Hen doiledau yng Nghasnewydd yn rhoi help llaw i fandiau ifanc

- Cyhoeddwyd
Yn ardal Pilgwenlli yng Nghasnewydd mae na hen floc toiledau cyhoeddus sy'n cadw cyfrinach.
Mae bellach yn lleoliad perfformio, sy'n cynnal cyngherddau, gigs a digwyddiadau i gynulleidfa o ddim ond rhyw 30 o bobl.
Ac ynghyd â denu perfformwyr a chynulleidfa, mae'r lleoliad hefyd yn ceisio helpu a hyrwyddo artistiaid ifanc lleol.
The Phyllis Maud

Model o Phyllis Maud yn y Phyllis Maud
The Phyllis Maud yw enw'r toiledau bellach, a hynny ar ôl hen fodryb y ddynes a brynodd yr adeilad chwe blynedd yn ôl a'i drawsnewid yn feniw perfformio.
Mae popeth sydd ei angen yma; gofod i'r artist berfformio, lle i'r gynulleidfa wylio, toiledau, bar bach a hyd yn oed lle i fyny'r grisiau i'r peiriannydd sain neu i'r artist gael ymlacio cyn y sioe.
Mae nifer o'r nodweddion gwreiddiol dal i'w gweld yma, fel y teils ar y waliau a'r lloriau, a'r arwyddion Gentlemen uwchben y ddau ddrws y tu allan.
Yn dyddio o tua'r 1920au, byddai wedi bod yn doiledau cyhoeddus defnyddiol, am ei fod mor agos at y dociau prysur.
Cipolwg tu mewn i hen doiledau sydd nawr yn feniw cerddoriaeth fyw
Gofod i'r celfyddydau
Joe Kelly yw'r rheolwr, a hynny ers bron i flwyddyn. Mae perfformiadau o bob math yn cael eu cynnal yno rhyw ddwywaith yr wythnos – yn gerddoriaeth byw, celf a chomedi – a'r diddordeb yn y lleoliad bach unigryw yn tyfu, meddai.
"Mae gennyn ni 'chydig o asiantau ry'n ni nawr yn gweithio gyda nhw'n rheolaidd i drefnu artistiaid. Mae gennyn ni ambell i act Americanaidd sy'n dod ar daith yma, ac artistiaid o ledled y DU.
"'Dyn ni'n cynnal digwyddiadau rheolaidd misol, fel Troubadour sef noson cerddoriaeth fyw a chrefftio, noson canu gwlad, noson blues sy'n dechrau ym mis Ebrill, a nosweithiau showcase i gerddorion-gyfansoddwyr."
Ac mae'r feniw bellach yn cynnig help llaw i artistiaid ifanc lleol hefyd, gyda'r cynllun newydd Young Session Sounds, sy'n rhoi cyfle iddyn nhw recordio sesiynau yno.
Joe, rheolwr The Phyllis Maud gyda Bowen a Bryn o Yr Argraff
Mae'r disgyblion chweched dosbarth, Bowen a Bryn, o'r band Yr Argraff wedi cael perfformio yn The Phyllis Maud fel rhan o'r cynllun.
"Prosiect ein drymiwr ni, Taylor, ydy e," eglurai Bryn, "a'r bwriad yw i hybu pobl ifanc sydd eisiau chwarae cerddoriaeth, sydd efallai yn cael trafferth i dorri mewn i'r sîn.
"Maen nhw'n gallu dod yma i'r Phyllis Maud i berfformio set a chael recordiadau o ansawdd da er mwyn hyrwyddo eu stwff nhw ar-lein."
Eisiau cynulleidfa i'r Gymraeg
Mae'r band yn perfformio yn bennaf yn Gymraeg - rhywbeth eitha' anghyffredin yn yr ardal, meddai'r ddau - sydd yn golygu bod dod o hyd i gynulleidfa ychydig yn heriol.
"Ar hyn o bryd ma' fe bach yn anodd i ni fel band sy'n arfer gwneud lot o stwff drwy'r iaith Gymraeg i ffindo cynulleidfa yma yng Nghasnewydd," meddai Bryn. "Does dim lot o bresenoldeb o bobl yn chwarae trwy'r iaith Gymraeg."
"Mae yna lawer o bethau sy'n digwydd trwy'r Saesneg, ac mae llawer o fandiau newydd Saesneg sy'n popo lan yng Nghasnewydd yn enwedig yn y flwyddyn neu ddau diwethaf, ond dim lot yn y Gymraeg," eglurai Bowen.
Felly mae'r ddau yn gwerthfawrogi'r cyfle gafodd y band gan y cynllun newydd i recordio cynnwys a fydd yn hanfodol i hyrwyddo eu cerddoriaeth a dod o hyd i gynulleidfa newydd.
Ychwanegai Bowen: "Mae'n ffynhonnell dda i roi platfform i'r bandiau ifanc yma. Os wyt ti'n gweld band a moyn clywed mwy mae'n rhywbeth i bwyntio ato, a chi'n gallu dysgu mwy am y band a gwrando i fwy o'r gerddoriaeth.
"Mae'n 'neud i chi edrych mwy proffesiynol na jyst fideo ar eich ffôn."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2024

- Cyhoeddwyd13 Chwefror
