Sefydlu fframwaith newydd i 'sicrhau gwaddol parhaol' i'r Eisteddfod

- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru a'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi fframwaith strategol gyda'r nod o gryfhau a chydlynu'r gwaith o sicrhau gwaddol parhaol i ardaloedd y mae'r Brifwyl yn ymweld â nhw.
Mae'r fframwaith newydd yn sefydlu strwythurau lleol a chenedlaethol i sicrhau bod y gwaith gwaddol yn cael ei gyflawni'n strategol.
Roedd Ysgrifennydd y Gymraeg Mark Drakeford wedi gwneud "cais newydd" i'r Eisteddfod Genedlaethol y llynedd i gael "strategaeth ymadael" er mwyn gadael mwy o waddol.
Mae rhai wedi sôn yn y gorffennol bod "colli gwaddol yr Eisteddfod yn golled sylweddol i ardal".
Nod y fframwaith newydd yw uno partneriaid sydd ag arbenigedd mewn meysydd fel datblygu cymunedol, cynllunio ieithyddol a datblygu economaidd.
Bydd bwrdd prosiect yn cael ei sefydlu a fydd â throsolwg strategol o'r cyfan, a bydd grŵp llywio yn arwain y gwaith ar lawr gwlad.
'Sicrhau bod yr iaith yn ffynnu'
Wrth sôn am y datblygiad, dywedodd Mark Drakeford bod yr "Eisteddfod yn fwy na gŵyl wythnos o hyd".
"Mae'n brosiect sy'n cymryd dwy flynedd i'w gynllunio sy'n gadael gwaddol cryf i'r Gymraeg a'r diwylliant yn yr ardal.
"Yn unigryw i Gymru, mae'n cynnig cyfle gwerthfawr i ddathlu ein hiaith drwy lenyddiaeth, cerddoriaeth, celf a diwylliant a chymaint mwy."
Angen sicrhau gwaddol gwyliau mawr i gadw'r Gymraeg yn fyw - pwyllgor
- Cyhoeddwyd4 Chwefror
Cais i'r Eisteddfod gael 'strategaeth ymadael' i gryfhau gwaddol
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2025
Ychwanegodd, drwy uno partneriaid a sectorau allweddol, ei fod yn "ganolog i'n huchelgais i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a sicrhau bod yr iaith yn parhau i ffynnu.
"Rwy'n diolch i'r Eisteddfod am gyhoeddi'r fframwaith, a'r partneriaid a fydd yn helpu i gyflawni'r gwaddol dros y blynyddoedd i ddod."
'Gosod sylfaen cryfach'
Ychwanegodd Nic Parry, Llywydd Llys yr Eisteddfod a Chadeirydd y Bwrdd Rheoli: "Mae'r fframwaith hwn, a'r bartneriaeth rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol a Llywodraeth Cymru, yn gosod sylfaen llawer cryfach ar gyfer cydweithio strategol yn lleol ac yn genedlaethol.
"Mae'n ein galluogi i wireddu uchelgais rydym ni fel dau gorff cenedlaethol wedi ei rhannu ers amser maith: gyrru cynllunio ieithyddol drwy lens yr Eisteddfod Genedlaethol.
"Ac mae'n gosod yr Eisteddfod fel modd allweddol i hybu economi'r ardal a chefnogi ein nod o sicrhau cymunedau cryf a hyfyw i'r genhedlaeth nesaf."
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn dweud bod y gwaddol yn "cwmpasu'r hyn a gaiff ei wireddu yn enw'r Eisteddfod cyn, yn ystod ac ar ôl yr ŵyl" sy'n cynnwys y meysydd canlynol:
Addysg
Cymuned
Cynhwysedd
Digidol
Economi
Gwirfoddoli
Iaith
Bydd mwy o wybodaeth am y fframwaith, dolen allanol yn cael ei ryddhau dros yr haf.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.