Portmeirion: Y pentref Eidalaidd eiconig yn dathlu canrif

Mae pentref Portmeirion yn denu dros 200,000 o ymwelwyr bob blwyddyn
- Cyhoeddwyd
Mae eleni yn nodi canrif union ers i bentref lliwgar Portmeirion agor am y tro cyntaf.
Dechreuodd y gwaith o adeiladu'r pentref ym Minffordd ger Penrhyndeudraeth gan y pensaer Clough Williams-Ellis yn 1925.
Mae'r lleoliad yn denu cannoedd o filoedd o ymwelwyr bob blwyddyn ac wedi bod yn lleoliad ar gyfer sawl cyfres deledu enwog.
Yn ôl Meurig Jones, rheolwr lleoliad ym Mhortmeirion: "Mae hwn yn lle unigryw ofnadwy... mi 'newch chi weld rhywbeth newydd bob tro."
Dyn 'diddorol ac amlochrog'
Yn 1925 daeth y pensaer Clough Williams-Ellis o hyd i'r safle delfrydol ar gyfer Portmeirion.
Roedd wedi bod yn chwilio am leoliad addas ar gyfer ei bentref delfrydol ers blynyddoedd.
Aeth ati i ddatblygu'r safle, ac ar 2 Ebrill 1926, fe agorodd gwesty Portmeirion am y tro cyntaf.

Yn ôl ei ŵyr Robin Llywelyn, sydd hefyd yn rheolwr-gyfarwyddwr Portmeirion, roedd ei daid yn "dipyn o bioden".
"Roedd o'n hel pethau o bob man ac yn arbrofi efo gwahanol arddulliau pensaernïol," meddai.
"Oedd o wedi cymryd ei ysbrydoliaeth o rai o bentrefi glan môr Yr Eidal, ond mae 'na lawer mwy 'na hynny i'r lle.
"Felly oedd o'n codi'r lle fesul dipyn fel oedd o'n gweld yn addas, ac wrth gwrs ryw gymysgedd fel ryw lobsgows - ond y ffaith amdani fod y cyfan yn gweithio fel undod."

Mae rheolwr-gyfarwyddwr Portmeirion, Robin Llywelyn, hefyd yn ŵyr i sylfaenydd y pentref
Wrth ddisgrifio ei daid, dywedodd Mr Llywelyn ei fod yn ddyn unigryw iawn.
"Mi oedd fy nhaid yn ddyn diddorol ac amlochrog iawn.
"Mi oedd ganddo ddiddordeb mawr mewn tirlunio a phensaernïaeth... ac eto doedd ganddo ddim cefndir ffurfiol mewn pensaernïaeth.
"Mi gafodd ei hel allan o'r coleg ar ôl tri mis am dorri'r rheolau, ond y ffaith amdani ydi mai dyna oedd ei uchelgais a'i weledigaeth o.
"Dwi'n meddwl ei fod o'n fwy o artist na phensaer, ond ei gynfas oedd y tirlun a'i ddeunydd oedd brics a cherrig a lliw."
Gŵyl newydd i ddathlu canmlwyddiant Portmeirion
- Cyhoeddwyd11 Chwefror
'Mae Portmeirion yn le sbesial'
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2023
Erbyn heddiw, elusen sydd berchen Portmeirion, gyda chwmni yn gofalu am redeg y lle a chynnal a chadw.
Dyma benderfyniad a gafodd ei wneud gan Clough Williams-Ellis.
Dywedodd Mr Llywelyn: "Oedd o'n bwysig iawn gan fy nhaid fod y lle mewn perchnogaeth elusennol, oherwydd roedd hyn iddo yn rhoi diogelwch i'r dyfodol."
Cafodd yr adeilad olaf ar y safle ei adeiladu yn 1976 pan oedd Mr Williams-Ellis yn 93 oed.
'Mwy gwydn ar gyfer y dyfodol'
Mae Portmeirion wedi bod yn safle ar gyfer sawl cynhyrchiad teledu.
Roedd y pentref yn lleoliad ar gyfer cyfres deledu The Prisoner yn y 1960au, yn serennu Patrick McGoohan.
Mae'r gyfres enwog Dr Who hefyd wedi defnyddio'r pentref yng Ngwynedd fel lleoliad i ffilmio.
Mae Portmeirion hefyd yn enwog am ei grochenwaith, gyda llestri Portmeirion yn dod yn amlwg mewn cartrefi ar draws y wlad yn y 1960au.

