Plaid Cymru'n 'hyderus' o allu ariannu addewid i ehangu gofal plant

Mae'r addewidion yn "seiliedig ar yr [arian] sydd gennym ni yn y pot yn barod", meddai Rhun ap Iorwerth
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd Plaid Cymru yn dweud ei fod yn "hyderus fod y symiau'n gywir" pan mae'n dod i ariannu ei addewid maniffesto i ehangu gofal plant am ddim.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth y dylai pobl farnu ei blaid ar yr hyn mae'n gwneud, nid faint mae'n gwario, os yw'n ffurfio llywodraeth nesaf Cymru.
Byddai Plaid Cymru'n "ail-flaenoriaethu" cyllideb y llywodraeth ac yn "gwario arian yn wahanol", meddai mewn cyfweliad â BBC Radio Wales.
Dywedodd Llafur Cymru fod angen i Blaid Cymru "fod yn onest gyda phleidleiswyr" gan honni bod eu polisi gofal plant yn "anfforddiadwy".
Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau sydd ar y gweill (Yn agor mewn tab porwr newydd)
Dros bwy alla i bleidleisio yn fy ardal i?
Er mwyn rhoi gwybodaeth am unrhyw etholiadau yn eich ardal chi, mae'r BBC yn cydweithio â'r Comisiwn Etholiadol ac yn anfon eich data personol atynt. Hysbysiad Preifatrwydd Data (Yn agor mewn tab porwr newydd)
Rhowch god post preswyl llawn yng Nghymru i gael gwybod
Dim cysylltiad rhyngrwyd
Mae problem gyda'r gwasanaeth ar hyn o bryd. Rhowch gynnig arall arni nes ymlaen.
Mae cryn dipyn o wrthdaro wedi bod rhwng y pleidiau ynghylch eu cynlluniau i wario ar wasanaethau cyhoeddus a thorri trethi yn yr ymgyrch ar gyfer etholiad y Senedd ar 7 Mai.
Nid oes yr un ohonynt wedi cyhoeddi set fanwl o gostau hyd yn hyn.
Mae Plaid Cymru'n dweud y bydd yn cynnig 20 awr o ofal am ddim yr wythnos i blant rhwng naw mis a phedair oed.
Byddai hefyd yn cadw'r ymrwymiad presennol i ddarparu 30 awr o ofal yr wythnos i blant tair a phedair oed os yw eu rhieni mewn gwaith, addysg neu hyfforddiant.
Os na allwch chi weld yr elfen ryngweithiol, diweddarwch y dudalen
Beth mae'r pleidiau yn ei addo i chi?
Dysgwch beth yw polisïau'r prif bleidiau gwleidyddol drwy ddewis opsiwn isod.
Wales
Llafur Cymru
Arweinydd
Eluned Morgan
Prif flaenoriaethau
- Mynd i’r afael â chostau byw drwy docynnau bws rhatach, biliau ynni is ac ehangu gofal plant
- Swyddi ar gyfer y dyfodol gyda Chymru Ynni Annibynnol, a Gwarant Ailhyfforddi Gydol Oes newydd
- Dêl newydd ar gyfer ein GIG gyda £4bn i adeiladu ysbytai newydd, cymorth iechyd meddwl ar yr un diwrnod, a chanolbwyntio ar iechyd menywod
- Diogelu’r blaned drwy lanhau ein hafonydd a’n moroedd, tyfu ein Coedwig Genedlaethol a mynd i’r afael â thipio anghyfreithlon
- Dyfodol tecach sy’n rhoi terfyn ar ddigartrefedd, codiad cyflog i'r gweithwyr ar y cyflogau isaf a chodi safonau ysgolion
Costau byw
Mae rhywfaint o'r maes polisi hwn yn parhau dan reolaeth llywodraeth y DU
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Cadw teithio am ddim ar fysiau i’r rhai dros 60 oed a'n cap o £1 ar gyfer pobl ifanc, a chyflwyno cap newydd o £2 ar brisiau bws i oedolion
- Cyflwyno gofal plant wedi’i ariannu i fabanod naw mis oed yn raddol a’i gwneud hi’n haws cael gafael ar ofal plant dros gyfnod y Senedd nesaf, gan greu 20,000 o leoedd gofal plant newydd wedi’u hariannu fel rhan o’n cynllun fesul cam
- Sicrhau bod ein holl benderfyniadau ar ynni yn rhoi blaenoriaeth i gadw biliau mor isel â phosib
- Cyflawni bargen decach i staff cymorth ysgolion drwy sefydlu Corff Negodi Staff Cymorth Ysgolion statudol newydd, gyda chyflog drwy gydol y flwyddyn a mynediad at ddysgu proffesiynol ymhlith y blaenoriaethau cyntaf
- Sicrhau bod pob gweithiwr gofal cymdeithasol yn cael eu gwobrwyo’n deg drwy gyflwyno cytundebau cyflog teg y gellir eu gorfodi'n gyfreithiol i bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i oedolion a phlant
- Diogelu polisïau Llafur Cymru sy’n helpu pobl gyda chostau byw, gan gynnwys presgripsiynau am ddim, parcio am ddim mewn ysbytai, prydau ysgol am ddim, brecwast am ddim mewn ysgolion, a chadw’r GIG am ddim pryd a lle bynnag y bo’i angen
Yr economi
Mae rhywfaint o'r maes polisi hwn yn parhau dan reolaeth llywodraeth y DU
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Gweithio tuag at ein gweledigaeth ar gyfer Cymru Ynni Annibynnol, a seiliwyd ar ynni glân o Gymru, gan helpu i ddiogelu Cymru rhag marchnadoedd ynni byd-eang ansefydlog a chreu miloedd o swyddi da
- Cyflwyno Gwarant Ailhyfforddi Gydol Oes newydd i wneud yn siŵr y gall gweithwyr fanteisio ar yr hyfforddiant sydd ei angen arnyn nhw yn eu gyrfaoedd, gan ymateb i newidiadau economaidd mawr
- Cyhoeddi Strategaeth Ddiwydiannol newydd i Gymru yn ystod ein blwyddyn gyntaf, gan ganolbwyntio ar y cyfleoedd enfawr ym maes ynni glân, gweithgynhyrchu uwch, y diwydiannau creadigol, yr economi ddigidol a gwyddorau bywyd
- Lleihau biwrocratiaeth fusnes drwy symleiddio cymorth busnes a chynnal adolygiad trylwyr o drethi busnes er mwyn sicrhau eu bod yn decach i bawb, a helpu busnesau newydd i dyfu gyda grantiau i entrepreneuriaid ifanc ac arian cyfatebol i gwmnïau sy’n deillio o brifysgolion
- Sicrhau mai Cymru yw’r genedl gyflymaf yn y DU i gael caniatâd cynllunio
- Sicrhau bod busnesau sy’n cael cymorth gan Lywodraeth Cymru yn talu’r Cyflog Byw Gwirioneddol, dod â chontractau dim oriau camfanteisiol i ben, ac agor y drws i undebau llafur
GIG a gofal
Mae rheolaeth dros y mater hwn yn nwylo llywodraeth Cymru yn gyfan gwbl neu'n rhannol
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Buddsoddi £4bn yng Nghronfa Ysbytai’r Dyfodol i adeiladu ysbytai newydd o’r radd flaenaf, gan gynnwys disodli Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Athrofaol Cymru, a datblygiad ysbyty mawr yng ngorllewin Cymru
- Yn dilyn gostyngiad yn y rhestrau aros wyth mis yn olynol o dan Lafur Cymru, byddwn yn parhau i dorri rhestrau aros
- Trawsnewid gofal iechyd meddwl i ddarparu gwasanaethau yr un diwrnod y mae’n hawdd cael gafael arnyn nhw, fel y gall pawb gael y cymorth cywir pan fydd ei angen arnyn nhw
- Sicrhau y byddwch yn cael eich gweld gan aelod o’r tîm gofal sylfaenol o fewn 48 awr os oes gennych chi angen iechyd brys sy'n ymwneud â gofal sylfaenol
- Gwella diagnosis a thriniaeth canser a lansio rhaglen sgrinio genedlaethol wedi’i thargedu, ar gyfer canser yr ysgyfaint yn 2027, yn ogystal â sefydlu cronfa deithio i bobl ifanc â chanser er mwyn cefnogi teuluoedd gyda chostau teithio i gael triniaeth ar gyfer plant a phobl ifanc â chanser
- Gwella mynediad at ddeintyddiaeth y GIG drwy sicrhau bod mwy o apwyntiadau ar gael drwy’r contract newydd, hyfforddi’r gweithlu deintyddol sydd ei angen ar Gymru a chefnogi cynlluniau ar gyfer ysgol ddeintyddol newydd
Mewnfudo
Mae rheolaeth dros y mater hwn yn nwylo llywodraeth y DU yn gyfan gwbl neu'n rhannol
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Nid Llywodraeth Cymru sy'n penderfynu faint o bobl sy'n ceisio lloches yn y DU sy'n cael eu lleoli yng Nghymru na phwy sy'n cael ei leoli yng Nghymru – mae hynny wedi bod yn benderfyniad i Lywodraeth y DU erioed.
- Diogelu statws Cymru fel Cenedl Noddfa i gefnogi'r rhai sy'n cyrraedd yma i ailadeiladu eu bywydau ar ôl ffoi rhag erledigaeth a rhyfel, a'u helpu i integreiddio i fywyd Cymru a dod â chyfraniadau positif i'n cenedl.
Tai
Mae rheolaeth dros y mater hwn yn nwylo llywodraeth Cymru yn gyfan gwbl neu'n rhannol
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Dod â digartrefedd i ben erbyn 2034, gyda charreg filltir o beidio â rhoi unrhyw blant mewn llety gwely a brecwast erbyn 2030
- Datgloi degawd newydd o adeiladu tai i ddarparu 100,000 o gartrefi yn ystod y 10 mlynedd nesaf, gan gynnwys o leiaf 40,000 o gartrefi cynnes, carbon isel i'w rhentu yn y sector cymdeithasol
- Sefydlu Tasglu Tai Cenedlaethol newydd i ddiwygio’r system gynllunio a chontractio ac ysgogi dulliau adeiladu modern yn gyflymach
- Cefnogi gwaith uwchraddio effeithlonrwydd ynni i fwy na 100,000 o gartrefi yn ystod tymor y Senedd nesaf i leihau biliau
- Taro bargen decach i rentwyr preifat, gan gynnwys cynllun gwarantwr i alluogi mwy o bobl i gael eiddo rhent, archwilio cynllun sgorio ar gyfer asiantaethau gosod tai, a chyflwyno hawliau newydd i denantiaid sydd eisiau cadw anifeiliaid anwes
- Cryfhau hawliau cyfreithiol lesddeiliaid a phreswylwyr tai newydd, mynd i'r afael â thaliadau ar gyfer ffyrdd heb eu mabwysiadu a chyflwyno fframwaith i fynd i'r afael â diffygion adeiladu
Yr Amgylchedd
Mae rhywfaint o'r maes polisi hwn yn parhau dan reolaeth llywodraeth y DU
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Glanhau ein hafonydd a’n moroedd gyda Bil Dŵr Glân i Gymru, rheoleiddiwr dŵr newydd ac ariannu cronfa bwrpasol i fynd i’r afael â’r bobl sy’n llygru ein hafonydd
- Glanhau ein strydoedd a'n cymdogaethau drwy fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon, cynyddu dirwyon a chreu troseddau newydd
- Parhau i ehangu Coedwig Genedlaethol Cymru a chreu Llwybr Coedwig Cenedlaethol, a fydd yn ymestyn o ogledd i dde Cymru yn y pen draw
- Gweithredu ar newid hinsawdd i dorri allyriadau carbon er mwyn bodloni’r gyllideb garbon bresennol a’r un nesaf, gan gadw ein gwaharddiad ar ffracio a gwrthwynebu tynnu tanwydd ffosil o’r ddaear
- Diogelu 30% o'n tiroedd a'n moroedd ar gyfer natur erbyn 2030 a phennu targedau newydd, cadarn a chyfreithiol rwymol ar gyfer adfer natur
- Ailgyflwyno rhywogaethau allweddol fel afancod a sicrhau bod pob cartref newydd wedi’i gynllunio i fod yn ystyriol o fyd natur gyda mesurau fel brics gwenoliaid a mwy
Addysg
Mae rheolaeth dros y mater hwn yn nwylo llywodraeth Cymru yn gyfan gwbl neu'n rhannol
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Codi safonau yn ein hysgolion drwy ganolbwyntio’n ddi-baid ar ragoriaeth mewn llythrennedd a rhifedd fel sylfeini’r holl ddysgu
- Cyflwyno cymorth llythrennedd a rhifedd wedi’i dargedu i ddysgwyr ym Mlwyddyn 6 a 7 wrth iddyn nhw symud o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd
- Cadw taliad y Lwfans Cynhaliaeth Addysg o £40 yr wythnos ar gyfer dysgwyr cymwys, y mae Llafur Cymru wedi’i gadw a’i gynyddu er y cafwyd ei wared yn Lloegr
- Sicrhau bod holl staff ysgolion yn cael eu hyfforddi i gefnogi plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a sefydlu gwasanaeth eiriolaeth ADY newydd i helpu dysgwyr a’u teuluoedd
- Ymestyn prydau ysgol am ddim mewn ysgolion uwchradd i o leiaf bob aelwyd sy’n derbyn Credyd Cynhwysol
- Diogelu dyfodol hirdymor colegau a phrifysgolion, diogelu system flaengar Llafur Cymru o grantiau cynhaliaeth myfyrwyr nad oes rhaid eu had-dalu, a sefydlu cynllun ad-dalu i Gymru yn unig ar gyfer benthyciadau myfyrwyr er mwyn sicrhau bod y telerau’n decach i raddedigion
Trafnidiaeth
Mae rhywfaint o'r maes polisi hwn yn parhau dan reolaeth llywodraeth y DU
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Cyflwyno dros 100 o lwybrau bysiau newydd a chynnydd digynsail mewn gwasanaethau bysiau
- Targedu ymyriadau i leddfu tagfeydd mewn mannau cyfyng ar rwydwaith y cefnffyrdd gan gynnwys ar yr M4, yr A55, yr A483 a’r A494
- Darparu cyfres o orsafoedd newydd, llinellau rheilffordd wedi’u huwchraddio a gwasanaethau trên gwell fel rhan o’r cynllun £14 biliwn ar gyfer rheilffyrdd Cymru a’r Gororau, mewn partneriaeth â Llywodraeth Lafur y DU
- Cymryd y camau nesaf i gyflawni Metro De Cymru, a pharhau i ddatblygu Rhwydwaith Gogledd Cymru a metro ar gyfer Rhanbarth Bae Abertawe
- Adnewyddu a newid ein bysiau, arosfannau, gorsafoedd a llochesi bysiau sy’n heneiddio, gan wella gwasanaethau a diogelwch i deithwyr
- Cyflwyno bathodyn glas gydol oes newydd i bobl â chyflyrau gydol oes, gan leihau’r baich gweinyddol ar bobl anabl
Democratiaeth
Mae rhywfaint o'r maes polisi hwn yn parhau dan reolaeth llywodraeth y DU
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Cyflwyno achos dros Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol i ddiogelu datganoli a chryfhau statws Cymru yn y DU
- Parhau i alw am ddiddymu Deddf Marchnad Fewnol y DU a gyflwynwyd gan Lywodraeth Dorïaidd flaenorol y DU
