'Swyddfa'r Post yn disgwyl i ni anghofio be da ni wedi mynd drwy'

Mae Susan a Cled Jones wedi cael llond bol ar ddisgwyl am iawndal
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-is-bostfeistr o Wynedd a gafodd ei gyhuddo o ddwyn yn ystod sgandal Horizon Swyddfa'r Post yn dal i aros am iawndal - 20 mlynedd ar ôl iddo sylwi gyntaf fod problemau gyda'r systemau cyfrifiadurol.
Roedd Cled Jones, 73, yn rhedeg Swyddfa'r Post pentref Bethel ger Caernarfon
"'Da ni wedi cau'r Post ers dros chwe mlynedd a does 'na dal ddim byd wedi cael ei 'neud i ni," meddai.
Daw ar ôl i adroddiad diweddar ddatgelu bod miloedd yn dal i aros am iawndal llawn o ganlyniad i systemau diffygiol Horizon.
Mae Swyddfa'r Post yn dweud eu bod yn prosesu ceisiadau "mor gyflym â phosib," gyda £882m eisoes wedi'i dalu.
Bu rhaid i Cled dalu dros £43,000 o'i arian ei hun i dalu am golledion honedig er mwyn osgoi mynd i'r carchar.
Dywedodd fod ei gyfreithwyr yn dal i weithio ar ei gais terfynol.
Swyddfa'r Post: 'Gobeithio bydd erlyniadau ond ddim yn dal fy ngwynt'
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2025
Sgandal Swyddfa'r Post: Alan Bates yn cytuno ar setliad
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2025
Galw am iawndal gan y rhai sydd wedi elwa o sgandal Swyddfa'r Post
- Cyhoeddwyd11 Medi 2025
Mae Susan Jones, gwraig Cled, newydd ddathlu ei phen-blwydd yn 70, ond doedd fawr o hwyliau dathlu arni.
Mae'r straen o weld ei gŵr yn parhau i frwydro dros gael iawndal yn pwyso'n drwm.
"Dwi jest yn teimlo dydan ni ddim yn cyfri' ddim mwy" meddai.
"Maen nhw isio ni gael llond bol a just give up."
Yn ôl Cled: "Maen nhw'n disgwyl i ni anghofio be' 'da ni wedi mynd drwy, ond 'nawn ni ddim 'neud hynna."
Yn 2004 penderfynodd Cled gymryd y fasnachfraint yn Swyddfa'r Post Bethel ger Caernarfon, ond trodd y swydd yn "hunllef".
Dros gyfnod o 14 mlynedd, talodd Cled dros £43,000 o'i arian ei hun i gyfrifon Swyddfa'r Post gan fod systemau cyfrifiadurol Horizon yn deud fod pres ar goll.
Dechreuodd sylwi ar y diffygion yn 2006. Penderfynodd dalu'r cwbl er mwyn osgoi mynd i'r carchar, ond dydy o ddim wedi cael iawndal llawn.
"Mae'r peth 'ma yn mynd ymlaen mor hir. 'Sa Swyddfa'r Post wedi gallu sortio fo lot cynt," meddai.

Dechreuodd Cled redeg Swyddfa'r Post Bethel yn 2006, tra bod ei wraig Susan yn cadw siop y pentref ar yr un safle
Mae hi'n ddwy flynedd ers i mi gyfarfod Cled a Susan ddiwethaf.
Ar y pryd, roedd drama deledu Mr Bates vs The Post Office wedi dod â sgandal Swyddfa'r Post yn ôl i'r amlwg, ac roedd Cled yn obeithiol am ei gais am iawndal.
Erbyn hyn, mae'n dweud fod mwy a mwy o gwestiynau yn cael eu gofyn am y cais.
"Dwi'n cael cwestiynau drwy'r amser," meddai. "Maen nhw'n gofyn rŵan, yr un peth mewn ffordd, ond mewn ffordd wahanol.
"Mae o fath â bo' nhw'n trio tripio chdi fyny, ond fedri di ddim tripio fyny os ti'n d'eud y gwir."
'Dwi wedi cael digon'
Mae'r straen ar iechyd meddwl y ddau wedi bod yn aruthrol, yn enwedig Susan.
"Dwi dal i gael abuse am hyn," meddai. "Dwi dan ofal doctor rŵan."
Mae hi'n dweud fod rhai pobl yn y pentref yn dal i'w chyhuddo o fod wedi dwyn.
"Dwi jest wedi cael digon."
Nid Cled a Susan ydy'r unig rai.
Mae Seema Misra, a gafodd ei charcharu ar gam tra roedd hi'n feichiog, yn dal i aros am arian hefyd, bum mlynedd ar ôl i'w heuogfarn gael ei diddymu.
Bu farw Parmod Kalia o dde Llundain yr wythnos diwethaf, heb gael iawndal llawn.

Yn 2024 cafodd tlws arbennig ei gyflwyno i Cled a Susan gan rai o drigolion Bethel i ddiolch iddyn nhw am eu gwasanaeth i'r gymuned
Mae adroddiad diweddaraf y Pwyllgor Busnes a Masnach yn nodi fod diffyg atebolrwydd gan gwmni Fujitsu yn broblem fawr.
Dydyn nhw heb gyfrannu'n llawn at gostau'r sgandal eto.
Mae'r pwyllgor hefyd yn cyfeirio at oedi, gwallau gweinyddol a chynigion iawndal sydd wedi'u tanbrisio. Mae Cled yn un enghraifft o hynny.
Er ei fod wedi cael cynnig ariannol, mae ei gyfreithiwr yn dweud nad ydy'r swm yn agos at yr hyn y mae o wedi ei golli dros y blynyddoedd.
"Loss of earnings am yr holl flynyddoedd am ein bod ni wedi gorfod gorffen yn gynt nag oeddan ni fod. Mae o jyst yn mowntio a mowntio," meddai.
"Ond does yna ddim un geiniog yn mynd i gyfro'r blynyddoedd 'da ni wedi golli.
"Does 'na'm byd yn cyfri' am y golled am yr 20 mlynedd."
'Prosesu ceisiadau cyn gynted â phosib'
Yn ôl Swyddfa'r Post mae pethau yn symud ymlaen, gyda "87% o geisiadau cymwys Cynllun Diffyg Horizon wedi derbyn cynnig".
Maen nhw'n deud fod "£882m wedi'i dalu drwy'r cynllun yn barod," a'u bod yn "prosesu ceisiadau cyn gynted â phosib".
Mae Cled a Susan yn dweud eu bod nhw'n gwybod y byddai'r frwydr yn hir, ond doedden nhw ddim yn disgwyl iddi fod mor hir â hyn.
"Dim ond gwitchiad i gael atebion fyddwn ni rŵan," meddai Cled. "Dim ond hynny fedrwn ni neud."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.