'Nid nawr yw'r amser i newid' meddai Eluned Morgan

"Mae gennym ansefydlogrwydd enfawr ac nid nawr yw'r amser i newid" meddai Eluned Morgan
- Cyhoeddwyd
"Nid nawr yw'r amser i newid", meddai arweinydd Llafur Cymru gyda'i phlaid ar ei hôl hi yn yr arolygon barn ar gyfer etholiad y Senedd ar 7 Mai.
Mewn byd o "ansefydlogrwydd byd-eang" mae'r Prif Weinidog Eluned Morgan, yn dadlau na ddylai pobl symud i ffwrdd o'r blaid sydd wedi rhedeg Cymru ers 1999.
Mae arolygon barn yn awgrymu nad yw pleidleiswyr yn cytuno â hi - gyda thri arolygwg diweddar yn gosod Llafur yn drydydd, y tu ôl i Blaid Cymru a Reform.
Yn y cyfamser, mae'r prif weinidog wedi dweud bod myfyrwyr "yn eironig" yn destun rhewi recriwtio gan y GIG oherwydd bod y gwasanaeth iechyd yn cadw staff yn well.
Fe wnaeth Morgan y sylwadau ar BBC Radio Wales Breakfast fore Mercher.
Rhestrau aros y gwasanaeth iechyd wedi lleihau'n sylweddol
- Cyhoeddwyd19 Mawrth
Dim cyrsiau prifysgol i barafeddygon eleni yn sgil diffyg swyddi
- Cyhoeddwyd23 awr yn ôl
'Gadawais fy swydd i fod yn nyrs, ond does dim gwaith i mi yng Nghymru'
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Pan ofynnwyd iddi pam roedd Llafur Cymru yn addo gwneud y dreth gyngor yn decach ond na wnaed hynny tra roeden nhw mewn grym, dywedodd: "Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn cydnabod bod pobl dan bwysau ar hyn o bryd a'r hyn sydd ei angen arnom yw sefydlogrwydd.
"Mae gennym ansefydlogrwydd enfawr ac nid nawr yw'r amser i newid."
Pan gafodd ei holi a oedd hi'n deall pam roedd Llafur yn drydydd yn yr arolygon barn, dywedodd fod llywodraethu yn "anodd a pho hiraf y byddwch chi yn y llywodraeth, y mwyaf anodd y mae'n mynd. Dyna sefyllfa naturiol."
Ar bwnc rhestrau aros ar y GIG, awgrymodd na fyddai pleidiau eraill yn gwybod sut i'w lleihau.
"Pan gewch chi bleidiau newydd nad ydyn nhw'n adnabod y system, nad ydyn nhw'n gwybod sut i'w wneud, bydd gwelliant yn dod i stop ac rwy'n ofni mai dyna sy'n debygol o ddigwydd os cewch chi lywodraethau newydd."
Dywedodd fod "gwelliant sylweddol" o ran lleihau rhestrau aros ond dywedodd nad oedden nhw'n gwybod a fyddai hi'n cyrraedd ei thargedau ei hun.
Roedd Llywodraeth Cymru wedi addo torri rhestrau aros 200,000, gan ddileu arosiadau o ddwy flynedd neu fwy, a sicrhau nad oes neb yn aros mwy nag wyth wythnos am brofion diagnostig.
Mae ffigyrau diweddar wedi dangos y lleihad misol mwyaf yn rhestrau aros y gwasanaeth iechyd, er bod rhai mesurau wedi codi.
'Cyfraddau llawer gwell o gadw staff'
Mae Llywodraeth Cymru wedi dod o dan y lach yn ystod yr wythnosau diwethaf oherwydd rhewi recriwtio yn y GIG sydd wedi arwain at fyfyrwyr sy'n astudio i fod yn barafeddygon a rolau eraill yn ceisio dod o hyd i waith dramor.
Dadleuodd Morgan fod y sefyllfa wedi codi o welliant yn y ffordd y mae staff yn cael eu cadw yn y gwasanaeth iechyd.
Dywedodd: "Rydym wedi cynyddu'r niferoedd yn sylweddol iawn yn y GIG.
"Roedd gennym lefelau uchel iawn o weithwyr asiantaeth yn y GIG. Y gwir amdani yw bod y rheini wedi gostwng yn fawr.
"Mae gennym gyfraddau llawer gwell o gadw staff, a dyna'r rheswm pam ein bod yn y sefyllfa hon.
"Mae hynny oherwydd, yn eironig, bod pethau wedi gwella ac yn amlwg mae effaith ddilynol.
"Rwy'n deall pam mae pobl yn y sefyllfaoedd hynny'n rhwystredig iawn.
"Rwy'n hyderus iawn pan fydd gennych 112,000 o bobl yn gweithio yn y GIG, bod trosiant staff bob amser a bydd cyfleoedd i'r bobl hyn yn y dyfodol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.