- Parhau i geisio mwy o bwerau i Gymru, gan gynnwys datganoli Ystad y Goron a chyfiawnder ieuenctid a phrawf fel cam cyntaf tuag at ddatganoli plismona a chyfiawnder
- Gwneud cynrychiolwyr etholedig yn fwy atebol i’r cyhoedd a chynnal y safonau uchaf mewn bywyd cyhoeddus, gan weithio tuag at gyflwyno cofrestr o lobïwyr yn rhan o hyn
- Cryfhau proses safonau mewnol y Senedd a chyflwyno system newydd o adalw Aelodau o’r Senedd sy’n euog o gamymddwyn difrifol
- Cyflwyno achos dros ‘fformiwla cyfran deg’ newydd fel bod Cymru’n cael ei chyfran ddilys o adnoddau’r DU mewn meysydd hollbwysig fel mater o drefn
Y Ceidwadwyr Cymreig
Arweinydd
Darren Millar
Prif flaenoriaethau
- Torri treth incwm, capio’r Dreth Gyngor ac ehangu gofal plant am ddim i helpu teuluoedd sy’n gweithio’n galed gyda chostau byw
- Cael gwared ar dreth stamp (treth trafodiadau tir) er mwyn helpu i wneud y broses o berchen ar dŷ yn fwy ymarferol a chael y farchnad dai i symud
- Datgan argyfwng iechyd i gynyddu capasiti gwelyau, mynd i'r afael â'r ôl-groniad rhestrau aros a gwella gofal brys
- Adfer disgyblaeth a chodi safonau mewn ysgolion, gan gynnwys gwahardd ffonau symudol mewn ystafelloedd dosbarth a chefnogi gwaharddiad ar gyfryngau cymdeithasol ar gyfer y rhai o dan 16 oed
- Cael gwared ar y terfynau cyflymder diofyn o 20mya a'u disodli â dull sydd wedi’i dargedu’n fwy
- Gwrthdroi'r cynnydd o 60% yn nifer gwleidyddion y Senedd ac ail-gyfeirio’r arbedion i wasanaethau rheng flaen fel meddygon, nyrsys ac athrawon
Costau byw
Mae rhywfaint o'r maes polisi hwn yn parhau dan reolaeth llywodraeth y DU
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Mynd i’r afael â thlodi drwy dorri trethi, creu swyddi a thyfu economi Cymru i roi’r diogelwch economaidd o incwm teilwng i fwy o deuluoedd
- Diwygio Dechrau’n Deg er mwyn sicrhau ei fod wedi’i dargedu ar gyfer y teuluoedd sydd ei angen, yn hytrach na chodau post
- Datblygu Cynllun Gweithredu Trechu Tlodi i gynnwys strategaethau penodol i fynd i’r afael â thlodi plant a thlodi tanwydd i roi hwb i atebolrwydd a chynnydd
Yr economi
Mae rhywfaint o'r maes polisi hwn yn parhau dan reolaeth llywodraeth y DU
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Torri cyfradd sylfaenol treth incwm o 1c
- Cael gwared ar ardrethi busnes ar gyfer cwmnïau bach, tafarndai a swyddfeydd post
- Ymestyn gofal plant am ddim i blant o naw mis i bedair oed er mwyn helpu teuluoedd gyda’u cyllideb a’u bod yn gallu dychwelyd i’r gwaith
- Treialu cyfnodau di-dreth ar gyfer busnesau manwerthu newydd sy'n ceisio agor siopau ar y stryd fawr yng Nghymru
- Gweithio gyda chynghorau lleol i ymestyn mynediad at barcio am ddim yng nghanol trefi
- Datblygu strategaethau twf a blaenoriaethu buddsoddiad ym maes ynni, gofal iechyd, amddiffyn, awyrofod, amaethyddiaeth, twristiaeth, gwasanaethau ariannol a'r diwydiannau creadigol
GIG a gofal
Mae rheolaeth dros y mater hwn yn nwylo llywodraeth Cymru yn gyfan gwbl neu'n rhannol
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Datgan argyfwng iechyd mewn ymateb i’r argyfwng yn ein GIG
- Cynyddu gwariant ar iechyd a gofal cymdeithasol mewn termau real ym mhob blwyddyn o dymor y Senedd nesaf
- Cadw, recriwtio a hyfforddi mwy o feddygon, deintyddion, nyrsys, bydwragedd a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill i ddod â’r argyfwng recriwtio i ben ac i wella mynediad at apwyntiadau
- Sefydlu Cronfa Ysbytai’r 21ain Ganrif i adeiladu ysbytai newydd a moderneiddio’r ystâd ysbytai a gofal sylfaenol yng Nghymru
- Cynyddu'r terfyn cyfalaf i £75,000 ar gyfer y rhai sy'n defnyddio gofal preswyl er mwyn sicrhau nad yw pobl yn colli eu cynilion i gyd wrth dalu am gostau gofal
- Sefydlu Gwasanaeth Cronfa Staff Wrth Gefn GIG Cymru er mwyn sefydlu cronfa o staff gwirfoddol sydd wedi’u hyfforddi a’u fetio i helpu'r GIG ar adegau o argyfwng a phan fydd y galw ar ei anterth
Mewnfudo
Mae rheolaeth dros y mater hwn yn nwylo llywodraeth y DU yn gyfan gwbl neu'n rhannol
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Cael gwared ar y polisi Cenedl Noddfa
- Gweithio gyda Llywodraeth y DU i atal mewnfudo anghyfreithlon a chefnogi tynnu'n ôl o'r ECHR
Tai
Mae rheolaeth dros y mater hwn yn nwylo llywodraeth Cymru yn gyfan gwbl neu'n rhannol
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Dileu Treth Trafodiadau Tir (Treth Stamp) ar brif breswylfeydd, i helpu pobl i brynu tŷ a symud oddi mewn y farchnad dai
- Rhoi cap o 5% ar gynnydd yn y dreth gyngor a gofyn am refferenda lleol ar gyfer codiadau mwy
- Adfer Hawl i Brynu yng Nghymru, gan ailfuddsoddi elw’r gwerthiant mewn tai mwy fforddiadwy a diogelu cartrefi rhag cael eu gwerthu am 10 mlynedd
- Ymestyn ac ehangu’r cynllun Hawl i Brynu i bawb sy’n prynu am y tro cyntaf ac ehangu’r cynllun i gynnwys eiddo gwag sydd angen eu hadnewyddu
- Gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu cynllun i ddod â chysgu ar y strydoedd i ben yng Nghymru
Yr Amgylchedd
Mae rhywfaint o'r maes polisi hwn yn parhau dan reolaeth llywodraeth y DU
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Cael gwared ar Gyfoeth Naturiol Cymru a sefydlu rheoleiddiwr annibynnol, sy’n ateb y gofyn, yn ei le
- Glanhau ein hafonydd a gwella ansawdd dŵr ymdrochi, a defnyddio technoleg fodern i wella gwaith monitro
- Cyflwyno moratoriwm ar ffermydd solar a gwynt mawr i warchod cefn gwlad Cymru
- Mabwysiadu dull ‘claddu ceblau’n gyntaf’ ar gyfer seilwaith yng nghefn gwlad Cymru
- Ymgyrchu i gael gwared ar dreth ffermydd teuluol Llafur yn llawn
- Rhoi hwb o £100m ychwanegol i’r gyllideb ffermio dros dymor y Senedd nesaf
Addysg
Mae rheolaeth dros y mater hwn yn nwylo llywodraeth Cymru yn gyfan gwbl neu'n rhannol
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Cynyddu cyllid ysgolion bob blwyddyn
- Gwahardd ffonau symudol mewn ysgolion a chefnogi gwaharddiad ar gyfryngau cymdeithasol i’r rhai o dan 16 oed
- Adfer disgyblaeth a pharch, a gwella presenoldeb mewn ysgolion, drwy gytundebau ysgolion rhwng rhieni, athrawon a disgyblion
- Cyflwyno system o ddiarddel disgyblion yn awtomatig am fod â chyllyll ac arfau eraill yn eu meddiant
- Ad-dalu ffioedd dysgu prifysgol ar gyfer myfyrwyr nyrsio, meddygaeth, addysgu a deintyddiaeth sy’n astudio yng Nghymru ac sy’n mynd ymlaen i weithio am o leiaf pum mlynedd yn y GIG yng Nghymru neu mewn ysgolion yng Nghymru
- Codi safle Cymru mewn tablau cynghrair addysg rhyngwladol
Trafnidiaeth
Mae rhywfaint o'r maes polisi hwn yn parhau dan reolaeth llywodraeth y DU
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Cael gwared ar y terfyn cyflymder diofyn o 20mya mewn ardaloedd sydd â llawer o adeiladau a mabwysiadu dull sydd wedi’i dargedu yn lle hynny
- Adeiladu ffordd liniaru’r M4, uwchraddio’r A55, codi trydedd bont dros y Fenai a symud ymlaen gyda’r gwaith o ddeuoli'r A40 yng ngorllewin Cymru
- Dadrewi pob prosiect ffordd a diystyru prisio ffyrdd
- Dychwelyd Maes Awyr Caerdydd i weithredwyr preifat er mwyn arbed arian trethdalwyr a’i helpu i ffynnu
- Diogelu teithio am ddim ar fysiau a'i ymestyn i bob person 16–24 oed a chyn-aelodau'r lluoedd arfog
- Gwella cysylltiadau rheilffordd rhwng gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, gan gynnwys meysydd awyr Manceinion a Lerpwl
Democratiaeth
Mae rhywfaint o'r maes polisi hwn yn parhau dan reolaeth llywodraeth y DU
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Gwrthdroi'r cynnydd yn nifer Aelodau o’r Senedd o 60 i 96
- Lleihau maint gwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru
- Cael gwared ar rwydwaith Llafur o lysgenadaethau bach tramor
- Atal gwario ar brosiectau datblygu rhyngwladol, gan gynnwys plannu coed yn Uganda a chanŵau solar ym Mheriw
- Gwrthod ymdrechion Llafur a Phlaid Cymru i ddatganoli plismona, cyfiawnder ac elfennau o'r system les
- Rhoi’r gorau i wario ar faterion nad ydynt wedi’u datganoli, fel cyfiawnder, materion rhyngwladol, cymorth tramor a mewnfudo a diystyru incwm sylfaenol cyffredinol a ariennir gan Lywodraeth Cymru
Plaid Cymru
Arweinydd
Rhun ap Iorwerth
Prif flaenoriaethau
- Torri rhestrau aros a datblygu gwasanaeth iechyd a gofal sy’n addas ar gyfer y dyfodol drwy greu 10 canolfan lawfeddygol, recriwtio 100 o feddygon teulu newydd a buddsoddi mewn mwy o wasanaethau iechyd digidol
- Helpu teuluoedd gyda chostau byw gyda chynnig gofal plant newydd, gwerth dros £30,000, gan roi 20 awr o ofal plant am ddim i bob plentyn naw mis i bedair oed, a chadw’r cynnig 30 awr presennol
- Datgloi potensial economi Cymru a chreu swyddi da, sy’n talu’n dda, drwy Asiantaeth Datblygu Cenedlaethol newydd i Gymru, wedi’i harwain gan fusnesau, gan sicrhau bod mwy o arian cyhoeddus Cymru yn cael ei wario yng Nghymru, a chefnogi canol trefi
- Codi safonau mewn ysgolion a sicrhau’r amodau gorau ar gyfer dysgu drwy gynllun llythrennedd a rhifedd newydd a recriwtio a chadw’r athrawon gorau drwy gymhellion ac amodau gwaith gwell
- Mynd i’r afael â thlodi plant drwy gyflwyno Taliad Plant Cymru a chyflwyno cynllun radical newydd, wedi’i dargedu, i fynd i’r afael â thlodi plant
- Sefyll dros Gymru drwy sefydlu perthynas newydd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, amddiffyn datganoli, sicrhau mwy o bwerau, a brwydro i gael yr arian sy’n ddyledus i Gymru
Costau byw
Mae rhywfaint o'r maes polisi hwn yn parhau dan reolaeth llywodraeth y DU
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Cyflwyno cynnig gofal plant newydd, gwerth dros £30,000, gan roi 20 awr o ofal plant am ddim i bob plentyn naw mis i bedair oed, a chadw’r cynnig 30 awr presennol
- Cyflwyno Taliad Plant Cymru, treialu taliad wythnosol o £10 i blant sy’n byw mewn tlodi, gan ddarparu incwm ychwanegol i deuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd ac adeiladu’r achos dros gyflwyno’r taliad ar draws Cymru yn y dyfodol
- Cadw prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd ac ehangu prydau ysgol am ddim mewn ysgolion uwchradd, gan ddechrau gyda phob myfyriwr ym mlynyddoedd 7-11 o aelwydydd sy’n hawlio credyd cynhwysol
- Creu un cwmni ynni cenedlaethol cryfach i Gymru, gyda mwy o gapasiti i gynyddu perchnogaeth gymunedol ar ynni adnewyddadwy, a chylch gwaith clir i helpu i leihau biliau ynni
- Uwchraddio cartrefi ar draws Cymru i’w gwneud yn gynhesach ac yn rhatach i’w rhedeg, a allai helpu aelwydydd i arbed mwy na 10% ar eu biliau tanwydd blynyddol
- Brwydro am bwerau llawn dros les a budd-daliadau, a gwella’r system fudd-daliadau bresennol, i gynnwys mynediad awtomatig ac archwilio opsiynau am fudd-daliadau newydd i Gymru fel grant babanod
Yr economi
Mae rhywfaint o'r maes polisi hwn yn parhau dan reolaeth llywodraeth y DU
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Cefnogi busnesau yng Nghymru drwy Asiantaeth Datblygu Cenedlaethol newydd, wedi’i harwain gan fusnesau, helpu busnesau i dyfu, arloesi a masnachu, sicrhau mewnfuddsoddiad, a chreu swyddi cynaliadwy o ansawdd da
- Torri trethi busnes ar gyfer canol trefi – lleihau ardrethi’r stryd fawr ar gyfer busnesau fel siopau, caffis a bwytai yn ogystal â sicrhau bod siopau y tu allan i drefi yn talu cyfran deg
- Cadw mwy o arian cyhoeddus yng Nghymru drwy ei wario gyda busnesau Cymreig, gan gynyddu'r lefel o 55% ar hyn o bryd i o leiaf 70% o gyfanswm gwariant caffael cyhoeddus Cymru
- Cynnal archwiliad sgiliau cenedlaethol cynhwysfawr i roi dealltwriaeth gliriach i Lywodraeth Cymru o anghenion sgiliau’r dyfodol, arwain datblygiad hyfforddiant a chymwysterau i gefnogi economi Cymru yn well
- Creu Comisiwn Cyllidol ac Economaidd i roi hwb i ddatblygiad economaidd, darparu data allweddol a dadansoddiad o berchnogaeth a thwf busnesau, swyddi a'r gweithlu, arloesedd a thegwch ar draws pob rhanbarth
- Cyflwyno Strategaeth Ddigidol newydd i Gymru er mwyn cefnogi digido ac arloesi yn economi Cymru, a hybu technoleg ddigidol fel sector twf allweddol
GIG a gofal
Mae rheolaeth dros y mater hwn yn nwylo llywodraeth Cymru yn gyfan gwbl neu'n rhannol
