŵyna, achos bod nhw ddim 'di cael haircut ers dipyn!
"Dwi'n ei fwynhau o – dwi'n edrych ymlaen iddo fo bob blwyddyn."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2025

- Cyhoeddwyd11 Chwefror

- Cyhoeddwyd28 Hydref 2025

- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2025
