Casglu llestri Portmeirion ers dros hanner canrif

Meinir gyda'i llestri
- Cyhoeddwyd
Mae Meinir Lewis-Jones o Sir Benfro wedi bod yn casglu llestri enwog crochenwaith Portmeirion ers dros 50 o flynyddoedd.
Gyda rhwng 200-300 o ddarnau; o blatiau, i botiau a thebotau, byddai rhai'n dweud fod Meinir wedi mynd dros ben llestri. Ond mae Meinir yn falch iawn o'i chasgliad.
Meddai: "Dwi wedi mwynhau fy nghasgliad rhaid dweud, dwi'n eistedd yn y gegin rŵan yn edrych o 'nghwmpas a dwi'n gweld cloc Portmeirion, tebot Portmeirion, peth dal te Portmeirion, peth dal coffi Portmeirion, powlenni Portmeirion. Ond dyw e ddim yn teimlo'n ormod achos maen nhw i gyd yn wahanol."
O brynu cwpan a soser yn ddeg oed i gasgliad o 200
Sefydlwyd Crochenwaith Portmeirion yn 1960 gan Susan Williams-Ellis, merch Clough Williams-Ellis, pensaer y pentref Eidalaidd ger Porthmadog.
Cynhyrchu crochenwaith ar gyfer siop pentref Portmeirion oedd gweledigaeth Susan Williams-Ellis.
Dros 60 o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae llestri casgliad Botanic Garden a gyflwynwyd yn 1972 yn parhau'n boblogaidd ac yn cael eu gwerthu ar draws y byd o ffatri Portmeirion yn Stoke on Trent.
A dyna'r casgliad, gyda'r border o ddail gwyrdd unigryw ar bob darn, sy'n llenwi cypyrddau Meinir.
Eglurai: "Mae bob llestr sgen i'n rhai Botanic Garden. Achos fod y blodau mor hardd arnyn nhw dwi byth yn blino arnyn nhw. Dyna fydda i'n ddefnyddio am 11 mis o'r flwyddyn. Yna ym mis Rhagfyr mae gen i lestri Nadolig patrwm Holly and Ivy.
"Mae yna batrymau newydd Botanic Garden o hyd, fyddai'n twrio siop Portmeirion a meddwl 'pa batrwm dwi heb ei gael? Bydd rhaid cael hwn hefyd."

Bwrdd Meinir gyda rhai o'i llestri Botanic Garden
Ond mae mwy tu ôl i'w casglu na llenwi cwpwrdd. Mae Meinir yn cofio prynu ei llestr cyntaf Portmeirion pan oedd hi'n ddeg oed, ar drip i weld ei nain.
Meddai: "Oedden ni'n byw yn Nowlais ym Merthyr a Nain yn byw yn y gogledd yn Nantlle. Wedyn pob tro o'n i'n mynd i weld Nain o'n i yn mynd heibio Tremadog lle'r oedd siop Portmeirion bryd hynny a dyna sut wnes i ddechrau casglu. Cwpan a soser oedd y darn cyntaf brynes i dwi'n meddwl.
"Pob tro o'n i'n mynd i weld Nain o'n i'n hel rhywbeth ac wedyn yn 1979 fe es i Fangor i'r coleg, a roedd siop yno yn gwerthu llestru Portmeirion. Wedyn o'n i'n hel mwy o lestri i'w cadw nes y byddwn i'n prynu tŷ.
"Wedyn wnes i briodi yn y 90au a llwyth o anrhegion priodas oedd llestri Portmeirion.
"Dwi wedi cario 'mlaen i gasglu nhw nes bod gen i gasgliad eang dros ben erbyn hyn. Genai bopeth - o botiau, i botiau coffi, i bethe dal sbageti, i bethe dal sbeisys, i blatiau cinio, platiau te, powlenni sereal, pethe dal blode, pob math ohonyn nhw a dwi wrth fy modd efo nhw. Dwi'n eu defnyddio nhw bob dydd."

Y ddiweddar Susan Williams-Ellis
Rhan fawr o'r aelwyd
 hithau wedi dechrau'r casglu'n blentyn deg oed tra ar wyliau i weld ei nain, ai sentiment sydd wedi ei sbarduno i gasglu?
"Wrth edrych yn ôl dwi'n meddwl 'mod i'n cysylltu'r casglu gyda fy nghyfnodau yn y gogledd. Oedd mam yn dod o'r gogledd, a dwi hefyd yn meddwl fod Portmeirion ei hun yn le arbennig iawn. Felly mae'n siŵr fod yna elfen o hiraeth i'r casglu ac o gyfnodau arbennig yn fy mywyd."
Yn ôl Meinir does dim llawer o'r llestri wedi torri dros y blynyddoedd, a phan mae damwain wedi bod, bydd hi'n "rhoi ail fywyd i'r llestri ar waelod pot blodyn i helpu gyda'r draeniad"
Dyw ei phlant, Rhys, Carys ac Osian, sy'n oedolion erbyn hyn erioed, wedi gorfod pendroni am anrheg i'w mam.
Mae'r llestri wedi bod yn rhan fawr o'r aelwyd, yn gweini prydau pen-blwydd, y cinio Nadolig ac yn hwylio paneidiau o de i anwyliaid fyddai'n galw heibio.

Ond â Meinir ar fin symud tŷ, a fydd ei chasgliad o dros 200 llestr yn llenwi cypyrddau ei chartref newydd?
"Dwi'n gyndyn iawn i adael iddyn nhw fynd i neb arall. Mae'r ferch wedi gofyn yn ddiweddar 'alla i gael rhai?' a dwi'n gyndyn iawn i adael iddyn nhw i fynd.
"A phan dwi'n ystyried cael gwared ar rai ohonyn nhw, mae'r plant yn dweud wrtha i am beidio! Maen nhw yn lestri braf iawn, sydd wrth gwrs yn mynd â fi 'nôl dros hanner canrif. Byddai'n rhyfedd iawn hebddyn nhw."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2019

- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2024