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Darparu cynllun sydd wedi’i gostio, ei dargedu a’i arwain gan arbenigwyr, i dorri rhestrau aros drwy gyflwyno hyd at 10 canolfan lawfeddygol newydd ar draws Cymru, i ddarparu triniaethau ar gyfer cyflyrau lle mae cleifion wedi aros hiraf
- Cadw’r GIG am ddim pryd a lle bynnag y bo’i angen, diogelu presgripsiynau am ddim, cefnogi a thyfu gweithlu’r GIG a gwella llywodraethiant
- Recriwtio hyd at 100 o feddygon teulu newydd a gwella mynediad drwy wasanaethau digidol a thele-iechyd, i gefnogi ein blaenoriaeth i fynd i’r afael â rhestrau aros, a blaenoriaethu cyllid tecach, mwy cynaliadwy i feddygon teulu
- Cynnydd tuag at greu Gwasanaeth Iechyd a Gofal gwbl integredig, gyda mwy o gydweithio rhwng gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol a chymorth gwell i ofalwyr di-dâl
- Sicrhau bod prosesau llunio polisïau ar draws y llywodraeth yn gweithio i fynd i’r afael â ffactorau cymdeithasol iechyd i gadw pobl yn iach – gan gynnwys tai, addysg a lleihau tlodi
- Cyflwyno dyletswydd newydd ar fyrddau iechyd i asesu anghenion deintyddol lleol a chymryd pob cam rhesymol i dyfu ac i gynnal lefelau staffio deintyddol digonol i ddiwallu’r anghenion hynny
Mewnfudo
Mae rheolaeth dros y mater hwn yn nwylo llywodraeth y DU yn gyfan gwbl neu'n rhannol
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Nid yw polisi mudo yn fater datganoledig ac mae llywodraethau olynol y DU wedi methu cymunedau a mudwyr, a gyda phwerau datganoledig, byddai modd i ni ddarparu system deg sy’n seiliedig ar reolau, sy’n gweithio i anghenion Cymru ac yn cynnal ein gwerthoedd
- Mynd i’r afael â chamwybodaeth a thwyllwybodaeth am geiswyr lloches, ffoaduriaid a mudwyr, a sicrhau bod egwyddorion tegwch a pharch yn cael eu gwreiddio ar draws polisi’r llywodraeth i hyrwyddo integreiddio a chydlyniant cymunedol
- Gwrthwynebu model presennol Swyddfa Gartref y DU am ‘westai lloches’, sy’n cyfrannu at densiynau cymunedol, sy’n gallu cynyddu’r pwysau ar wasanaethau lleol ac sy’n gwneud ceiswyr lloches yn ynysig ac yn agored i niwed
Tai
Mae rheolaeth dros y mater hwn yn nwylo llywodraeth Cymru yn gyfan gwbl neu'n rhannol
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Deddfu dros hawl i gartref digonol yng Nghymru i fynd i'r afael yn raddol â'r problemau sy'n gorgyffwrdd â chyflenwad tai annigonol, prisiau tai yn codi, a rhenti cynyddol, sydd wedi cyfrannu at argyfwng tai Cymru
- Darparu o leiaf 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd erbyn 2030, gan weithio gydag awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol i ddarparu cartrefi newydd o ansawdd uchel ac i adfer tai gwag i’w defnyddio fel tai cymdeithasol
- Cyflwyno mesurau newydd i ddiogelu rhentwyr, gan gynnwys rhoi diwedd ar droi tenantiaid allan heb fai, gosod rhent teg drwy gyfyngu ar godiadau rhent, yr hawl i ofyn am anifail anwes a'i gwneud yn ofynnol i landlordiaid wella ansawdd eiddo
- Sefydlu dull Cartrefi yn Gyntaf o fynd i’r afael â digartrefedd, sy’n cymryd trawma i ystyriaeth ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn, sicrhau bod deddfwriaeth ddigartrefedd newydd yn cael ei rhoi ar waith yn effeithiol a blaenoriaethu ymyrraeth gynnar i atal digartrefedd
- Diwygio prosesau cynllunio i adlewyrchu anghenion lleol yn hytrach na buddiannau datblygwyr, gan ddod â thai, adfywio, cysylltedd a datblygu economaidd at ei gilydd o fewn un weledigaeth gydlynol ar gyfer Cymru
Yr Amgylchedd
Mae rhywfaint o'r maes polisi hwn yn parhau dan reolaeth llywodraeth y DU
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Cyflwyno Cynllun Gweithredu Hinsawdd a Natur i Gymru, gan osod llwybr ymarferol at sero net erbyn 2040, cynyddu ynni cymunedol, sgiliau a swyddi gwyrdd, trafnidiaeth lanach, cartrefi sy’n defnyddio ynni’n effeithlon, a diogelu ac adfer natur
- Cyflwyno Strategaeth Ynni Genedlaethol i fapio anghenion ynni Cymru nawr ac yn y dyfodol, a'r seilwaith sydd ei angen, ynghyd â Bargen Sector ar gyfer Ynni Adnewyddadwy i gydlynu camau gweithredu rhwng y llywodraeth, y diwydiant ynni adnewyddadwy, addysg, cymunedau ac undebau llafur
- Pwyso am ddatganoli Ystâd y Goron ar frys, er mwyn cadw’r elw yng Nghymru a’i fuddsoddi drwy Gronfa Cyfoeth Cymru newydd, gan gefnogi ynni cymunedol, tai a seilwaith fforddiadwy ac effeithlon o ran ynni
- Ceisio datganoli pwerau dros ddŵr yn llawn, sefydlu rheoleiddiwr dŵr newydd i Gymru i osod rheolaethau prisiau, cyfyngu ar daliadau bonws a buddsoddi mewn gwelliannau amgylcheddol, a gosod targedau gorfodol i leihau llygredd dŵr
- Diogelu dyfodol ffermydd teuluol Cymru gyda system ariannu aml-flwyddyn ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, lleihau’r baich presennol o ran gwaith papur diangen a hybu olyniaeth a newydd ddyfodiaid i ffermio
- Cyflwyno Strategaeth Fwyd gynhwysfawr i Gymru i ddatblygu diogelwch a llythrennedd bwyd, cwtogi a chryfhau cadwyni cyflenwi bwyd, a chefnogi a datblygu diwydiant bwyd a diod Cymru
Addysg
Mae rheolaeth dros y mater hwn yn nwylo llywodraeth Cymru yn gyfan gwbl neu'n rhannol
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Blaenoriaethu codi safonau llythrennedd a rhifedd, sefydlu targedau cenedlaethol, ar lefel ysgolion ac ar lefel unigol ar gyfer disgyblion, rhoi eglurder i athrawon a gosod meini prawf sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer addysgu llythrennedd a rhifedd
- Gweithio gydag athrawon a’r gweithlu addysg i leihau’r llwyth gwaith drwy gael gwared â gwaith papur a biwrocratiaeth ddiangen, darparu canllawiau ac adnoddau cliriach ar ddylunio cwricwlwm, cynyddu hyblygrwydd mewn cytundebau, gan gynnwys ar gyfer datblygiad proffesiynol
- Erbyn 2030, sicrhau bod Cymhellion Addysg Gychwynnol i Athrawon ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth yng Nghymru yn cyfateb i’r rhai yn Lloegr, gyda hyd at £30,000 ar gael ar gyfer y pynciau sydd fwyaf o flaenoriaeth – dwbl y £15,000 presennol
- Cynyddu cyfran a nifer y dysgwyr sy’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg, gydag o leiaf 50% o ddisgyblion mewn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050, gan sicrhau bod y ddarpariaeth yn hygyrch, yn gynhwysol, ac yn gallu manteisio ar adnoddau digonol
- Cymryd camau ar unwaith i adfer cynaliadwyedd hirdymor y system Anghenion Dysgu Ychwanegol ar ôl blynyddoedd o bwysau, symleiddio’r system i rieni a dysgwyr a gwneud hyfforddiant ADY yn orfodol i’r gweithlu
- Hyrwyddo addysg bellach a hyfforddiant galwedigaethol ymhellach, rhoi dewis i ddysgwyr a’u cyfeirio’n glir at yr opsiynau addysg, a chomisiynu adolygiad annibynnol, cynhwysfawr ar draws y sector addysg uwch a sut mae’n cael ei chyllido
Trafnidiaeth
Mae rhywfaint o'r maes polisi hwn yn parhau dan reolaeth llywodraeth y DU
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Brwydro dros ddatganoli rheilffyrdd a’r cyllid rheilffyrdd sy’n ddyledus i Gymru i fuddsoddi yn rheilffyrdd Cymru – gan gynnwys £4bn mewn cyllid canlyniadol yn sgil HS2 – a chyflwyno ffrwd newydd o brosiectau rheilffyrdd byr dymor, tymor canolig a hirdymor yng Nghymru
- Hybu diogelwch ar y ffyrdd a sicrhau bod ffyrdd yn cael eu cynnal a’u cadw’n ddiogel, cefnogi'r defnydd o fwy o gerbydau trydan, gan gynnwys seilwaith gwefru gwell ar draws Cymru, a galw ar Lywodraeth y DU i ehangu’r Cynllun Rhyddhad Treth Tanwydd Gwledig i Gymru
- System drafnidiaeth gwbl integredig, ehangu tocynnau tapio i mewn ac allan, talu wrth fynd gyda chapiau prisiau dyddiol ar draws bysiau a threnau, gan barhau i ddarparu tocynnau bws unffordd am £1 a thocynnau dydd am £3 i bobl ifanc, yn ogystal â phasys bws i’r rhai dros 60 oed a phobl anabl
- Sicrhau bod teithio llesol wrth galon system drafnidiaeth Cymru, gan hybu iechyd da a sicrhau llwybrau diogel a hygyrch ar droed, ar olwyn neu ar feic, a chefnogi mwy o fuddsoddiad mewn cynlluniau llogi beiciau ar draws Cymru
- Cefnogi cynaliadwyedd hirdymor Maes Awyr Caerdydd, ceisio datganoli’r Doll Teithwyr Awyr a gweithio gydag awdurdodau a rhanddeiliaid porthladdoedd i gryfhau gwydnwch porthladdoedd Cymru a chynyddu eu rôl yng nghadwyni cyflenwi Ewrop
Democratiaeth
Mae rhywfaint o'r maes polisi hwn yn parhau dan reolaeth llywodraeth y DU
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Amddiffyn datganoli a gwrthsefyll ymdrechion i’w danseilio neu ei wanhau, a galw am ddatganoli pellach o ran rheilffyrdd, Ystâd y Goron, lles, dŵr, cyfiawnder a phlismona
- Sefydlu Comisiwn Cenedlaethol newydd i Gymru i oruchwylio datganoli pellach, cynnwys dinasyddion mewn sgwrs genedlaethol am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru, a gosod y sylfeini ar gyfer Papur Gwyn yn y dyfodol ar annibyniaeth, gan fynd i’r afael â’r heriau a nodi’r cyfleoedd
- Cynnal adolygiad llawn o drefniadau etholiadol ac iechyd ehangach democratiaeth yng Nghymru, nodi llwybrau i sicrhau cynrychiolaeth gyfartal rhwng y rhywiau, gweithio i greu mwyafrif trawsbleidiol ar gyfer mabwysiadu’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau’r Senedd yn y dyfodol, a chryfhau addysg llythrennedd gwleidyddol a llythrennedd yn y cyfryngau
- Cyflwyno Deddf Hawliau Dynol sy’n ymgorffori cytundebau rhyngwladol allweddol i gyfraith Cymru, gan gynnwys Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl, diddymu pob math o wahaniaethu yn erbyn menywod, diddymu gwahaniaethu hiliol a hawliau’r plentyn
- Cryfhau uniondeb mewn gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus, gan gynnwys deddfu i ymestyn egwyddorion Cyfraith Hillsborough a’r ddyletswydd gonestrwydd lle nad yw deddfwriaeth y DU yn ymdrin yn llawn â swyddogaethau datganoledig a chyrff cyhoeddus yng Nghymru
Y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig
Arweinydd
Jane Dodds
Prif flaenoriaethau
- Buddsoddi mewn gofal cymdeithasol a 5,000 o welyau gofal newydd ychwanegol i roi terfyn ar argyfwng y cleifion sy'n cael eu trin mewn coridorau ysbytai
- Darparu gofal plant am ddim i bob plentyn o naw mis i bedair oed, 30 awr yr wythnos, 48 wythnos y flwyddyn
- Sicrhau bod pob claf sydd â chanser yn dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod o atgyfeiriad brys
- Gwahardd dympio carthion yn afonydd a moroedd Cymru a disodli Ofwat gyda rheoleiddiwr llymach i Gymru
- Canolbwyntio ar gadw gweithwyr, torri rhestrau aros y GIG a chefnogi gofalwyr teuluol yn ôl i'r gwaith
Costau byw
Mae rhywfaint o'r maes polisi hwn yn parhau dan reolaeth llywodraeth y DU
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Cael gwared ar y cynnydd arfaethedig mewn tollau tanwydd i leddfu’r baich yn sgil prisiau petrol sy’n codi
- Diddymu’r cynnydd Yswiriant Gwladol i leihau pwysau ar gyflogau a chefnogi busnesau’r stryd fawr
- Defnyddio technoleg newydd i helpu cartrefi i ddefnyddio ynni ar adegau rhatach o’r dydd, gan leihau biliau
- Dim rhewi trothwyon ad-dalu benthyciadau myfyrwyr, gan arbed hyd at £100 i raddedigion yn y flwyddyn gyntaf
- Helpu pobl yn ôl i weithio drwy raglenni ailhyfforddi a chefnogi gofalwyr teuluol
Yr economi
Mae rhywfaint o'r maes polisi hwn yn parhau dan reolaeth llywodraeth y DU
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Diddymu ardrethi busnes i fusnesau bach a’u disodli gydag ardoll ar dirfeddianwyr masnachol
- Creu cronfa £400m i wneud canol trefi yn lanach, yn fwy diogel ac yn wyrddach
- Torri TAW o 5% ar gyfer busnesau lletygarwch er mwyn cefnogi’r stryd fawr sy’n ei chael hi’n anodd
- Cytuno ar undeb tollau newydd rhwng y DU a’r UE er mwyn lleihau biwrocratiaeth masnach a rhoi hwb i dwf
- Blaenoriaethu mynediad at gyllid ar gyfer busnesau newydd a’r rhai sy’n tyfu
- Buddsoddi mewn arloesedd i helpu busnesau yng Nghymru i dyfu a chreu swyddi
GIG a gofal
Mae rheolaeth dros y mater hwn yn nwylo llywodraeth Cymru yn gyfan gwbl neu'n rhannol
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Buddsoddi mewn 5,000 o welyau gofal cymdeithasol newydd a lleoedd cymorth cartref i roi terfyn ar yr argyfwng gofal mewn coridorau mewn ysbytai
- Hyfforddi mwy o feddygon teulu yng Nghymru i leihau’r prinder ac i roi mynediad cyflymach i gleifion at feddyg lleol
