'Gadawais fy swydd i fod yn nyrs, ond does dim gwaith i mi yng Nghymru'

Mae Chloe yn dweud nad oes unrhyw swyddi ffisiotherapi Band 5 ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd
- Cyhoeddwyd
Mae myfyrwyr sy'n astudio graddau ym maes gofal iechyd yn dweud eu bod yn teimlo'n siomedig, rhwystredig a dan straen oherwydd diffyg swyddi yn eu meysydd.
Ddechrau'r mis, dywedodd myfyrwyr sydd yn eu blwyddyn olaf o raddau gwyddor parafeddygol eu bod wedi cael cyngor i wneud cais am swyddi yng Nghanada, Seland Newydd ac Awstralia.
Roedd hynny ar ôl i Wasanaeth Ambiwlans Cymru ddweud na fydden nhw'n recriwtio parafeddygon newydd eleni oherwydd problemau "ariannol a gweithredol".
Mae sawl myfyriwr wedi cysylltu â'r BBC i rannu eu profiadau, gyda rhai'n dweud eu bod yn cael "nosweithiau di-gwsg yn crio" ac eraill wedi rhoi'r gorau i weithio yn y sector gofal iechyd yn llwyr.
Dydd Llun fe gyhoeddodd Addysg a Gwella Iechyd Cymru y bydd rhaglenni gwyddoniaeth barafeddygol yn cael eu hoedi ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf er mwyn "gwella'r cyfleoedd am swyddi i'r graddedigion presennol".
'Cymru ddim yn barod i ymdopi â phoblogaeth sy'n heneiddio'
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
Mae Llywodraeth Cymru a'r DU yn dweud eu bod yn gweithio gyda phrifysgolion, byrddau iechyd a gradeddigion i ddod o hyd i swyddi i bobl.
Mae Chloe Hurst, 20 oed, o Bowys, yn ei blwyddyn olaf o astudio ffisiotherapi ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae'n siomedig iawn.
Dywedodd nad oes unrhyw swyddi ffisiotherapi Band 5 ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd, er gwaethaf y ffaith bod swyddi ar gael yn y cyfnod yma fel arfer.
Yn lle hynny, mae graddedigion wedi cael eu hannog i wneud cais am swyddi Band 3 a 4 - rolau nad oes angen gradd ar eu cyfer.
Ychwanegodd fod hyd yn oed y swyddi yma yn brin.

Mae'n fater o aros "ac nid oes llawer y gallwn ni ei wneud amdano mewn gwirionedd," meddai Chloe
Fel un sydd wedi derbyn bwrsariaeth GIG Cymru, mae Chloe'n dweud ei fod yn rhwystredig na allai wneud cais am swyddi ar draws y ffin yn Lloegr.
"Dwi'n berson sy'n hoffi bod adref, felly ar wahân i'r elfen ariannol, roedd yn beth mawr - fi'n symud o ardal wledig i ddinas.
"Felly i wybod fy mod i wedi rhoi fy hun drwy hynny i efallai beidio â chael swydd ar y diwedd, mae hynny'n bwysicach i mi na'r ochr ariannol."
Dywedodd y byddai'n gwneud cais am unrhyw beth, hyd yn oed y tu allan i ofal iechyd, dim ond "i ddangos fy mod i'n trio" ac mae'n gobeithio y bydd penaethiaid bwrsariaethau yn caniatáu iddi wneud cais am swyddi heb ystyried y lleoliad.
Mae'n fater o aros nawr meddai, "ac nid oes llawer y gallwn ni ei wneud amdano mewn gwirionedd".

