Dyn wedi marw ar ôl ataliad y galon yn ystod Ironman Abertawe - cwest

Llun o'r awyr o'r digwyddiad Ironman 70.3 yn Abertawe dydd sul 13 GorffennafFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Aeth yr athletwr i drafferth yn ystod rhan nofio y ras

  • Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi clywed fod dyn wedi marw yn dilyn ataliad y galon ar ôl mynd i drafferthion yn ystod digwyddiad Ironman yn 2025.

Roedd Sam Buchan, 31, tua 0.6 milltir (1km) wedi cyrraedd y cymal nofio yn Ironman 70.3 ar 13 Gorffennaf ym Marina Abertawe pan gafodd ei achub o'r dŵr.

Clywodd y cwest yn Abertawe iddo gael ei roi ar gwch cymorth lle'r oedd staff yn ceisio ei adfywio.

Cafodd Mr Buchan ei gludo i Ysbyty Treforys yn Abertawe ond bu farw ar 16 Gorffennaf ar ôl i'w beiriant cynnal bywyd gael ei ddiffodd.

Canfu archwiliad post-mortem fod y tad i un plentyn, o Aberdeen, wedi marw o "enseffalopathi isgemig anocsig, sef ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty a thrawiad gwres yn ystod digwyddiad chwaraeon".

Roedd Mr Buchan, a oedd yn gweithio fel peiriannydd yn niwydiant olew a nwy Môr y Gogledd, wedi teithio i orllewin Cymru gyda'i deulu ar gyfer y digwyddiad.

Mae'r gystadleuaeth yn cynnwys cymal nofio 1.2 milltir (1.9km) yn Noc Tywysog Cymru, cyn cwrs beicio 56 milltir (90km) trwy'r Mwmbwls ac ar hyd clogwyni'r Gŵyr sy'n arwain yn ôl i Abertawe am gymal rhedeg 13.1 milltir (21.1km).

'Teulu cyfan wedi'u llorio'

Dywedodd ei wraig, Samantha, wrth y cwest nad oedd gan ei gŵr hanes meddygol ar wahân i asthma ysgafn a chlefyd y gwair, a'i fod wedi bod yn hyfforddi ar gyfer y digwyddiad ers 12 mis.

Dywedodd Mrs Buchan nad oedd hi'n bresennol yn y digwyddiad ond ei bod yn ei ddilyn ar draciwr.

"Ges i alwad ffôn am 08:55 gan Ironman yn dweud bod Sam wedi cael ataliad y galon yn y dŵr ac ei fod bellach ar ei ffordd i Ysbyty Morriston," meddai.

Y diwrnod canlynol, dywedodd meddygon fod ei gŵr yn dangos arwyddion sylweddol o niwed parhaol i'r ymennydd. Bu farw yn oriau mân 16 Gorffennaf.

Ychwanegodd: "Mae gen i bryderon difrifol ynghylch faint o amser gymerodd i Sam gael cymorth cyntaf.

"O'r gwahanol straeon a glywais y diwrnod hwnnw, cymerodd rhwng 10 a 30 munud i gael Sam o'r dŵr.

"Roedd y cymorth cyntaf pan gyrhaeddodd Sam y babell feddygol yn safonol. Ond byddai'r amser a gymerodd i'w gael e yno wedi achosi ei farwolaeth.

"Rwy'n teimlo bod Ironman wedi ei fethu o ran darparu cymorth cyntaf priodol.

"Ni fydd ei ferch ddwyflwydd oed yn cael tyfu i fyny gydag ef, ac mae'r teulu cyfan wedi'u llorio.

Y llinell derfyn yn Ironman 70.3Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y llinell derfyn yn Ironman 70.3 yn Abertawe

Clywodd y cwest dystiolaeth gan nifer o bobl a geisiodd achub Mr Buchan ei bod wedi cymryd tua thair munud a hanner o'i weld mewn trafferthion yn y dŵr i gyrraedd yr orsaf feddygol.

Padlfyrddiwr y tîm diogelwch Wayne Evans oedd y person cyntaf i gyrraedd Mr Buchan ar ôl ei weld yn llonydd yn y dŵr.

Dywedodd Mr Evans nad oedd unrhyw arwyddion o anadlu, felly fe wnaeth e roi Mr Buchan ar ei badlfwrdd a rhybuddiodd y cwch achub cyfagos wrth geisio ei adfywio.

Fe wnaeth Tom Denham roi CPR iddo ar y cwch achub, ond oherwydd problem gyda'r cwch cafodd Mr Buchan ei drosglwyddo i ail gwch ag aeth ag ef i'r lan.

Mae'r cwest yn parhau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.