Mae nwyddau'r gyfres boblogaidd yn parhau ar werth ym Mhortmeirion
Erbyn heddiw mae Portmeirion yn gyflogwr mawr yn lleol, yn cyflogi dros 200 o staff.
Dywedodd Ian Roberts, cyfarwyddwr cyllid y busnes, fod yr arian sy'n cael ei gynhyrchu ym Mhortmeirion yn cael ei "ailfuddsoddi 'nôl yn yr adeiladau".
"Mae'r adeiladau yma i gyd yn rhai sydd wedi cael eu hadeiladu ers sbel, felly mae 'na gostau sylweddol i'w diweddaru nhw ac ati," meddai.
"'Da ni wedi trio gwneud yn siŵr fod y busnes 'chydig bach fwy gwydn ar gyfer y dyfodol, eleni oherwydd y canmlwyddiant... mae gennym ni bedwar cyngerdd ar gyfer cantorion mawr."

Dywedodd Ian Roberts fod dros 200 o bobl yn cael eu cyflogi yn y pentref
Esboniodd Mr Roberts fod sawl elfen i'r busnes.
"Mae 'na dair rhan i'r busnes i raddau - ymwelwyr dyddiol sydd yn dod yma. Mae 'na dros 200,000 o ymwelwyr dyddiol yn dod yma bob blwyddyn.
"Mae gennym ni lety, dros 70 o lefydd i bobl aros, ac mae gennym ni sawl bwyty yma hefyd.
"Mae'n fusnes sy'n weddol gymhleth efo sawl ochr iddo, ond mae'r ochrau i gyd i weld yn gweithio efo'i gilydd.
"Mae 'na bethau sy'n dod o hyd i drio ein baglu ni... mae 'na rywbeth o hyd yn dod, ond mae'n rhaid i ni drio 'neud yn siŵr fod beth 'da ni'n gynnig i'r cwsmeriaid yn beth sy'n addas a beth sydd ei angen ar gwsmeriaid."

Delyth Wyre sy'n gyfrifol am drefnu priodasau a digwyddiadau ym Mhortmeirion
Elfen arall ydi digwyddiadau, gyda degau o gyplau yn priodi yno bob blwyddyn.
Delyth Wyre sy'n gyfrifol am drefnu'r holl ddigwyddiadau yn y pentref - elfen bwysig iawn i'r lle, meddai.
"Mae'n bwysig iawn bod ni'n cael digwyddiadau ym Mhortmeirion a hefyd bod nhw yn digwydd drwy gydol y flwyddyn, dros fisoedd distaw y gaeaf," meddai.
"'Da ni'n 'neud rhwng 60 ac 80 priodas y flwyddyn ac maen nhw'n gallu amrywio o briodas fach i ddau, i briodas hyd at 120 o bobl.
"Mae o'n lle unigryw. Mae lot o bobl sy'n priodi neu'n dod yma efo ryw fath o gysylltiad. Mae lot o bobl leol yn priodi yma hefyd.
"Mae gen i gwpl sy'n priodi mis Mehefin yma, mae'r ddau yn byw yn Awstralia."

Mae Meurig Jones yn gweithio ym Mhortmeirion ers dros 20 mlynedd
Gyda'r pentref yn denu miloedd o dwristiaid yn flynyddol, dywedodd Meurig Jones, rheolwr lleoliad ym Mhortmeirion, fod y Gymraeg yn rhan hanfodol o'r busnes.
"Mae Portmeirion yn lle pwysig iawn i'r iaith Gymraeg oherwydd 'da ni wrth ein bodd bod yma yn Eryri, lle mae cymaint o bobl yn siarad Cymraeg.
"Mae dros 90% o bobl sy'n gweithio efo ni yn ddwyieithog."
Ychwanegodd: "Mae hwn yn lle unigryw ofnadwy.
"Beth ddaru ysbrydoli fi pan ddes i yma oedd deall a dysgu mwy am pam ddaru Clough adeiladu'r lle a sut 'naeth o.
"Mae hefyd wedi cael 100 mlynedd o hanes arbennig o bobl enwog yn dod yma.
"'Da ni heb newid llawer, ers yr 20 mlynedd dwi wedi bod yma.
"Oherwydd y ffaith bod y lle wedi cael ei adeiladu erbyn hynny... dwi'n meddwl beth sy'n dda am Bortmeirion ydi'r ffaith fod o heb newid ers amser Clough.
"Mae pobl sy'n dod yn ôl yn aml i'n gweld ni, maen nhw'n gweld rhywbeth newydd a dyna beth oedd Clough isio... mi 'newch chi weld rywbeth newydd bob tro."
Bydd gŵyl yn cael ei chynnal yn y pentref eleni i nodi canrif ers i bentref Portmeirion agor am y tro cyntaf.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.