- Cyflwyno Cynllun Canser Cenedlaethol i sicrhau bod pob claf sydd â chanser yn dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod o atgyfeiriad brys
- Sicrhau gofal deintyddol y GIG i bawb sydd angen triniaeth frys neu driniaeth argyfwng, gan ddod â’r diffeithwch deintyddol i ben
- Buddsoddi yn iechyd y cyhoedd a chyflwyno gwiriad iechyd canol oed i bawb dros 40 oed er mwyn dal problemau’n gynnar
- Gwella gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru, gyda phwyslais ar fynediad cynharach at gymorth
Mewnfudo
Mae rheolaeth dros y mater hwn yn nwylo llywodraeth y DU yn gyfan gwbl neu'n rhannol
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Creu uned bwrpasol i brosesu ceisiadau lloches o fewn tri mis, ac eithrio’r achosion mwyaf cymhleth
- Caniatáu i geiswyr lloches sydd wedi aros dros dri mis am benderfyniad i weithio tra maen nhw'n aros
- Gweithio gydag Europol ac awdurdodau Ffrainc i fynd i’r afael â’r gangiau troseddol sy’n gyfrifol am y croesiadau yn y Sianel
Tai
Mae rheolaeth dros y mater hwn yn nwylo llywodraeth Cymru yn gyfan gwbl neu'n rhannol
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Adeiladu 30,000 o gartrefi cymdeithasol newydd ledled Cymru i fynd i’r afael â phrinder tai
- Lansio rhaglen 10 mlynedd i inswleiddio ac uwchraddio cartrefi, a’u gwneud yn gynhesach ac yn rhatach i'w gwresogi
- Cyhoeddi cynllun trawslywodraethol i roi terfyn ar gysgu ar y strydoedd a phob math o ddigartrefedd
- Sicrhau cysylltiad band eang gigabit llawn ym mhob cartref a busnes, gan gynnwys ardaloedd gwledig ac anghysbell
Yr Amgylchedd
Mae rhywfaint o'r maes polisi hwn yn parhau dan reolaeth llywodraeth y DU
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Gwahardd dympio carthion yn nyfrffyrdd Cymru, stopio rhoi bonws i benaethiaid dŵr nes iddo orffen, a chreu rheoleiddiwr newydd i Gymru i ddisodli Ofwat
- Pennu targedau cyfreithiol rhwymol i atal dirywiad natur yng Nghymru a dyblu cynefinoedd bywyd gwyllt erbyn 2050
- Pasio Deddf Bywyd Gwyllt i Gymru er mwyn cryfhau amddiffyniadau cyfreithiol ar gyfer anifeiliaid a'u cynefinoedd
- Cyflwyno strategaeth genedlaethol hirdymor ar gyfer gwydnwch llifogydd ac erydiad arfordirol gyda gweledigaeth 30 mlynedd
- Buddsoddi mewn gwneud Cymru yn arweinydd byd ym maes ynni dŵr ac ynni’r llanw, gan gynnwys cefnogi datblygiad Morlyn Llanw Bae Abertawe, y cafwyd addewid amdano ers tro
- Gwrthwynebu dychwelyd at ffracio, a fyddai’n fygythiad i gefn gwlad Cymru
Addysg
Mae rheolaeth dros y mater hwn yn nwylo llywodraeth Cymru yn gyfan gwbl neu'n rhannol
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Darparu gofal plant am ddim i bob plentyn o naw mis i bedair oed, 30 awr yr wythnos, 48 wythnos y flwyddyn
- Cynyddu cyllid ysgolion a cholegau fesul disgybl uwchlaw chwyddiant bob blwyddyn
- Datblygu strategaeth gweithlu i fynd i’r afael â’r argyfwng recriwtio a chadw athrawon
- Buddsoddi mewn adeiladau ysgol a choleg newydd a chlirio’r gwaith atgyweirio sydd heb ei gwblhau ar safleoedd sy’n dadfeilio
- Creu strategaeth yrfaoedd i staff y blynyddoedd cynnar, gyda phwyslais ar adnabod plant ag anghenion dysgu ychwanegol
Trafnidiaeth
Mae rhywfaint o'r maes polisi hwn yn parhau dan reolaeth llywodraeth y DU
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Pwyso i gefn gwlad Cymru gael ei gynnwys yng Nghynllun Rhyddhad Tollau Tanwydd Gwledig Llywodraeth y DU i dorri costau mewn cymunedau anghysbell
- Diogelu tocynnau bws am ddim i bawb dros 60 oed a gweithio tuag at drafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bawb dan 25 oed
- Creu rhwydweithiau seiclo a cherdded newydd ledled Cymru drwy strategaeth teithio llesol newydd
Democratiaeth
Mae rhywfaint o'r maes polisi hwn yn parhau dan reolaeth llywodraeth y DU
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Cwblhau cam nesaf datganoli drwy leihau nifer y pwerau sydd yn nwylo San Steffan a chynyddu pwerau benthyca Cymru
- Datganoli cyfrifoldeb am wasanaethau a seilwaith rheilffyrdd i Gymru, gyda chyllid teg a llywodraethu ar y cyd ar lwybrau trawsffiniol
- Datganoli plismona, carchardai, cyfiawnder ieuenctid a’r gwasanaeth prawf er mwyn caniatau i Gymru ddatblygu dull gweithredu cymunedol ar gyfer troseddu
- Datganoli toll teithwyr awyr er mwyn sicrhau bod Maes Awyr Caerdydd ar yr un gwastad â meysydd awyr yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a rhanbarthau Lloegr
- Creu Cyngor Gweinidogion y DU er mwyn dod â llywodraethau Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon ac arweinwyr rhanbarthol Lloegr at ei gilydd
- Rhoi pŵer i’r Senedd wneud Dydd Gŵyl Dewi yn wyliau cyhoeddus
Plaid Werdd Cymru
Arweinydd
Anthony Slaughter
Prif flaenoriaethau
- Torri costau byw gyda thocynnau bws am £1, a theithio am ddim i bobl o dan 22 oed
- Disodli’r Dreth Gyngor gyda Threth Gwerth Tir sy’n decach, lle bydd y rhan fwyaf o aelwydydd yn talu llai, tra bydd perchnogion eiddo mwy cefnog yn talu mwy
- Gwneud rhentu yn fwy fforddiadwy drwy gyflwyno rheolaethau rhent sy’n deg i denantiaid a rhewi rhenti i denantiaid preifat fel mesur dros dro
- Cyflwyno gofal plant cynhwysol i bob plentyn o naw mis oed, gan ddechrau gydag ariannu 20 awr yr wythnos
- Creu 60,000 o dai cyngor newydd mewn 10 mlynedd
- Glanhau ein hafonydd a’n moroedd drwy weithio i ddod â Dŵr Cymru/Welsh Water i berchnogaeth gyhoeddus go iawn
Costau byw
Mae rhywfaint o'r maes polisi hwn yn parhau dan reolaeth llywodraeth y DU
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Torri costau byw gyda thocynnau bws am £1, a theithio am ddim i bobl o dan 22 oed
- Disodli’r Dreth Gyngor gyda Threth Gwerth Tir sy’n decach, lle bydd y rhan fwyaf o aelwydydd yn talu llai, tra bydd perchnogion eiddo mwy cefnog yn talu mwy
- Rhewi rhenti i denantiaid sy’n rhentu’n breifat
- Cyflwyno gofal plant cynhwysol i bob plentyn o naw mis oed, gan ddechrau gydag ariannu 20 awr yr wythnos
- Dod â thlodi bwyd i ben drwy gyflwyno Bil Bwyd Da i Gymru sy’n adeiladu cadwyni cyflenwi i ffermwyr a bwyd iach i gymunedau
Yr economi
Mae rhywfaint o'r maes polisi hwn yn parhau dan reolaeth llywodraeth y DU
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Sefydlu Cronfa Trawsnewidiad Gwyrdd i ariannu'r newid i ynni glân, inswleiddio cartrefi ac adeiladau cyhoeddus
- Creu ac ehangu cynlluniau hyfforddi er mwyn i bobl weithio ym maes ynni adnewyddadwy, ôl-osod adeiladau, a rheoli tir cynaliadwy
- Gweithio gyda chronfa bensiwn sector cyhoeddus Cymru i fuddsoddi mewn cwmnïau a seilwaith newydd yng Nghymru
- Diwygio ardrethi busnes fel bod busnesau bach yn talu llai tra bod corfforaethau ac archfarchnadoedd mawr yn talu mwy
- Sefydlu Hyb Datblygu Cydweithredol, i gefnogi busnesau di-elw a busnesau cymunedol i ffynnu mewn ardaloedd lleol ar draws sectorau gan gynnwys ynni adnewyddadwy
- Galw am bwerau benthyca cryfach fel y gall Llywodraeth Cymru fuddsoddi i ddatblygu’r economi a gwella gwasanaethau cyhoeddus
GIG a gofal
Mae rheolaeth dros y mater hwn yn nwylo llywodraeth Cymru yn gyfan gwbl neu'n rhannol
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Cefnogi pobl sy’n byw gyda chyflyrau fel canser a diabetes yn well, drwy ddiagnosis cynnar a gofal cymunedol estynedig sy’n cael eu darparu drwy hybiau iechyd a llesiant lleol
- Ailadeiladu’r GIG drwy roi staff yn gyntaf, ariannu meddygon teulu a deintyddion yn briodol, a buddsoddi mwy mewn atal salwch yn hytrach nag ymateb iddo’n unig
- Dod â gofal mewn coridorau i ben drwy ddatgan na ddylai ‘gofal mewn cadair’ fyth ddigwydd am fwy na 24 awr
- Sicrhau bod byrddau iechyd yn cydweithio’n agosach, gan ddod â’r diwylliant seilo i ben, a chefnogi staff i gyflwyno syniadau’n gyflym er mwyn torri rhestrau aros ar draws y wlad
- Buddsoddi mewn atgyweirio tai, teithio llesol, trafnidaeth gyhoeddus, a mesurau eraill a fydd yn lleihau pwysau ar y GIG
Mewnfudo
Mae rheolaeth dros y mater hwn yn nwylo llywodraeth y DU yn gyfan gwbl neu'n rhannol
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Cryfhau cymorth i geiswyr lloches sy’n cael eu lleoli yng Nghymru gan Lywodraeth y DU, gyda gwersi Cymraeg a Saesneg, tai addas, a chyfleoedd i ymgartrefu yn eu cymuned newydd
- Ymestyn y rhaglen Cenedl Noddfa i sicrhau ei bod yn diwallu anghenion pobl sy’n cael eu lleoli yng Nghymru
Tai
Mae rheolaeth dros y mater hwn yn nwylo llywodraeth Cymru yn gyfan gwbl neu'n rhannol
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Adeiladu system o reolaethau rhent ar gyfer marchnad rhentu sy’n decach ac yn fwy fforddiadwy a rhewi rhenti i denantiaid preifat fel mesur dros dro
- Creu 60,000 o dai cyngor newydd mewn 10 mlynedd – gan gynnwys prynu tai sy’n bodoli’n barod i gynyddu'r cyflenwad yn gyflym
- Creu Hawl i Gartref Digonol, gan weithio i roi terfyn ar ddigartrefedd a chael teuluoedd allan o lety dros dro
- Gwahardd achosion o droi allan ‘heb fai’
- Creu datblygwr tai cenedlaethol i weithio gyda chynghorau i adeiladu tai cyngor newydd yn gyflym ac ar y raddfa sydd ei hangen
- Gwahardd y system lesddaliad ar gyfer cartrefi newydd a chefnogi lesddeiliaid i brynu eu rhydd-ddaliad am bris teg
Yr Amgylchedd
Mae rhywfaint o'r maes polisi hwn yn parhau dan reolaeth llywodraeth y DU
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Peidio â gwanhau ymrwymiadau hinsawdd - gan gynnwys 100% o drydan adnewyddadwy erbyn 2035
- Ei gwneud yn ofynnol i osod paneli solar ar do pob adeilad newydd. Rhaid i bob datblygiad tai newydd gael systemau gwresogi heb danwydd ffosil
- Gwneud i gyllid llifogydd weithio, cefnogi atebion sy'n seiliedig ar natur, a chyflawni amddiffyniad hirdymor gyda chymunedau wrth wraidd y broses
- Bydd Cronfa Trawsnewidiad Gwyrdd yn datgloi buddsoddiad hirdymor i adeiladu seilwaith ynni adnewyddadwy, gan weithio gyda Chronfa Pensiwn Cymru
- Glanhau ein hafonydd a’n moroedd drwy weithio i ddod â Dŵr Cymru/Welsh Water i berchnogaeth gyhoeddus go iawn, ei wneud yn fwy atebol, a monitro pob corff dŵr erbyn 2027 i orfodi deddfau llygredd
- Adeiladu system ffermio decach sy’n cynnal bywoliaeth ffermwyr, yn cefnogi ffermwyr y dyfodol a ffermydd bach, ac yn gwobrwyo adferiad natur
Addysg
Mae rheolaeth dros y mater hwn yn nwylo llywodraeth Cymru yn gyfan gwbl neu'n rhannol
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Ymgorffori addysg feithringar ac addysg drwy chwarae ar gyfer plant iau, cryfhau cymorth anghenion dysgu ychwanegol a chymorth iechyd meddwl fel bod ysgolion yn llefydd lle mae plant yn ffynnu ac yn hapus
- Ystafelloedd dosbarth heb ffonau symudol gydag eithriadau ar gyfer hygyrchedd ac iechyd
- Cyflog drwy gydol y flwyddyn i staff cymorth ysgolion a chynnydd yn isafswm yr amser ar gyfer cynllunio, paratoi ac asesu gofynnol i addysgwyr
- Rhoi’r gorau i gau ysgolion bach gwledig, yn enwedig mewn ardaloedd Cymraeg
- Lleihau dyled annheg myfyrwyr drwy dalu llog yn rhannol ar fenthyciadau Cynllun 2 i raddedigion yng Nghymru a rhoi terfyn ar gyfraddau llog gormodol i fyfyrwyr newydd
Trafnidiaeth
Mae rhywfaint o'r maes polisi hwn yn parhau dan reolaeth llywodraeth y DU
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Cysylltu gwasanaethau bysiau ledled Cymru gydag un amserlen a system docynnau syml
- Blaenoriaethu llwybrau newydd i fysiau mewn ardaloedd gwledig ac anghysbell
- Creu llwybrau bysiau cyflym, gan gynnwys gwasanaethau ar draws y cymoedd, lle mae’r gwasanaethau’n annigonol ar hyn o bryd, a lansio gwasanaeth bysiau pellter hir
- Creu cynllun hirdymor i fuddsoddi mewn gwasanaethau rheilffordd dibynadwy, hygyrch a gwydn
- Cyflwyno Cledrau Caerdydd a datblygu cynlluniau ar gyfer Abertawe, Casnewydd a Wrecsam
- Dyblu cyfran y teithiau sy’n cael eu gwneud ar droed, ar olwyn neu ar feic erbyn 2030
- Symud cyllid ar gyfer ffyrdd newydd i fynd i’r afael â thyllau ac arwynebau ffordd anniogel
Democratiaeth
Mae rhywfaint o'r maes polisi hwn yn parhau dan reolaeth llywodraeth y DU
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Ehangu’r broses cofrestru pleidleiswyr awtomatig ledled Cymru
