Honiad prentisiaethau Llafur ddim wedi'i 'gefnogi gan ddata trylwyr'

pobl mewn siaced lacharFfynhonnell y llun, Getty Images
GanDaniel Davies
Gohebydd gwleidyddol
  • Cyhoeddwyd

Nid yw honiad y Prif Weinidog Eluned Morgan fod Llafur wedi curo targed i greu prentisiaethau wedi'i "gefnogi gan ddata trylwyr" a gellid ei ystyried yn "ddewis a dethol data", meddai'r corff gwarchod ystadegau.

Mae rhai wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am gynnwys prentisiaid sy'n gadael lleoedd hyfforddi o fewn wyth wythnos.

Byddai'r prentisiaid hynny wedi cael eu heithrio o'r "mesur 'trylwyr' sefydledig", yn ôl Penny Young, cadeirydd dros dro Awdurdod Ystadegau'r DU.

Yn etholiad diwethaf y Senedd ym mis Mai 2021, addawodd Llafur 125,000 o brentisiaethau, cyn lleihau'r addewid i 100,000 yn 2024.

Ym mis Chwefror, dechreuodd gweinidogion - gan gynnwys y prif weinidog - ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi curo'r targed 100,000.

Mae'r honiad yn seiliedig ar "wybodaeth reoli" ddiweddar sy'n cynnwys pawb sy'n dechrau prentisiaeth.

O dan y mesur mwy trylwyr, gan eithrio'r rhai sy'n gadael cyn wyth wythnos, dim ond 92,800 o brentisiaethau fyddai wedi cael eu cyfrif pan wnaeth y prif weinidog ei honiad ym mis Chwefror.

Cyhuddodd pleidiau eraill y llywodraeth o "symud pyst y gôl" am newid y data y mae'n ei ddefnyddio.

Pan ofynnwyd iddi pryd y dechreuodd ddefnyddio gwybodaeth reoli, dywedodd y llywodraeth wrth BBC Cymru fod gweinidogion wedi adolygu'r ddarpariaeth prentisiaethau yr hydref diwethaf "fel rhan o'r flaenoriaeth ehangach 'mwy o swyddi'".

Yn ei llythyr, mae Young yn dweud nad yw honiad y prif weinidog "yn cael ei gefnogi gan y mesur trylwyr ac yn ymddangos yn creu anghysondeb ag adroddiadau blaenorol a gellid ei ystyried fel dewis a dethol data".

Ychwanegodd: "Mae tryloywder yn bwysig oherwydd ei fod yn galluogi dadl i ganolbwyntio ar y materion pwysig.

"Mae'n hanfodol osgoi defnyddio data sy'n rhy ddetholus neu sy'n colli cyd-destun priodol.

"Gall bod yn glir ynghylch diffiniadau a'r dystiolaeth sy'n sail i unrhyw ddatganiadau o'r fath helpu i gynnal hyder y cyhoedd mewn ystadegau a'r sefydliadau sy'n eu cynhyrchu."

Cyhuddodd llefarydd addysg y Ceidwadwyr, Natasha Asghar, Lywodraeth Cymru o "gamarwain" pobl ifanc.

"Methodd Llafur yn sylweddol o ran eu targed, ond honnodd eu bod wedi llwyddo. Nawr mae'n amlwg eu bod nhw hefyd wedi methu â chyrraedd eu targed diwygiedig o 8,000," meddai.

Mae'r prif weinidog wedi ailadrodd ei honiad ers anfon llythyr Young ar 13 Mawrth, gan gynnwys yn ei chwestiynau olaf yn y Senedd cyn etholiad mis Mai ddydd Mawrth.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wrth ein bodd ein bod wedi creu mwy na 100,000 o gyfleoedd prentisiaeth yn ystod tymor y Senedd hwn, yn ôl y wybodaeth reoli ddiweddaraf gan Medr.

"Mae'r data hyd yn hyn hefyd yn dangos bod dros 91% o brentisiaid wedi aros ar eu cwrs y tu hwnt i'r wyth wythnos gyntaf.

"Mae prentisiaethau yn llwybr hynod werthfawr i gyflogaeth ac yn chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu sgiliau, cefnogi busnesau, a chryfhau economi Cymru."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.