Fe wnaeth Emma roi'r gorau i swydd llawn amser gan feddwl y byddai nyrsio'n rhoi bywyd gwell i'w phlant
Dywedodd Emma Coomer, 41 oed o Aberdâr, Rhondda Cynon Taf, bod ei phrofiad ar ôl mynd i astudio gradd nyrsio ym Mhrifysgol De Cymru wedi bod yn "ofnadwy ac mor siomedig".
Gadawodd Emma swydd llawn amser gyda chyflog da ac oriau rheolaidd mewn meddygfa i astudio am radd.
"Wnes i roi'r gorau i hynny achos fy mod i eisiau bod yn nyrs, ond mae jugglo shifftiau a phenwythnosau, a cholli pethau gyda'r plant wedi bod yn anodd," meddai'r fam i ddau.
Esboniodd ei bod wedi dweud wrth ei hun gydol y profiad "mi fydd o werth o a bydd gen i swydd dda, cyflog da - dwi 'di bod yn trio creu bywyd gwell i ni".
Ond wrth dynnu at ddiwedd ei chwrs, ar adeg pan fydd gan y rhan fwyaf o fyfyrwyr mewn meysydd eraill swyddi'n aros amdanyn nhw, dywedodd Emma ei bod hi ac eraill yn y tywyllwch o ran y dyfodol.
"Dywedon nhw i ni beidio â chynhyrfu," meddai.
"Wneith hyn droi llawer o bobl i ffwrdd o nyrsio, a bydd y gwasanaeth iechyd mewn sefyllfa hyd yn oed yn waeth nag yw e ar y funud."
'Nosweithiau di-gwsg yn crio'
Dywedodd myfyrwraig o'r de ei bod hi hefyd "yn y tywyllwch" o ran cael swydd ar ddiwedd ei chwrs.
"I fi, fydd o wedi bod yn bum mlynedd o fy mywyd dwi wedi'i roi i'r neilltu, lle dwi ddim wedi gallu prynu tŷ, ddim wedi gallu cael plant, oherwydd fy mod wedi rhoi hyn yn gyntaf," meddai.
"Mae'n achosi llawer o ofid... Mae fy mhartner yn ceisio dweud wrtha' i fydd popeth yn iawn ond dwi'n cael nosweithiau di-gwsg yn crio."

Fe wnaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru gadarnhau na fyddai parafeddygon sydd newydd gymhwyso yn cael cynnig swyddi eleni oherwydd "materion ariannol a gweithredol".
Dywedodd Carl Kneeshaw, cyfarwyddwr pobl yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru, fod y gwasanaeth yn "llywio tirwedd ariannol a gweithredol anodd".
Mae'n ddarlun tebyg mewn meysydd gofal iechyd eraill, gyda Choleg Brenhinol y Bydwragedd yn dweud ei fod yn "bryderus a thrafferthus iawn" y gallai cymaint â hanner yr holl raddedigion nyrsio newydd gael eu gadael heb waith.
Mewn datganiad blaenorol, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i sicrhau bod "ein buddsoddiad mewn addysg a hyfforddiant iechyd yn cael ei gefnogi gan gyfleoedd gwaith o bwys".
Ychwanegodd eu bod yn "gweithio'n agos" gyda'r awdurdodau perthnasol a phrifysgolion i "ymateb i'r heriau yma a chefnogi graddedigion".
Sefyllfa 'bryderus iawn'
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig bod y pwysau sydd ar y GIG a rhestrau aros hir, yn creu sefyllfa "bryderus iawn", gan ddweud y byddai'r blaid yn datgan "argyfwng iechyd" petai mewn grym ar ôl yr etholiad.
Dywedodd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru fod camreoli'r GIG yn gadael graddedigion mewn limbo, gan ddweud fod "cenhedlaeth wedi'i bradychu".
Dywedodd Reform fod y llywodraeth ddiwethaf wedi "bradychu" gweithwyr gofal iechyd newydd ac wedi gwastraffu arian trethdalwyr, tra bod y Blaid Werdd wedi dweud bod ganddi "gydymdeimlad mawr â myfyrwyr gofal iechyd".
Dywedodd Llafur Cymru eu bod "wedi ymrwymo" i sicrhau bod "talent sy'n hyfforddi yng Nghymru yn aros yng Nghymru", ac y byddan nhw'n "recriwtio, hyfforddi a chadw'r staff y mae'r GIG eu hangen trwy gynllun gweithlu hirdymor".
Mae Plaid Cymru wedi addo creu strategaeth genedlaethol ar gyfer cynllunio'r gweithlu iechyd, fel "nad yw myfyrwyr yn Nghymru'n cael eu gorfodi i adael y wlad ble roedden nhw'n bwriadu cael gyrfa".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.