Pum peth ddysgon ni o lansiad maniffesto Llafur Cymru

Eluned Morgan yn annerch y dorf yn Abertawe fore Llun
- Cyhoeddwyd
Mae'r Blaid Lafur wedi lansio eu maniffesto ar gyfer etholiad y Senedd ddydd Llun, gydag aelodau'n gwybod eu bod nhw'n wynebu talcen caled.
Geiriau agoriadol y lansiad yn Abertawe oedd "it's tough out there", gan y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies.
Cyfaddefiad fod y blaid yn sylweddoli fod y polau piniwn yn eu gosod yn y trydydd safle, wedi degawdau wrth y llyw yng Nghymru.
Mwy o sicrwydd a llai o boeni yw dyhead pleidleiswyr, meddai Irranca-Davies, a'i honiad yw mai Llafur all ddiwallu'r gofyn yna.
Roedd hefyd cyfle i danlinellu'r llinellau ymosod yn erbyn y pleidiau eraill: Dim mwy na "Ceidwadwyr wedi'u hailgylchu" yw Reform, a phlaid sy'n obsesu am y cyfansoddiad ar draul gofynion real yw Plaid Cymru, meddai.
Dyma bum peth ddysgon ni.
Iechyd yw (bron) popeth
Mae mwy yn cael ei wario gan Lywodraeth Cymru ar y GIG nag ar unrhyw beth arall, o bell ffordd.
"Bargen newydd i'r GIG", sydd yn cael ei gynnig yn y maniffesto. Fe wnaeth Eluned Morgan addo £4bn dros y ddegawd nesaf i godi ysbytai newydd.
Ac un addewid arall trawiadol yw y gall bawb ddisgwyl gweld meddyg teulu o fewn 48 awr os oes ganddyn nhw broblem na all aros.
Ond mae'r addewid i daro'r targed fod neb yn aros mwy na 26 wythnos am driniaeth ysbyty yn debygol o atgoffa pobl o fethiant Llafur i gyrraedd y trothwy yna hyd yn hyn, er gwaetha'r blynyddoedd hir mewn grym.
Dim newidiadau treth incwm
Dyma oedd y lein a gafodd ei rhyddhau gan Lafur o flaen llaw, ac mae'n amlwg yn rhan ganolog o'u hymgyrch.
Mae'r pŵer i godi neu leihau trethi yng Nghymru wedi bodoli ers 2019, ond heb eu defnyddio.
Mae rhesymeg yr addewid yn syml, gyda'r bwriad o beidio â gwaethygu'r wasgfa ar gostau byw teuluoedd.
Ond beth os yw Llywodraeth y DU yn codi treth incwm? Beth wedyn?
"Dwi ddim am drafod hypotheticals," oedd ateb y prif weinidog.
Treth cyngor 'tecach'
Mae'r maniffesto yn addo ffordd "decach" o ariannu cynghorau lleol, ond does dim llawer o fanylder.
Mae'r llywodraeth bresennol eisoes wedi gohirio cynllun i ail-werthuso pob tŷ – sy'n penderfynu pa fand treth cyngor sy'n ddyledus – tan 2028.
Does dim ail-werthuso wedi digwydd ers mwy nag 20 mlynedd, a'r llywodraeth nesaf fydd yn penderfynu'r camau nesaf – ond does dim sôn penodol am 2028 yn y maniffesto.

Glynu at honiad am brentisiaethau
Mae Llafur yn mynnu eu bod wedi creu 100,000 o brentisiaethau ers yr etholiad diwethaf – ond mae Awdurdod Ystadegau'r DU wedi mynnu nad yw'r ffigwr yma yn un dibynadwy.
Mae'r honiad yn ymddangos eto yn y maniffesto, er gwaetha'r awgrym gan yr awdurdod fod y sawl sydd wedi gadael eu cyrsiau wedi'u cyfrif yn y cyfanswm.
Mae'r maniffesto yn addo 100,000 mwy o brentisiaethau, gyda'r ffocws ar y diwydiant adeiladu a'r sector ynni adnewyddadwy.
Yr iaith Gymraeg a threftadaeth
Mae Llafur yn dweud y bydden nhw'n ehangu darpariaeth gwersi Cymraeg am ddim, ar y we ac wyneb yn wyneb, gan gynnwys i rieni plant sydd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.
Maen nhw hefyd yn dweud eu bod am gydnabod ardaloedd daearyddol lle mae'r Gymraeg yn rhan annatod o fywyd beunyddiol llawer o bobl.
Bydd hyn yn cynnwys cydnabod arwyddocâd ieithyddol ym mhob cymuned ac atgyfnerthu bod yr iaith Gymraeg yn perthyn i bawb.
Bydd hyn hefyd yn cynnwys defnyddio enwau lleoedd Cymraeg bob amser mewn datblygiadau tai sy'n cael eu hariannu gan y llywodraeth.
Fe wnaethon nhw hefyd nodi y bydden nhw'n ailwampio cyfleusterau allweddol ar draws Urdd Gobaith Cymru ac ymestyn cefnogaeth ar gyfer Eisteddfodau'r Urdd a'r Genedlaethol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.