Cynlluniau am gofeb i'r Frenhines Elizabeth II yng Nghymru

Bu farw'r Frenhines Elizabeth II ar 8 Medi 2022 yn 96 oed, ar ôl teyrnasu am 70 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd cyllid yn cael ei roi tuag at godi cofeb i'r Frenhines Elizabeth II yng Nghymru.
Mae'n rhan o gynlluniau ehangach gan Bwyllgor Coffáu'r Frenhines Elizabeth, fydd yn cynnwys coffa parhaol ym Mharc St James yn Llundain, sefydlu ymddiriedolaeth elusennol newydd i adfywio asedau cymundedol drwy'r DU, a choffa digidol fydd yn galluogi pobl i anfon eu hatgofion eu hunain o'r Frenhines.
Dywedodd Swyddfa'r Cabinet y bydd Llywodraeth y DU yn rhoi "cyllid cyfalaf" tuag at gofebau yng Nghymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon rhwng 2026-2029.
Does dim manylion hyd yma ynglŷn â chyfanswm y gost, y lleoliad, pa fath o gofeb na'r amserlen - cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru fydd hynny maes o law.
Mae modelau o'r coffa parhaol yn Llundain, a gwybodaeth am yr ymddiriedolaeth a'r coffa digidol yn cael eu harddangos yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd ddydd Gwener, ynghyd â lleoliadau yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Coffa'r Frenhines Elizabeth, yr Arglwydd Janvrin eu bod yn gobeithio y bydd cymunedau lleol drwy'r DU yn elwa o'r ymddiriedolaeth newydd yn enw'r Frenhines.
Ychwanegodd y bydd y coffa digidol "yn galluogi pobl drwy'r wlad, y Gymanwlad a thu hwnt i rannu eu hatgofion o'r diweddar Frenhines, i adeiladu archif byw o'i theyrnasiad ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon Perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Medi 2022

- Cyhoeddwyd10 Medi 2022
