Ffordd yn parhau ar gau wedi tân mawr mewn hen siop yn Sir Gâr

Roedd swyddogion tân wedi'u galw i'r digwyddiad ar Heol Fair yng Nghydweli toc wedi 04:00
- Cyhoeddwyd
Mae criwiau wedi bod yn delio gyda thân mawr mewn hen siop yng Nghydweli.
Roedd dros 30 o ddiffoddwyr tân wedi bod yn ceisio taclo'r fflamau mewn adeilad gwag yn Sir Gaerfyrddin ers oriau mân y bore.
Roedd swyddogion wedi cael eu galw i'r digwyddiad ar Heol Fair toc wedi 04:00 fore Mawrth, ac roedd chwe injan dân yn bresennol ar un adeg.
Dywedodd yr heddlu fod pobl wedi gorfod gadael nifer o adeiladau gerllaw, ond mai dim ond "nifer fechan o adeiladau" sy'n cael eu heffeithio gan hynny bellach.

Yn ôl pobl leol, mae'r adeilad yn hen siop ddillad menywod a gafodd ei werthu y llynedd.
Digwyddodd cyrch cyffuriau mawr yn yr adeilad ym mis Mawrth 2025, ar ôl iddo gael ei werthu, fel rhan o Ymgyrch Mille gan Heddlu Dyfed-Powys.

Roedd dros 30 o ddiffoddwyr tân wedi bod yn ceisio taclo'r fflamau
Mae'r tân wedi'i diffodd erbyn hyn, ond mae'r ffordd wedi'i chau gan Heddlu Dyfed-Powys.
Mae disgwyl iddi fod ar gau am weddill y dydd tra bod yr ymchwiliad yn parhau.

Bydd Heol Fair ar gau am weddill y dydd tra bod yr ymchwiliad yn parhau
Am 10:30 fore Mawrth roedd dwy injan dân a chraen yn bresennol tra bod swyddogion yn asesu'r sefyllfa.
Mae'r llu yn apelio ar unrhyw un sydd â unrhyw wybodaeth neu lluniau o'r digwyddiad a dynwyd rhwng 23:00 nos Lun a 04:00 i gysylltu â nhw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.