Cerydd swyddogol i'r AS Ceidwadol Janet Finch-Saunders

Cafodd Janet Finch-Saunders ei hethol i Fae Caerdydd am y tro cyntaf yn 2011
- Cyhoeddwyd
Mae gwleidydd Ceidwadol wedi cael ei cheryddu'n swyddogol gan Senedd Cymru am ddefnyddio adnoddau cyhoeddus at ddibenion ei phlaid wleidyddol.
Cytunodd aelodau'r Senedd heb wrthwynebiad i geryddu AS Aberconwy Janet Finch-Saunders, yn dilyn ymchwiliad gan gomisiynydd safonau'r sefydliad.
Ni siaradodd Finch-Saunders ac ni cheisiodd wrthwynebu'r gosb, ond trwy gydol ymchwiliad y comisiynydd fe wnaeth hi wadu gwneud unrhyw beth o'i le.
Cafodd honiad o fwlio yn erbyn Janet Finch-Saunders ei wrthod gan y comisiynydd.
Mae'n rhaid i Aelodau o'r Senedd (ASau) ddilyn rheolau sy'n eu gwahardd rhag defnyddio adnoddau'r Senedd sydd wedi eu cyllido gan y trethdalwr - gan gynnwys staff, swyddfeydd a deunyddiau - at ddibenion pleidiol.
Ond yn ôl Comisiynydd Safonau'r Senedd, Douglas Bain, fe wnaeth Finch-Saunders "dro ar ôl tro achosi neu ganiatáu" i aelod o staff wneud gwaith yn ymwneud â'r Ceidwadwyr yn swyddfa'r etholaeth yn ystod oriau gwaith.
AS wedi defnyddio adnoddau'r Senedd at ddibenion ei phlaid - comisiynydd
- Cyhoeddwyd11 Mawrth
Wrth ymateb i adroddiad y comisiynydd, dywedodd pwyllgor safonau'r Senedd bod Finch-Saunders wedi methu "â dangos yr arweinyddiaeth a ddisgwylid ganddi".
"Mae'n ddyletswydd arnom fel cynrychiolwyr etholedig i ddeall y gwahaniaeth rhwng gweithgaredd gwleidyddol a chyflawni ein dyletswyddau fel Aelodau.
"Mae hyn yn arbennig o berthnasol yng nghyd-destun yr etholiad sydd ar y gorwel – cyfnod o sensitifrwydd gwleidyddol cynyddol," ychwanegodd.
Wedi ei hethol yn gyntaf yn 2011, Finch-Saunders yw prif ymgeisydd y Ceidwadwyr ar gyfer etholaeth newydd Bangor Conwy Môn yn yr etholiad fis Mai.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.