- Adolygu’r system bleidleisio rhestrau caeedig, gan gynnwys gwaith sydd ei angen i helpu pleidleiswyr i ddeall y system
- Cynnwys y cyhoedd yn uniongyrchol yn y broses o wneud penderfyniadau drwy gynulliad y dinasyddion a chyllidebu cyfranogol, lle mae cymunedau yn penderfynu gyda’i gilydd sut i wario cyllidebau penodol
- Cefnogi datganoli plismona a chyfiawnder i Gymru, gyda chynlluniau i leihau poblogaeth carchardai a mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched
- Cefnogi datganoli rheilffyrdd, dŵr, a meysydd eraill fel bod gan Gymru o leiaf yr un pwerau â Senedd yr Alban
- Gwireddu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ar draws pob polisi i greu dyfodol tecach, gwyrddach i’n pobl ifanc
Reform UK
Arweinydd
Dan Thomas
Prif flaenoriaethau
- Torri 1c oddi ar bob band treth incwm Cymru
- Cael gwared ar y terfyn cyflymder diofyn o 20mya, heblaw y tu allan i safleoedd sensitif fel ysgolion ac ysbytai
- Adeiladu ffordd liniaru’r M4, uwchraddio’r A55 a’r A470
- Cael gwared ar y polisi ‘Cenedl Noddfa’ a rhoi’r gorau i wario arian trethdalwyr Cymru dramor
- Diwygio’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy er mwyn rhoi blaenoriaeth i gynhyrchu bwyd a chymunedau gwledig dros dargedau gwyrdd
- Torri rhestrau aros y GIG a dod a gofal mewn coridorau i ben
Costau byw
Mae rhywfaint o'r maes polisi hwn yn parhau dan reolaeth llywodraeth y DU
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Torri 1c oddi ar bob band treth incwm Cymru heb unrhyw doriadau i wasanaethau rheng flaen
- Gweithredu rheol sy’n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gyngor sydd eisiau codi’r dreth gyngor fwy na 4.99% i gynnal refferendwm lleol
- Cyflwyno addewid ‘clo trethi’ sy’n golygu na fydd Reform yn cyflwyno unrhyw drethi neu ardrethi newydd sydd heb eu hamlinellu yn y maniffesto
- Gwerthu adeiladau’r llywodraeth sydd heb eu defnyddio a rhoi’r arbedion i wasanaethau rheng flaen
- Dileu cosbau ardrethi busnes sy’n benodol i Gymru ar dafarndai, gwestai a lletygarwch
- Ymgyrch i dorri TAW ar letygarwch
Yr economi
Mae rhywfaint o'r maes polisi hwn yn parhau dan reolaeth llywodraeth y DU
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Cael gwared ar y dreth dwristiaeth i gefnogi swyddi a busnesau yng Nghymru
- Adolygu pob cwango er mwyn torri gwastraff, gan uno neu gael gwared ar y rheini sydd â’r un swyddogaethau
- Diwygio’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy er mwyn rhoi blaenoriaeth i gynhyrchu bwyd a chymunedau gwledig dros dargedau gwyrdd
- Prynu’n lleol a sicrhau bod y llywodraeth yn talu cyflenwyr yn brydlon
- Creu swydd gweinidog ar gyfer diwydiant yn benodol
- Gweithredu adolygiad trylwyr o ardrethi busnes er mwyn helpu busnesau i ffynnu
GIG a gofal
Mae rheolaeth dros y mater hwn yn nwylo llywodraeth Cymru yn gyfan gwbl neu'n rhannol
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Diogelu GIG sydd am ddim ac yn deg yma yng Nghymru bob amser
- Gweithredu strategaeth i dorri rhestrau aros y GIG
- Cael gwared ar ofal mewn coridorau i adfer urddas i gleifion a staff
- Digido systemau mewnol y GIG er mwyn iddyn nhw fod yn addas ar gyfer y dyfodol
- Mynd i'r afael â gwaith cynnal a chadw sydd heb ei gwblhau yn ein hysbytai er mwyn iddyn nhw fod yn ddiogel ar gyfer gofal modern
- Gwella mynediad at feddygon teulu a gwneud cyllid meddygon teulu yn decach mewn ardaloedd gwledig
Mewnfudo
Mae rheolaeth dros y mater hwn yn nwylo llywodraeth y DU yn gyfan gwbl neu'n rhannol
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Cael gwared ar y polisi ‘Cenedl Noddfa’
- Gwrthwynebu rhoi ceiswyr lloches mewn gwestai a thai amlfeddiannaeth (HMOs) yng Nghymru
- Llywodraeth Cymru i ddod â gwariant ar gymorth tramor i ben
Tai
Mae rheolaeth dros y mater hwn yn nwylo llywodraeth Cymru yn gyfan gwbl neu'n rhannol
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Cyflymu’r broses gynllunio i ddarparu mwy o gartrefi
- Blaenoriaethu Cymry a chyn-filwyr ar gyfer tai cymdeithasol
- Diddymu gofynion cynaliadwyedd sy’n codi costau adeiladu tai
- Gosod safonau dylunio cenedlaethol uwch i sicrhau bod adeiladau'n cadw ac yn adlewyrchu treftadaeth leol
- Disodli Cymorth i Brynu Cymru gyda chymhellion sydd wedi'u targedu'n well
Yr Amgylchedd
Mae rhywfaint o'r maes polisi hwn yn parhau dan reolaeth llywodraeth y DU
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Gwahardd cynlluniau gwynt newydd ar y tir a rhoi’r gorau i ddefnyddio ffermdir cynhyrchiol sylweddol ar gyfer ffermydd solar
- Darparu cyllid aml-flwyddyn i Glybiau Ffermwyr Ifanc
- Datblygu strategaeth fwyd 10 mlynedd gyda ffermwyr ac undebau ffermwyr
- Gweithio o fewn y cymhwysedd datganoledig i alluogi ynni niwclear yng Nghymru
- Cyflwyno Deddf Afonydd Cymru i lanhau ein dyfrffyrdd
- Buddsoddi mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd a neilltuo cyllid yn decach
Addysg
Mae rheolaeth dros y mater hwn yn nwylo llywodraeth Cymru yn gyfan gwbl neu'n rhannol
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Diwygio Cwricwlwm Cymru i sicrhau ffocws ar bynciau craidd fel mathemateg a gwyddoniaeth
- Sicrhau bod prifysgolion yn cyd-fynd â mentrau economaidd o bwys
- Gorfodi safonau ymddygiad clir mewn ysgolion
- Cyflwyno tablau cynghrair i roi grym i rieni
- Cryfhau rheolau presenoldeb mewn ysgolion
- Amddiffyn rhyddid barn mewn addysg uwch
- Ehangu addysg dechnegol a phrentisiaethau
Trafnidiaeth
Mae rhywfaint o'r maes polisi hwn yn parhau dan reolaeth llywodraeth y DU
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Cael gwared ar y terfyn cyflymder diofyn o 20mya, heblaw y tu allan i safleoedd sensitif fel ysgolion ac ysbytai
- Adeiladu Ffordd Liniaru’r M4
- Uwchraddio gwibffordd yr A55 yng ngogledd Cymru
- Uwchraddio rhannau o’r A470 i wella’r cysylltiadau trafnidiaeth rhwng y gogledd a’r de
- Gwahardd cyflwyno cynlluniau ‘talu fesul milltir’
- Cynyddu capasiti rheilffyrdd sy’n cyfateb i alw teithwyr
Democratiaeth
Mae rhywfaint o'r maes polisi hwn yn parhau dan reolaeth llywodraeth y DU
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Cael gwared ar wleidyddiaeth lle ceir cwynion cyfansoddiadol cyson a gweithio i wneud i'r setliad datganoli presennol weithio
Heritage Party
Arweinydd
David Kurten
Prif flaenoriaethau
- Diddymu addysg rhywioldeb uwchradd o’r cwricwlwm a gwahardd ideoleg rhywedd a "rhywioli" plant mewn ysgolion
- Diddymu datganiadau argyfwng hinsawdd a chael gwared ar "sero net" – gan ddod â phob cyfyngiad a threth ar allyriadau CO2 i ben, sy'n faich ariannol ar aelwydydd a busnesau
- Dim mwy o dyrbinau gwynt, clwstwr paneli solar, peilonau a BESS (systemau storio sy'n cael eu gweithredu gan fatris) sy'n difetha ein cefn gwlad
- Atal datblygiadau di-ben-draw: gwahardd targedau tai a rhoi’r gorau i adeiladu ar dir cefn gwlad a thir amaethyddol gwarchodedig
- Cael gwared ar statws Cymru fel "Cenedl Noddfa" ar gyfer mudwyr a cheiswyr lloches a chau gwestai ffoaduriaid a thai amlfeddiannaeth (HMOs)
- Cael gwared ar barthau 20 mya, gan adfer 30 mya fel y cyflymder diofyn mewn ardaloedd trefol
Costau byw
Mae rhywfaint o'r maes polisi hwn yn parhau dan reolaeth llywodraeth y DU
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Diddymu datganiadau argyfwng hinsawdd a chael gwared ar "sero net" – gan ddod â phob cyfyngiad a threth ar allyriadau CO2 i ben, sy'n faich ariannol ar aelwydydd a busnesau
- Gwrthwynebu ymyrryd mewn rhyfeloedd tramor yn Wcráin, Palesteina, Iran a lleoedd eraill sy'n arwain yn uniongyrchol at gostau ynni uwch gartref
- Sicrhau cyfrifoldeb ariannol a chyllidol - lleihau gwariant y llywodraeth nes bod benthyca'r llywodraeth yn ddim, er mwyn atal chwyddiant
- Dim mwy o gynnydd yn nhreth incwm Cymru na Lloegr a Gogledd Iwerddon.
- Dim cynnydd yn y Dreth Trafodiadau Tir
Yr economi
Mae rhywfaint o'r maes polisi hwn yn parhau dan reolaeth llywodraeth y DU
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Cael gwared ar yr Ardoll Ymwelwyr yng Nghymru neu’r "dreth i dwristiaid", sy’n uniongyrchol niweidiol i’r sector lletygarwch
- Cadarnhau economi marchnad rydd lle gall busnesau bach a chanolig ffynnu a chreu swyddi
- Gweithredu i ddiogelu ein seilwaith dŵr a diwydiannol a chyfleusterau diwydiannol o bwysigrwydd cenedlaethol, fel ffwrneisi chwyth a phurfeydd olew
- Gweithredu i adfer y diwydiant gweithgynhyrchu i Gymru
- Rhoi’r gorau i bob taliad i ffermwyr i beidio â chynhyrchu bwyd; yn hytrach, sicrhau bod 100% o gymorthdaliadau amaethyddol yn cael eu rhoi i ffermwyr i gynhyrchu bwyd o ansawdd uchel gyda safonau uchel o ran lles anifeiliaid
- Sicrhau nad oes mwy o gyfnodau clo, sy’n ddinistriol i fusnesau a bywoliaeth pobl
GIG a gofal
Mae rheolaeth dros y mater hwn yn nwylo llywodraeth Cymru yn gyfan gwbl neu'n rhannol
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Cefnogi hyfforddiant mewn swydd i nyrsys a bydwragedd, a dileu'r cap ar nifer y myfyrwyr o Brydain sy'n cael astudio meddygaeth a deintyddiaeth yn y brifysgol
- Sicrhau bod GIG Cymru ar gyfer gwladolion y DU yn unig, a’i wneud yn ofynnol i wladolion tramor ddefnyddio gofal iechyd preifat
- Gorfodi cydsyniad ar sail gwybodaeth/ymreolaeth feddygol fel nad yw "dim pigiad, dim swydd" neu "dim pigiad, dim teithio" byth yn digwydd eto
- Annog meddygaeth ataliol a dileu cyfyngiadau ar feddyginiaethau rhad a diogel
- Gweithredu system optio i mewn ar gyfer rhoi organau, heb unrhyw organau’n cael eu cymryd o gorff person nes bod y galon a'r cylchrediad wedi dod i ben
- Atal y broses o batholegu emosiynau a theimladau fel "iechyd meddwl"; cyfyngu ar y defnydd o gyffuriau gwrthiselyddion a gwrthseicotigau a thrin problemau iechyd meddwl go iawn gyda therapi
Mewnfudo
Mae rheolaeth dros y mater hwn yn nwylo llywodraeth y DU yn gyfan gwbl neu'n rhannol
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Cael gwared ar statws Cymru fel "Cenedl Noddfa" ar gyfer mudwyr a cheiswyr lloches
- Cael gwared ar y mentrau i ddod â mudwyr digwmni 16-18 oed i Gymru o ardaloedd eraill
- Cau gwestai ffoaduriaid a thai amlfeddiannaeth (HMOs)
- Eirioli dros symud pob mudwr anghyfreithlon o’r DU
- Eirioli dros ostyngiad o 75% mewn fisas gwaith ac astudio i’r DU
Tai
Mae rheolaeth dros y mater hwn yn nwylo llywodraeth Cymru yn gyfan gwbl neu'n rhannol
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Atal datblygiadau di-ben-draw: gwahardd targedau tai a rhoi’r gorau i adeiladu ar dir cefn gwlad a thir amaethyddol gwarchodedig
- Dylai pob cartref newydd gael ei adeiladu mewn arddulliau traddodiadol sy’n cyd-fynd â threftadaeth yr ardal
- Gwarchod ein treftadaeth a’n hadeiladau hanesyddol; creu Parthau Dadeni i adfer adeiladau hanesyddol mewn ardaloedd sydd wedi’u difetha gan bensaernïaeth fodernaidd
- Dim mwy o dai amlfeddiannaeth (HMOs)
- Diddymu Tystysgrifau Perfformiad Ynni ar gyfer adeiladau
- Diddymu pwerau cynllunio DNS ac IC/SIP a dychwelyd y broses o wneud penderfyniadau i ddwylo cynghorau lleol gyda’r hawl i drigolion apelio
Yr Amgylchedd
Mae rhywfaint o'r maes polisi hwn yn parhau dan reolaeth llywodraeth y DU
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Dim mwy o dyrbinau gwynt, clwstwr paneli solar, peilonau a BESS (systemau storio sy'n cael eu gweithredu gan fatris) sy'n difetha ein cefn gwlad
- Cael gwared ar ynni annibynadwy ac adfer seilwaith ynni parhaus, dibynadwy, rhad sy’n seiliedig ar lo, olew, nwy a gorsafoedd pŵer niwclear modiwlaidd bach
- Annog ffermio organig ac adfywiol sy’n defnyddio llai o gemegau, yn cynhyrchu bwyd iachach ac yn cynnal y pridd yn well
- Gwahardd neonicotinoids a glyffosad a gwahardd ychwanegu fflworid at ddŵr; gwahardd chwistrellu cemegau yn yr atmosffer ar gyfer pylu solar neu geobeirianneg
- Buddsoddi mewn systemau dŵr glaw a dŵr budr deuol i roi stop ar ollyngiadau carthion
- Ailgychwyn carthu afonydd a gwahardd adeiladu mewn gorlifdiroedd i atal llifogydd
Addysg
Mae rheolaeth dros y mater hwn yn nwylo llywodraeth Cymru yn gyfan gwbl neu'n rhannol
