Prysurdeb gweithwyr pentref eiconig Portmeirion

Fel arfer ar brynhawn braf, mae sŵn dwsinau o bobl i'w clywed yn crwydro o amgylch pentref Portmeirion.

Ond, ar hyn o bryd, tan ddiwedd mis Ionawr, mae'r pentref ar gau i ymwelwyr, sy'n rhoi cyfle i'r gweithwyr gyflawni gwaith cynnal a chadw hanfodol o amgylch y pentref ac i'r lletyau gwyliau.

Am dair wythnos, mae'r staff yn brysur yn paentio, garddio, a threfnu priodasau a gwyliau i ymwelwyr, wrth i garfan arall o'r 250 o bobl sy'n cael eu cyflogi gael gwyliau haeddiannol.

Meurig Jones yw Rheolwr Lleoliad Portmeirion, ac mi roddodd gyfle i Cymru Fyw gael cip tu ôl y llenni, i weld beth sy'n mynd ymlaen yn y pentref cyn i'r giatiau agor unwaith eto.