'Mor falch' bod ffilm Hedd Wyn yng ngŵyl ffilm Beverly Hills

Elsa Davies (canol) gyda chast a chriw 'A Pack of Five'
- Cyhoeddwyd
Wrth i ffilm fer newydd am y Prifardd Hedd Wyn gael ei dangos yn rhyngwladol dywed un sydd â chysylltiad agos â'r teulu ei bod yn "hynod o falch".
Yr wythnos ddiwethaf cafodd y ffilm 'A Pack of Five' ei dangos yng Ngŵyl Ffilm Beverley Hills.
Roedd Elsa Davies yn briod â nai Hedd Wyn, y diweddar Gerald Williams, ac mae wedi bod yn helpu'r cast a'r criw cynhyrchu.
Dywed ei bod yn hynod falch o'r ffilm a gwaith yr actorion ac y dylai'r ffilm gael "sylw cynulleidfa ehangach".
Wedi'i chyfarwyddo gan John Parr a'i chynhyrchu gan Simon Howlett, mae'r ffilm yn dilyn pum milwr o Gymru, Ffrainc a Lloegr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Ers iddi gael ei dangos gyntaf flwyddyn ddiwethaf, mae'r ffilm wedi ennill sawl gwobr.
Cafodd ei dangos yn Beverly Hills 32 o flynyddoedd ers i'r ffilm Gymraeg wreiddiol cael ei henwebu am Oscar.
"Mae'n hyfryd meddwl bod stori Hedd Wyn yn mynd nôl i Hollywood. 'Odd y ffilm hir am Hedd Wyn wedi cael shwt gymaint o gyhoeddusrwydd achos 'odd hi'n arbennig o dda," meddai Elsa Davies.
"Dwi'n siŵr bydde Gerald wedi bod yn falch iawn bod y ffilm newydd am ei ewythr yn cael cymaint o sylw."
Ychwanegodd bod y ffilm yn deyrnged neis i Hedd Wyn a bod pob aelod o'r cast yn siarad amdano gydag urddas.
'Profiad swreal'

Mae Rhodri Evan a Rhodri Lewis o Grymych yn ymddangos yn y ffilm fer am Hedd Wyn
Cafodd y ffilm ei ffilmio yn Nhegryn, Sir Benfro ac mae'n cynnwys cast o actorion Cymraeg.
Un o'r actorion yw Rhodri Lewis - mae e'n actio Archie, milwr ifanc.
"O'n nhw'n chwilio am soldiwr ifanc ar gyfer y ffilm… rhywun oedd yn lleol i'r ardal ac o gwmpas yr oedran ifanc yna," meddai.
"Nes i hala clip castio fewn at John Parr, a ges i gynnig mynd am ail gyfweliad a ges i'r rhan."

Mae Rhodri Lewis yn disgrifio'r profiad fel un 'swreal'
Cofio Gerald Williams, ceidwad Yr Ysgwrn
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2021
Yr Ysgwrn yn cael statws amgueddfa
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2018
Wedi hen arfer ag actio fel rhan o "eisteddfodau, pantomeimiau a dramâu clybiau Ffermwyr Ifanc", dyma swydd broffesiynol gyntaf Rhodri.
"Odd e'n anhygoel gweithio ar rywbeth mor fawr.
"Odd e'n swreal iawn. O'n i'n cael make up a costume wedi'i neud yn y dafarn leol yng Nghrymych.
"Dim bob dydd ry'ch chi'n gweld ffilm set yn popo lan yng Nghrymych."
Cydweithio gyda enwau adnabyddus
Mae'r actor adnabyddus Rhodri Evan hefyd yn ymddangos yn y ffilm fer, a bu'n help mawr i Rhodri yn ystod y cyfnod ffilmio.
Dywedodd Rhodri Lewis: "'Ma 'nyled i'n fawr i Rhodri. Nath 'e helpu fi tipyn gyda'r jobyn cyntaf 'ma, y jobyn cyntaf yn fy ngyrfa actio.
"O'n i'n ffodus iawn cael bod yn ei gysgod, dysgodd e fi tipyn yn yr wythnosau tuag at y shoot."

Y ddau Rhodri yn noson dangosiad y ffilm yn Llanelli
Fel "bachgen bach o Gyrmych" doedd Rhodri "ddim yn meddwl bydde mil o bobl LA yn gweld fy ngwyneb i ar cinema screen yn Hollywood".
Bydd y ffilm yn cael ei dangos yn Llundain ddydd Mercher gydag elw'r noson yn cael ei roi tuag at elusen newydd.
Bwriad yr ymddiriedolaeth newydd yw cadw'r atgof am Ellis Humphrey Evans neu Hedd Wyn yn fyw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.