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Diddymu addysg rhywioldeb uwchradd o’r cwricwlwm a gwahardd ideoleg rhywedd a "rhywioli" plant mewn ysgolion
- Annog rhagoriaeth mewn addysg ac anelu at hunangynhaliaeth mewn sgiliau yng Nghymru: darparu ysgolion gramadeg, technegol, cyffredinol ac arbennig ym mhob ardal
- Cadarnhau rhieni fel prif addysgwyr plant
- Cefnogi addysg yn y cartref a gwrthwynebu pob cofrestriad addysg gartref
- Caniatáu cymryd gwyliau yn ystod y tymor a chael gwared ar ddirwyon i rieni
- Gostwng y targed o 50% o bobl sy'n gadael yr ysgol i fynd i’r brifysgol a chefnogi prentisiaethau a chrefftau dysgu
Trafnidiaeth
Mae rhywfaint o'r maes polisi hwn yn parhau dan reolaeth llywodraeth y DU
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Cael gwared ar barthau 20 mya, gan adfer 30 mya fel y cyflymder diofyn mewn ardaloedd trefol a dileu pob dirwy a phwyntiau ar drwydded yrru a roddwyd am yrru rhwng 20 a 30 mya
- Gwrthwynebu gwahardd gwerthiant cerbydau petrol a diesel
- Diddymu pob parth a rhaglen sy'n gosod cyfyngiadau a thaliadau newydd a diangen ar gerbydau, gan gynnwys dinasoedd 15 munud, dinasoedd SMART, LTN, CAZ, LEZ, ULEZ
- Cadw rheilffyrdd Cymru ym mherchnogaeth y cyhoedd
- Cadw gwasanaethau bysiau lleol hanfodol ym mherchnogaeth y cyhoedd
- Cymeradwyo adeiladu ffyrdd a phontydd newydd lle bo angen, gan gynnwys ffordd liniaru’r M4
Democratiaeth
Mae rhywfaint o'r maes polisi hwn yn parhau dan reolaeth llywodraeth y DU
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannolBeth mae hyn yn ei olygu i chi- Cadw Cymru yn y DU - gwrthwynebu ail-ymuno â’r UE
- Cael gwared ar y Senedd ac adfer pwerau’r Senedd i siroedd Cymru neu San Steffan fel y bo’n briodol
- Adfer yr isafswm oed pleidleisio i 18
- Caniatáu i wladolion Prydain yn unig i bleidleisio, i sefyll am swydd gyhoeddus neu i weithio yn y gwasanaeth sifil
- Cyfyngu ar gyflogau gweision sifil i uchafswm cyflog y Prif Weinidog
Dewiswch fater sydd o ddiddordeb i chi
Mae rheolaeth dros y maes hwn yn nwylo llywodraeth y DU yn gyfan gwbl neu rywfaint ohono
Mwy o wybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli neu wedi'u datganoli'n rhannol Beth mae hyn yn ei olygu i chi
Llafur Cymru
Arweinydd
Eluned Morgan
- Mynd i’r afael â chostau byw drwy docynnau bws rhatach, biliau ynni is ac ehangu gofal plant
- Swyddi ar gyfer y dyfodol gyda Chymru Ynni Annibynnol, a Gwarant Ailhyfforddi Gydol Oes newydd
- Dêl newydd ar gyfer ein GIG gyda £4bn i adeiladu ysbytai newydd, cymorth iechyd meddwl ar yr un diwrnod, a chanolbwyntio ar iechyd menywod
- Diogelu’r blaned drwy lanhau ein hafonydd a’n moroedd, tyfu ein Coedwig Genedlaethol a mynd i’r afael â thipio anghyfreithlon
- Dyfodol tecach sy’n rhoi terfyn ar ddigartrefedd, codiad cyflog i'r gweithwyr ar y cyflogau isaf a chodi safonau ysgolion
Llafur Cymru
- Cadw teithio am ddim ar fysiau i’r rhai dros 60 oed a'n cap o £1 ar gyfer pobl ifanc, a chyflwyno cap newydd o £2 ar brisiau bws i oedolion
- Cyflwyno gofal plant wedi’i ariannu i fabanod naw mis oed yn raddol a’i gwneud hi’n haws cael gafael ar ofal plant dros gyfnod y Senedd nesaf, gan greu 20,000 o leoedd gofal plant newydd wedi’u hariannu fel rhan o’n cynllun fesul cam
- Sicrhau bod ein holl benderfyniadau ar ynni yn rhoi blaenoriaeth i gadw biliau mor isel â phosib
- Cyflawni bargen decach i staff cymorth ysgolion drwy sefydlu Corff Negodi Staff Cymorth Ysgolion statudol newydd, gyda chyflog drwy gydol y flwyddyn a mynediad at ddysgu proffesiynol ymhlith y blaenoriaethau cyntaf
- Sicrhau bod pob gweithiwr gofal cymdeithasol yn cael eu gwobrwyo’n deg drwy gyflwyno cytundebau cyflog teg y gellir eu gorfodi'n gyfreithiol i bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i oedolion a phlant
- Diogelu polisïau Llafur Cymru sy’n helpu pobl gyda chostau byw, gan gynnwys presgripsiynau am ddim, parcio am ddim mewn ysbytai, prydau ysgol am ddim, brecwast am ddim mewn ysgolion, a chadw’r GIG am ddim pryd a lle bynnag y bo’i angen
Llafur Cymru
- Gweithio tuag at ein gweledigaeth ar gyfer Cymru Ynni Annibynnol, a seiliwyd ar ynni glân o Gymru, gan helpu i ddiogelu Cymru rhag marchnadoedd ynni byd-eang ansefydlog a chreu miloedd o swyddi da
- Cyflwyno Gwarant Ailhyfforddi Gydol Oes newydd i wneud yn siŵr y gall gweithwyr fanteisio ar yr hyfforddiant sydd ei angen arnyn nhw yn eu gyrfaoedd, gan ymateb i newidiadau economaidd mawr
- Cyhoeddi Strategaeth Ddiwydiannol newydd i Gymru yn ystod ein blwyddyn gyntaf, gan ganolbwyntio ar y cyfleoedd enfawr ym maes ynni glân, gweithgynhyrchu uwch, y diwydiannau creadigol, yr economi ddigidol a gwyddorau bywyd
- Lleihau biwrocratiaeth fusnes drwy symleiddio cymorth busnes a chynnal adolygiad trylwyr o drethi busnes er mwyn sicrhau eu bod yn decach i bawb, a helpu busnesau newydd i dyfu gyda grantiau i entrepreneuriaid ifanc ac arian cyfatebol i gwmnïau sy’n deillio o brifysgolion
- Sicrhau mai Cymru yw’r genedl gyflymaf yn y DU i gael caniatâd cynllunio
- Sicrhau bod busnesau sy’n cael cymorth gan Lywodraeth Cymru yn talu’r Cyflog Byw Gwirioneddol, dod â chontractau dim oriau camfanteisiol i ben, ac agor y drws i undebau llafur
Llafur Cymru
- Buddsoddi £4bn yng Nghronfa Ysbytai’r Dyfodol i adeiladu ysbytai newydd o’r radd flaenaf, gan gynnwys disodli Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Athrofaol Cymru, a datblygiad ysbyty mawr yng ngorllewin Cymru
- Yn dilyn gostyngiad yn y rhestrau aros wyth mis yn olynol o dan Lafur Cymru, byddwn yn parhau i dorri rhestrau aros
- Trawsnewid gofal iechyd meddwl i ddarparu gwasanaethau yr un diwrnod y mae’n hawdd cael gafael arnyn nhw, fel y gall pawb gael y cymorth cywir pan fydd ei angen arnyn nhw
- Sicrhau y byddwch yn cael eich gweld gan aelod o’r tîm gofal sylfaenol o fewn 48 awr os oes gennych chi angen iechyd brys sy'n ymwneud â gofal sylfaenol
- Gwella diagnosis a thriniaeth canser a lansio rhaglen sgrinio genedlaethol wedi’i thargedu, ar gyfer canser yr ysgyfaint yn 2027, yn ogystal â sefydlu cronfa deithio i bobl ifanc â chanser er mwyn cefnogi teuluoedd gyda chostau teithio i gael triniaeth ar gyfer plant a phobl ifanc â chanser
- Gwella mynediad at ddeintyddiaeth y GIG drwy sicrhau bod mwy o apwyntiadau ar gael drwy’r contract newydd, hyfforddi’r gweithlu deintyddol sydd ei angen ar Gymru a chefnogi cynlluniau ar gyfer ysgol ddeintyddol newydd
Llafur Cymru
- Nid Llywodraeth Cymru sy'n penderfynu faint o bobl sy'n ceisio lloches yn y DU sy'n cael eu lleoli yng Nghymru na phwy sy'n cael ei leoli yng Nghymru – mae hynny wedi bod yn benderfyniad i Lywodraeth y DU erioed.
- Diogelu statws Cymru fel Cenedl Noddfa i gefnogi'r rhai sy'n cyrraedd yma i ailadeiladu eu bywydau ar ôl ffoi rhag erledigaeth a rhyfel, a'u helpu i integreiddio i fywyd Cymru a dod â chyfraniadau positif i'n cenedl.
Llafur Cymru
- Dod â digartrefedd i ben erbyn 2034, gyda charreg filltir o beidio â rhoi unrhyw blant mewn llety gwely a brecwast erbyn 2030
- Datgloi degawd newydd o adeiladu tai i ddarparu 100,000 o gartrefi yn ystod y 10 mlynedd nesaf, gan gynnwys o leiaf 40,000 o gartrefi cynnes, carbon isel i'w rhentu yn y sector cymdeithasol
- Sefydlu Tasglu Tai Cenedlaethol newydd i ddiwygio’r system gynllunio a chontractio ac ysgogi dulliau adeiladu modern yn gyflymach
- Cefnogi gwaith uwchraddio effeithlonrwydd ynni i fwy na 100,000 o gartrefi yn ystod tymor y Senedd nesaf i leihau biliau
- Taro bargen decach i rentwyr preifat, gan gynnwys cynllun gwarantwr i alluogi mwy o bobl i gael eiddo rhent, archwilio cynllun sgorio ar gyfer asiantaethau gosod tai, a chyflwyno hawliau newydd i denantiaid sydd eisiau cadw anifeiliaid anwes
- Cryfhau hawliau cyfreithiol lesddeiliaid a phreswylwyr tai newydd, mynd i'r afael â thaliadau ar gyfer ffyrdd heb eu mabwysiadu a chyflwyno fframwaith i fynd i'r afael â diffygion adeiladu
Llafur Cymru
- Glanhau ein hafonydd a’n moroedd gyda Bil Dŵr Glân i Gymru, rheoleiddiwr dŵr newydd ac ariannu cronfa bwrpasol i fynd i’r afael â’r bobl sy’n llygru ein hafonydd
- Glanhau ein strydoedd a'n cymdogaethau drwy fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon, cynyddu dirwyon a chreu troseddau newydd
- Parhau i ehangu Coedwig Genedlaethol Cymru a chreu Llwybr Coedwig Cenedlaethol, a fydd yn ymestyn o ogledd i dde Cymru yn y pen draw
- Gweithredu ar newid hinsawdd i dorri allyriadau carbon er mwyn bodloni’r gyllideb garbon bresennol a’r un nesaf, gan gadw ein gwaharddiad ar ffracio a gwrthwynebu tynnu tanwydd ffosil o’r ddaear
- Diogelu 30% o'n tiroedd a'n moroedd ar gyfer natur erbyn 2030 a phennu targedau newydd, cadarn a chyfreithiol rwymol ar gyfer adfer natur
- Ailgyflwyno rhywogaethau allweddol fel afancod a sicrhau bod pob cartref newydd wedi’i gynllunio i fod yn ystyriol o fyd natur gyda mesurau fel brics gwenoliaid a mwy
Llafur Cymru
- Codi safonau yn ein hysgolion drwy ganolbwyntio’n ddi-baid ar ragoriaeth mewn llythrennedd a rhifedd fel sylfeini’r holl ddysgu
- Cyflwyno cymorth llythrennedd a rhifedd wedi’i dargedu i ddysgwyr ym Mlwyddyn 6 a 7 wrth iddyn nhw symud o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd
- Cadw taliad y Lwfans Cynhaliaeth Addysg o £40 yr wythnos ar gyfer dysgwyr cymwys, y mae Llafur Cymru wedi’i gadw a’i gynyddu er y cafwyd ei wared yn Lloegr
- Sicrhau bod holl staff ysgolion yn cael eu hyfforddi i gefnogi plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a sefydlu gwasanaeth eiriolaeth ADY newydd i helpu dysgwyr a’u teuluoedd
- Ymestyn prydau ysgol am ddim mewn ysgolion uwchradd i o leiaf bob aelwyd sy’n derbyn Credyd Cynhwysol
- Diogelu dyfodol hirdymor colegau a phrifysgolion, diogelu system flaengar Llafur Cymru o grantiau cynhaliaeth myfyrwyr nad oes rhaid eu had-dalu, a sefydlu cynllun ad-dalu i Gymru yn unig ar gyfer benthyciadau myfyrwyr er mwyn sicrhau bod y telerau’n decach i raddedigion
Llafur Cymru
- Cyflwyno dros 100 o lwybrau bysiau newydd a chynnydd digynsail mewn gwasanaethau bysiau
- Targedu ymyriadau i leddfu tagfeydd mewn mannau cyfyng ar rwydwaith y cefnffyrdd gan gynnwys ar yr M4, yr A55, yr A483 a’r A494
- Darparu cyfres o orsafoedd newydd, llinellau rheilffordd wedi’u huwchraddio a gwasanaethau trên gwell fel rhan o’r cynllun £14 biliwn ar gyfer rheilffyrdd Cymru a’r Gororau, mewn partneriaeth â Llywodraeth Lafur y DU
- Cymryd y camau nesaf i gyflawni Metro De Cymru, a pharhau i ddatblygu Rhwydwaith Gogledd Cymru a metro ar gyfer Rhanbarth Bae Abertawe
- Adnewyddu a newid ein bysiau, arosfannau, gorsafoedd a llochesi bysiau sy’n heneiddio, gan wella gwasanaethau a diogelwch i deithwyr
- Cyflwyno bathodyn glas gydol oes newydd i bobl â chyflyrau gydol oes, gan leihau’r baich gweinyddol ar bobl anabl
Llafur Cymru
- Cyflwyno achos dros Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol i ddiogelu datganoli a chryfhau statws Cymru yn y DU
- Parhau i alw am ddiddymu Deddf Marchnad Fewnol y DU a gyflwynwyd gan Lywodraeth Dorïaidd flaenorol y DU
- Parhau i geisio mwy o bwerau i Gymru, gan gynnwys datganoli Ystad y Goron a chyfiawnder ieuenctid a phrawf fel cam cyntaf tuag at ddatganoli plismona a chyfiawnder
- Gwneud cynrychiolwyr etholedig yn fwy atebol i’r cyhoedd a chynnal y safonau uchaf mewn bywyd cyhoeddus, gan weithio tuag at gyflwyno cofrestr o lobïwyr yn rhan o hyn
- Cryfhau proses safonau mewnol y Senedd a chyflwyno system newydd o adalw Aelodau o’r Senedd sy’n euog o gamymddwyn difrifol
- Cyflwyno achos dros ‘fformiwla cyfran deg’ newydd fel bod Cymru’n cael ei chyfran ddilys o adnoddau’r DU mewn meysydd hollbwysig fel mater o drefn
Y Ceidwadwyr Cymreig
Arweinydd
Darren Millar
- Torri treth incwm, capio’r Dreth Gyngor ac ehangu gofal plant am ddim i helpu teuluoedd sy’n gweithio’n galed gyda chostau byw
- Cael gwared ar dreth stamp (treth trafodiadau tir) er mwyn helpu i wneud y broses o berchen ar dŷ yn fwy ymarferol a chael y farchnad dai i symud
- Datgan argyfwng iechyd i gynyddu capasiti gwelyau, mynd i'r afael â'r ôl-groniad rhestrau aros a gwella gofal brys
- Adfer disgyblaeth a chodi safonau mewn ysgolion, gan gynnwys gwahardd ffonau symudol mewn ystafelloedd dosbarth a chefnogi gwaharddiad ar gyfryngau cymdeithasol ar gyfer y rhai o dan 16 oed
- Cael gwared ar y terfynau cyflymder diofyn o 20mya a'u disodli â dull sydd wedi’i dargedu’n fwy
- Gwrthdroi'r cynnydd o 60% yn nifer gwleidyddion y Senedd ac ail-gyfeirio’r arbedion i wasanaethau rheng flaen fel meddygon, nyrsys ac athrawon
Y Ceidwadwyr Cymreig
- Mynd i’r afael â thlodi drwy dorri trethi, creu swyddi a thyfu economi Cymru i roi’r diogelwch economaidd o incwm teilwng i fwy o deuluoedd
- Diwygio Dechrau’n Deg er mwyn sicrhau ei fod wedi’i dargedu ar gyfer y teuluoedd sydd ei angen, yn hytrach na chodau post
- Datblygu Cynllun Gweithredu Trechu Tlodi i gynnwys strategaethau penodol i fynd i’r afael â thlodi plant a thlodi tanwydd i roi hwb i atebolrwydd a chynnydd
Y Ceidwadwyr Cymreig
- Torri cyfradd sylfaenol treth incwm o 1c
- Cael gwared ar ardrethi busnes ar gyfer cwmnïau bach, tafarndai a swyddfeydd post
- Ymestyn gofal plant am ddim i blant o naw mis i bedair oed er mwyn helpu teuluoedd gyda’u cyllideb a’u bod yn gallu dychwelyd i’r gwaith
- Treialu cyfnodau di-dreth ar gyfer busnesau manwerthu newydd sy'n ceisio agor siopau ar y stryd fawr yng Nghymru
- Gweithio gyda chynghorau lleol i ymestyn mynediad at barcio am ddim yng nghanol trefi
- Datblygu strategaethau twf a blaenoriaethu buddsoddiad ym maes ynni, gofal iechyd, amddiffyn, awyrofod, amaethyddiaeth, twristiaeth, gwasanaethau ariannol a'r diwydiannau creadigol
Y Ceidwadwyr Cymreig
- Datgan argyfwng iechyd mewn ymateb i’r argyfwng yn ein GIG
- Cynyddu gwariant ar iechyd a gofal cymdeithasol mewn termau real ym mhob blwyddyn o dymor y Senedd nesaf
- Cadw, recriwtio a hyfforddi mwy o feddygon, deintyddion, nyrsys, bydwragedd a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill i ddod â’r argyfwng recriwtio i ben ac i wella mynediad at apwyntiadau
- Sefydlu Cronfa Ysbytai’r 21ain Ganrif i adeiladu ysbytai newydd a moderneiddio’r ystâd ysbytai a gofal sylfaenol yng Nghymru
- Cynyddu'r terfyn cyfalaf i £75,000 ar gyfer y rhai sy'n defnyddio gofal preswyl er mwyn sicrhau nad yw pobl yn colli eu cynilion i gyd wrth dalu am gostau gofal
- Sefydlu Gwasanaeth Cronfa Staff Wrth Gefn GIG Cymru er mwyn sefydlu cronfa o staff gwirfoddol sydd wedi’u hyfforddi a’u fetio i helpu'r GIG ar adegau o argyfwng a phan fydd y galw ar ei anterth
Y Ceidwadwyr Cymreig
- Cael gwared ar y polisi Cenedl Noddfa
- Gweithio gyda Llywodraeth y DU i atal mewnfudo anghyfreithlon a chefnogi tynnu'n ôl o'r ECHR
Y Ceidwadwyr Cymreig
- Dileu Treth Trafodiadau Tir (Treth Stamp) ar brif breswylfeydd, i helpu pobl i brynu tŷ a symud oddi mewn y farchnad dai
- Rhoi cap o 5% ar gynnydd yn y dreth gyngor a gofyn am refferenda lleol ar gyfer codiadau mwy
- Adfer Hawl i Brynu yng Nghymru, gan ailfuddsoddi elw’r gwerthiant mewn tai mwy fforddiadwy a diogelu cartrefi rhag cael eu gwerthu am 10 mlynedd
- Ymestyn ac ehangu’r cynllun Hawl i Brynu i bawb sy’n prynu am y tro cyntaf ac ehangu’r cynllun i gynnwys eiddo gwag sydd angen eu hadnewyddu
- Gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu cynllun i ddod â chysgu ar y strydoedd i ben yng Nghymru
Y Ceidwadwyr Cymreig
- Cael gwared ar Gyfoeth Naturiol Cymru a sefydlu rheoleiddiwr annibynnol, sy’n ateb y gofyn, yn ei le
- Glanhau ein hafonydd a gwella ansawdd dŵr ymdrochi, a defnyddio technoleg fodern i wella gwaith monitro
- Cyflwyno moratoriwm ar ffermydd solar a gwynt mawr i warchod cefn gwlad Cymru
- Mabwysiadu dull ‘claddu ceblau’n gyntaf’ ar gyfer seilwaith yng nghefn gwlad Cymru
- Ymgyrchu i gael gwared ar dreth ffermydd teuluol Llafur yn llawn
- Rhoi hwb o £100m ychwanegol i’r gyllideb ffermio dros dymor y Senedd nesaf
Y Ceidwadwyr Cymreig
- Cynyddu cyllid ysgolion bob blwyddyn
- Gwahardd ffonau symudol mewn ysgolion a chefnogi gwaharddiad ar gyfryngau cymdeithasol i’r rhai o dan 16 oed
- Adfer disgyblaeth a pharch, a gwella presenoldeb mewn ysgolion, drwy gytundebau ysgolion rhwng rhieni, athrawon a disgyblion
- Cyflwyno system o ddiarddel disgyblion yn awtomatig am fod â chyllyll ac arfau eraill yn eu meddiant
- Ad-dalu ffioedd dysgu prifysgol ar gyfer myfyrwyr nyrsio, meddygaeth, addysgu a deintyddiaeth sy’n astudio yng Nghymru ac sy’n mynd ymlaen i weithio am o leiaf pum mlynedd yn y GIG yng Nghymru neu mewn ysgolion yng Nghymru
- Codi safle Cymru mewn tablau cynghrair addysg rhyngwladol
Y Ceidwadwyr Cymreig
- Cael gwared ar y terfyn cyflymder diofyn o 20mya mewn ardaloedd sydd â llawer o adeiladau a mabwysiadu dull sydd wedi’i dargedu yn lle hynny
- Adeiladu ffordd liniaru’r M4, uwchraddio’r A55, codi trydedd bont dros y Fenai a symud ymlaen gyda’r gwaith o ddeuoli'r A40 yng ngorllewin Cymru
- Dadrewi pob prosiect ffordd a diystyru prisio ffyrdd
- Dychwelyd Maes Awyr Caerdydd i weithredwyr preifat er mwyn arbed arian trethdalwyr a’i helpu i ffynnu
- Diogelu teithio am ddim ar fysiau a'i ymestyn i bob person 16–24 oed a chyn-aelodau'r lluoedd arfog
- Gwella cysylltiadau rheilffordd rhwng gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, gan gynnwys meysydd awyr Manceinion a Lerpwl
Y Ceidwadwyr Cymreig
- Gwrthdroi'r cynnydd yn nifer Aelodau o’r Senedd o 60 i 96
- Lleihau maint gwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru
- Cael gwared ar rwydwaith Llafur o lysgenadaethau bach tramor
- Atal gwario ar brosiectau datblygu rhyngwladol, gan gynnwys plannu coed yn Uganda a chanŵau solar ym Mheriw
- Gwrthod ymdrechion Llafur a Phlaid Cymru i ddatganoli plismona, cyfiawnder ac elfennau o'r system les
- Rhoi’r gorau i wario ar faterion nad ydynt wedi’u datganoli, fel cyfiawnder, materion rhyngwladol, cymorth tramor a mewnfudo a diystyru incwm sylfaenol cyffredinol a ariennir gan Lywodraeth Cymru
Plaid Cymru
Arweinydd
Rhun ap Iorwerth
- Torri rhestrau aros a datblygu gwasanaeth iechyd a gofal sy’n addas ar gyfer y dyfodol drwy greu 10 canolfan lawfeddygol, recriwtio 100 o feddygon teulu newydd a buddsoddi mewn mwy o wasanaethau iechyd digidol
- Helpu teuluoedd gyda chostau byw gyda chynnig gofal plant newydd, gwerth dros £30,000, gan roi 20 awr o ofal plant am ddim i bob plentyn naw mis i bedair oed, a chadw’r cynnig 30 awr presennol
- Datgloi potensial economi Cymru a chreu swyddi da, sy’n talu’n dda, drwy Asiantaeth Datblygu Cenedlaethol newydd i Gymru, wedi’i harwain gan fusnesau, gan sicrhau bod mwy o arian cyhoeddus Cymru yn cael ei wario yng Nghymru, a chefnogi canol trefi
- Codi safonau mewn ysgolion a sicrhau’r amodau gorau ar gyfer dysgu drwy gynllun llythrennedd a rhifedd newydd a recriwtio a chadw’r athrawon gorau drwy gymhellion ac amodau gwaith gwell
- Mynd i’r afael â thlodi plant drwy gyflwyno Taliad Plant Cymru a chyflwyno cynllun radical newydd, wedi’i dargedu, i fynd i’r afael â thlodi plant
- Sefyll dros Gymru drwy sefydlu perthynas newydd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, amddiffyn datganoli, sicrhau mwy o bwerau, a brwydro i gael yr arian sy’n ddyledus i Gymru
Plaid Cymru
- Cyflwyno cynnig gofal plant newydd, gwerth dros £30,000, gan roi 20 awr o ofal plant am ddim i bob plentyn naw mis i bedair oed, a chadw’r cynnig 30 awr presennol
- Cyflwyno Taliad Plant Cymru, treialu taliad wythnosol o £10 i blant sy’n byw mewn tlodi, gan ddarparu incwm ychwanegol i deuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd ac adeiladu’r achos dros gyflwyno’r taliad ar draws Cymru yn y dyfodol
- Cadw prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd ac ehangu prydau ysgol am ddim mewn ysgolion uwchradd, gan ddechrau gyda phob myfyriwr ym mlynyddoedd 7-11 o aelwydydd sy’n hawlio credyd cynhwysol
- Creu un cwmni ynni cenedlaethol cryfach i Gymru, gyda mwy o gapasiti i gynyddu perchnogaeth gymunedol ar ynni adnewyddadwy, a chylch gwaith clir i helpu i leihau biliau ynni
- Uwchraddio cartrefi ar draws Cymru i’w gwneud yn gynhesach ac yn rhatach i’w rhedeg, a allai helpu aelwydydd i arbed mwy na 10% ar eu biliau tanwydd blynyddol
- Brwydro am bwerau llawn dros les a budd-daliadau, a gwella’r system fudd-daliadau bresennol, i gynnwys mynediad awtomatig ac archwilio opsiynau am fudd-daliadau newydd i Gymru fel grant babanod
Plaid Cymru
- Cefnogi busnesau yng Nghymru drwy Asiantaeth Datblygu Cenedlaethol newydd, wedi’i harwain gan fusnesau, helpu busnesau i dyfu, arloesi a masnachu, sicrhau mewnfuddsoddiad, a chreu swyddi cynaliadwy o ansawdd da
- Torri trethi busnes ar gyfer canol trefi – lleihau ardrethi’r stryd fawr ar gyfer busnesau fel siopau, caffis a bwytai yn ogystal â sicrhau bod siopau y tu allan i drefi yn talu cyfran deg
- Cadw mwy o arian cyhoeddus yng Nghymru drwy ei wario gyda busnesau Cymreig, gan gynyddu'r lefel o 55% ar hyn o bryd i o leiaf 70% o gyfanswm gwariant caffael cyhoeddus Cymru
- Cynnal archwiliad sgiliau cenedlaethol cynhwysfawr i roi dealltwriaeth gliriach i Lywodraeth Cymru o anghenion sgiliau’r dyfodol, arwain datblygiad hyfforddiant a chymwysterau i gefnogi economi Cymru yn well
- Creu Comisiwn Cyllidol ac Economaidd i roi hwb i ddatblygiad economaidd, darparu data allweddol a dadansoddiad o berchnogaeth a thwf busnesau, swyddi a'r gweithlu, arloesedd a thegwch ar draws pob rhanbarth
- Cyflwyno Strategaeth Ddigidol newydd i Gymru er mwyn cefnogi digido ac arloesi yn economi Cymru, a hybu technoleg ddigidol fel sector twf allweddol
Plaid Cymru
- Darparu cynllun sydd wedi’i gostio, ei dargedu a’i arwain gan arbenigwyr, i dorri rhestrau aros drwy gyflwyno hyd at 10 canolfan lawfeddygol newydd ar draws Cymru, i ddarparu triniaethau ar gyfer cyflyrau lle mae cleifion wedi aros hiraf
- Cadw’r GIG am ddim pryd a lle bynnag y bo’i angen, diogelu presgripsiynau am ddim, cefnogi a thyfu gweithlu’r GIG a gwella llywodraethiant
- Recriwtio hyd at 100 o feddygon teulu newydd a gwella mynediad drwy wasanaethau digidol a thele-iechyd, i gefnogi ein blaenoriaeth i fynd i’r afael â rhestrau aros, a blaenoriaethu cyllid tecach, mwy cynaliadwy i feddygon teulu
- Cynnydd tuag at greu Gwasanaeth Iechyd a Gofal gwbl integredig, gyda mwy o gydweithio rhwng gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol a chymorth gwell i ofalwyr di-dâl
- Sicrhau bod prosesau llunio polisïau ar draws y llywodraeth yn gweithio i fynd i’r afael â ffactorau cymdeithasol iechyd i gadw pobl yn iach – gan gynnwys tai, addysg a lleihau tlodi
- Cyflwyno dyletswydd newydd ar fyrddau iechyd i asesu anghenion deintyddol lleol a chymryd pob cam rhesymol i dyfu ac i gynnal lefelau staffio deintyddol digonol i ddiwallu’r anghenion hynny
Plaid Cymru
- Nid yw polisi mudo yn fater datganoledig ac mae llywodraethau olynol y DU wedi methu cymunedau a mudwyr, a gyda phwerau datganoledig, byddai modd i ni ddarparu system deg sy’n seiliedig ar reolau, sy’n gweithio i anghenion Cymru ac yn cynnal ein gwerthoedd
- Mynd i’r afael â chamwybodaeth a thwyllwybodaeth am geiswyr lloches, ffoaduriaid a mudwyr, a sicrhau bod egwyddorion tegwch a pharch yn cael eu gwreiddio ar draws polisi’r llywodraeth i hyrwyddo integreiddio a chydlyniant cymunedol
- Gwrthwynebu model presennol Swyddfa Gartref y DU am ‘westai lloches’, sy’n cyfrannu at densiynau cymunedol, sy’n gallu cynyddu’r pwysau ar wasanaethau lleol ac sy’n gwneud ceiswyr lloches yn ynysig ac yn agored i niwed
Plaid Cymru
- Deddfu dros hawl i gartref digonol yng Nghymru i fynd i'r afael yn raddol â'r problemau sy'n gorgyffwrdd â chyflenwad tai annigonol, prisiau tai yn codi, a rhenti cynyddol, sydd wedi cyfrannu at argyfwng tai Cymru
- Darparu o leiaf 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd erbyn 2030, gan weithio gydag awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol i ddarparu cartrefi newydd o ansawdd uchel ac i adfer tai gwag i’w defnyddio fel tai cymdeithasol
- Cyflwyno mesurau newydd i ddiogelu rhentwyr, gan gynnwys rhoi diwedd ar droi tenantiaid allan heb fai, gosod rhent teg drwy gyfyngu ar godiadau rhent, yr hawl i ofyn am anifail anwes a'i gwneud yn ofynnol i landlordiaid wella ansawdd eiddo
- Sefydlu dull Cartrefi yn Gyntaf o fynd i’r afael â digartrefedd, sy’n cymryd trawma i ystyriaeth ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn, sicrhau bod deddfwriaeth ddigartrefedd newydd yn cael ei rhoi ar waith yn effeithiol a blaenoriaethu ymyrraeth gynnar i atal digartrefedd
- Diwygio prosesau cynllunio i adlewyrchu anghenion lleol yn hytrach na buddiannau datblygwyr, gan ddod â thai, adfywio, cysylltedd a datblygu economaidd at ei gilydd o fewn un weledigaeth gydlynol ar gyfer Cymru
Plaid Cymru
- Cyflwyno Cynllun Gweithredu Hinsawdd a Natur i Gymru, gan osod llwybr ymarferol at sero net erbyn 2040, cynyddu ynni cymunedol, sgiliau a swyddi gwyrdd, trafnidiaeth lanach, cartrefi sy’n defnyddio ynni’n effeithlon, a diogelu ac adfer natur
- Cyflwyno Strategaeth Ynni Genedlaethol i fapio anghenion ynni Cymru nawr ac yn y dyfodol, a'r seilwaith sydd ei angen, ynghyd â Bargen Sector ar gyfer Ynni Adnewyddadwy i gydlynu camau gweithredu rhwng y llywodraeth, y diwydiant ynni adnewyddadwy, addysg, cymunedau ac undebau llafur
- Pwyso am ddatganoli Ystâd y Goron ar frys, er mwyn cadw’r elw yng Nghymru a’i fuddsoddi drwy Gronfa Cyfoeth Cymru newydd, gan gefnogi ynni cymunedol, tai a seilwaith fforddiadwy ac effeithlon o ran ynni
- Ceisio datganoli pwerau dros ddŵr yn llawn, sefydlu rheoleiddiwr dŵr newydd i Gymru i osod rheolaethau prisiau, cyfyngu ar daliadau bonws a buddsoddi mewn gwelliannau amgylcheddol, a gosod targedau gorfodol i leihau llygredd dŵr
- Diogelu dyfodol ffermydd teuluol Cymru gyda system ariannu aml-flwyddyn ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, lleihau’r baich presennol o ran gwaith papur diangen a hybu olyniaeth a newydd ddyfodiaid i ffermio
- Cyflwyno Strategaeth Fwyd gynhwysfawr i Gymru i ddatblygu diogelwch a llythrennedd bwyd, cwtogi a chryfhau cadwyni cyflenwi bwyd, a chefnogi a datblygu diwydiant bwyd a diod Cymru
Plaid Cymru
- Blaenoriaethu codi safonau llythrennedd a rhifedd, sefydlu targedau cenedlaethol, ar lefel ysgolion ac ar lefel unigol ar gyfer disgyblion, rhoi eglurder i athrawon a gosod meini prawf sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer addysgu llythrennedd a rhifedd
- Gweithio gydag athrawon a’r gweithlu addysg i leihau’r llwyth gwaith drwy gael gwared â gwaith papur a biwrocratiaeth ddiangen, darparu canllawiau ac adnoddau cliriach ar ddylunio cwricwlwm, cynyddu hyblygrwydd mewn cytundebau, gan gynnwys ar gyfer datblygiad proffesiynol
- Erbyn 2030, sicrhau bod Cymhellion Addysg Gychwynnol i Athrawon ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth yng Nghymru yn cyfateb i’r rhai yn Lloegr, gyda hyd at £30,000 ar gael ar gyfer y pynciau sydd fwyaf o flaenoriaeth – dwbl y £15,000 presennol
- Cynyddu cyfran a nifer y dysgwyr sy’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg, gydag o leiaf 50% o ddisgyblion mewn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050, gan sicrhau bod y ddarpariaeth yn hygyrch, yn gynhwysol, ac yn gallu manteisio ar adnoddau digonol
- Cymryd camau ar unwaith i adfer cynaliadwyedd hirdymor y system Anghenion Dysgu Ychwanegol ar ôl blynyddoedd o bwysau, symleiddio’r system i rieni a dysgwyr a gwneud hyfforddiant ADY yn orfodol i’r gweithlu
- Hyrwyddo addysg bellach a hyfforddiant galwedigaethol ymhellach, rhoi dewis i ddysgwyr a’u cyfeirio’n glir at yr opsiynau addysg, a chomisiynu adolygiad annibynnol, cynhwysfawr ar draws y sector addysg uwch a sut mae’n cael ei chyllido
Plaid Cymru
- Brwydro dros ddatganoli rheilffyrdd a’r cyllid rheilffyrdd sy’n ddyledus i Gymru i fuddsoddi yn rheilffyrdd Cymru – gan gynnwys £4bn mewn cyllid canlyniadol yn sgil HS2 – a chyflwyno ffrwd newydd o brosiectau rheilffyrdd byr dymor, tymor canolig a hirdymor yng Nghymru
- Hybu diogelwch ar y ffyrdd a sicrhau bod ffyrdd yn cael eu cynnal a’u cadw’n ddiogel, cefnogi'r defnydd o fwy o gerbydau trydan, gan gynnwys seilwaith gwefru gwell ar draws Cymru, a galw ar Lywodraeth y DU i ehangu’r Cynllun Rhyddhad Treth Tanwydd Gwledig i Gymru
- System drafnidiaeth gwbl integredig, ehangu tocynnau tapio i mewn ac allan, talu wrth fynd gyda chapiau prisiau dyddiol ar draws bysiau a threnau, gan barhau i ddarparu tocynnau bws unffordd am £1 a thocynnau dydd am £3 i bobl ifanc, yn ogystal â phasys bws i’r rhai dros 60 oed a phobl anabl
- Sicrhau bod teithio llesol wrth galon system drafnidiaeth Cymru, gan hybu iechyd da a sicrhau llwybrau diogel a hygyrch ar droed, ar olwyn neu ar feic, a chefnogi mwy o fuddsoddiad mewn cynlluniau llogi beiciau ar draws Cymru
- Cefnogi cynaliadwyedd hirdymor Maes Awyr Caerdydd, ceisio datganoli’r Doll Teithwyr Awyr a gweithio gydag awdurdodau a rhanddeiliaid porthladdoedd i gryfhau gwydnwch porthladdoedd Cymru a chynyddu eu rôl yng nghadwyni cyflenwi Ewrop
Plaid Cymru
- Amddiffyn datganoli a gwrthsefyll ymdrechion i’w danseilio neu ei wanhau, a galw am ddatganoli pellach o ran rheilffyrdd, Ystâd y Goron, lles, dŵr, cyfiawnder a phlismona
- Sefydlu Comisiwn Cenedlaethol newydd i Gymru i oruchwylio datganoli pellach, cynnwys dinasyddion mewn sgwrs genedlaethol am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru, a gosod y sylfeini ar gyfer Papur Gwyn yn y dyfodol ar annibyniaeth, gan fynd i’r afael â’r heriau a nodi’r cyfleoedd
- Cynnal adolygiad llawn o drefniadau etholiadol ac iechyd ehangach democratiaeth yng Nghymru, nodi llwybrau i sicrhau cynrychiolaeth gyfartal rhwng y rhywiau, gweithio i greu mwyafrif trawsbleidiol ar gyfer mabwysiadu’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau’r Senedd yn y dyfodol, a chryfhau addysg llythrennedd gwleidyddol a llythrennedd yn y cyfryngau
- Cyflwyno Deddf Hawliau Dynol sy’n ymgorffori cytundebau rhyngwladol allweddol i gyfraith Cymru, gan gynnwys Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl, diddymu pob math o wahaniaethu yn erbyn menywod, diddymu gwahaniaethu hiliol a hawliau’r plentyn
- Cryfhau uniondeb mewn gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus, gan gynnwys deddfu i ymestyn egwyddorion Cyfraith Hillsborough a’r ddyletswydd gonestrwydd lle nad yw deddfwriaeth y DU yn ymdrin yn llawn â swyddogaethau datganoledig a chyrff cyhoeddus yng Nghymru
Y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig
Arweinydd
Jane Dodds
- Buddsoddi mewn gofal cymdeithasol a 5,000 o welyau gofal newydd ychwanegol i roi terfyn ar argyfwng y cleifion sy'n cael eu trin mewn coridorau ysbytai
- Darparu gofal plant am ddim i bob plentyn o naw mis i bedair oed, 30 awr yr wythnos, 48 wythnos y flwyddyn
- Sicrhau bod pob claf sydd â chanser yn dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod o atgyfeiriad brys
- Gwahardd dympio carthion yn afonydd a moroedd Cymru a disodli Ofwat gyda rheoleiddiwr llymach i Gymru
- Canolbwyntio ar gadw gweithwyr, torri rhestrau aros y GIG a chefnogi gofalwyr teuluol yn ôl i'r gwaith
Y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig
- Cael gwared ar y cynnydd arfaethedig mewn tollau tanwydd i leddfu’r baich yn sgil prisiau petrol sy’n codi
- Diddymu’r cynnydd Yswiriant Gwladol i leihau pwysau ar gyflogau a chefnogi busnesau’r stryd fawr
- Defnyddio technoleg newydd i helpu cartrefi i ddefnyddio ynni ar adegau rhatach o’r dydd, gan leihau biliau
- Dim rhewi trothwyon ad-dalu benthyciadau myfyrwyr, gan arbed hyd at £100 i raddedigion yn y flwyddyn gyntaf
- Helpu pobl yn ôl i weithio drwy raglenni ailhyfforddi a chefnogi gofalwyr teuluol
Y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig
- Diddymu ardrethi busnes i fusnesau bach a’u disodli gydag ardoll ar dirfeddianwyr masnachol
- Creu cronfa £400m i wneud canol trefi yn lanach, yn fwy diogel ac yn wyrddach
- Torri TAW o 5% ar gyfer busnesau lletygarwch er mwyn cefnogi’r stryd fawr sy’n ei chael hi’n anodd
- Cytuno ar undeb tollau newydd rhwng y DU a’r UE er mwyn lleihau biwrocratiaeth masnach a rhoi hwb i dwf
- Blaenoriaethu mynediad at gyllid ar gyfer busnesau newydd a’r rhai sy’n tyfu
- Buddsoddi mewn arloesedd i helpu busnesau yng Nghymru i dyfu a chreu swyddi
Y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig
- Buddsoddi mewn 5,000 o welyau gofal cymdeithasol newydd a lleoedd cymorth cartref i roi terfyn ar yr argyfwng gofal mewn coridorau mewn ysbytai
- Hyfforddi mwy o feddygon teulu yng Nghymru i leihau’r prinder ac i roi mynediad cyflymach i gleifion at feddyg lleol
- Cyflwyno Cynllun Canser Cenedlaethol i sicrhau bod pob claf sydd â chanser yn dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod o atgyfeiriad brys
- Sicrhau gofal deintyddol y GIG i bawb sydd angen triniaeth frys neu driniaeth argyfwng, gan ddod â’r diffeithwch deintyddol i ben
- Buddsoddi yn iechyd y cyhoedd a chyflwyno gwiriad iechyd canol oed i bawb dros 40 oed er mwyn dal problemau’n gynnar
- Gwella gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru, gyda phwyslais ar fynediad cynharach at gymorth
Y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig
- Creu uned bwrpasol i brosesu ceisiadau lloches o fewn tri mis, ac eithrio’r achosion mwyaf cymhleth
- Caniatáu i geiswyr lloches sydd wedi aros dros dri mis am benderfyniad i weithio tra maen nhw'n aros
- Gweithio gydag Europol ac awdurdodau Ffrainc i fynd i’r afael â’r gangiau troseddol sy’n gyfrifol am y croesiadau yn y Sianel
Y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig
- Adeiladu 30,000 o gartrefi cymdeithasol newydd ledled Cymru i fynd i’r afael â phrinder tai
- Lansio rhaglen 10 mlynedd i inswleiddio ac uwchraddio cartrefi, a’u gwneud yn gynhesach ac yn rhatach i'w gwresogi
- Cyhoeddi cynllun trawslywodraethol i roi terfyn ar gysgu ar y strydoedd a phob math o ddigartrefedd
- Sicrhau cysylltiad band eang gigabit llawn ym mhob cartref a busnes, gan gynnwys ardaloedd gwledig ac anghysbell
Y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig
- Gwahardd dympio carthion yn nyfrffyrdd Cymru, stopio rhoi bonws i benaethiaid dŵr nes iddo orffen, a chreu rheoleiddiwr newydd i Gymru i ddisodli Ofwat
- Pennu targedau cyfreithiol rhwymol i atal dirywiad natur yng Nghymru a dyblu cynefinoedd bywyd gwyllt erbyn 2050
- Pasio Deddf Bywyd Gwyllt i Gymru er mwyn cryfhau amddiffyniadau cyfreithiol ar gyfer anifeiliaid a'u cynefinoedd
- Cyflwyno strategaeth genedlaethol hirdymor ar gyfer gwydnwch llifogydd ac erydiad arfordirol gyda gweledigaeth 30 mlynedd
- Buddsoddi mewn gwneud Cymru yn arweinydd byd ym maes ynni dŵr ac ynni’r llanw, gan gynnwys cefnogi datblygiad Morlyn Llanw Bae Abertawe, y cafwyd addewid amdano ers tro
- Gwrthwynebu dychwelyd at ffracio, a fyddai’n fygythiad i gefn gwlad Cymru
Y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig
- Darparu gofal plant am ddim i bob plentyn o naw mis i bedair oed, 30 awr yr wythnos, 48 wythnos y flwyddyn
- Cynyddu cyllid ysgolion a cholegau fesul disgybl uwchlaw chwyddiant bob blwyddyn
- Datblygu strategaeth gweithlu i fynd i’r afael â’r argyfwng recriwtio a chadw athrawon
- Buddsoddi mewn adeiladau ysgol a choleg newydd a chlirio’r gwaith atgyweirio sydd heb ei gwblhau ar safleoedd sy’n dadfeilio
- Creu strategaeth yrfaoedd i staff y blynyddoedd cynnar, gyda phwyslais ar adnabod plant ag anghenion dysgu ychwanegol
Y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig
- Pwyso i gefn gwlad Cymru gael ei gynnwys yng Nghynllun Rhyddhad Tollau Tanwydd Gwledig Llywodraeth y DU i dorri costau mewn cymunedau anghysbell
- Diogelu tocynnau bws am ddim i bawb dros 60 oed a gweithio tuag at drafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bawb dan 25 oed
- Creu rhwydweithiau seiclo a cherdded newydd ledled Cymru drwy strategaeth teithio llesol newydd
Y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig
- Cwblhau cam nesaf datganoli drwy leihau nifer y pwerau sydd yn nwylo San Steffan a chynyddu pwerau benthyca Cymru
- Datganoli cyfrifoldeb am wasanaethau a seilwaith rheilffyrdd i Gymru, gyda chyllid teg a llywodraethu ar y cyd ar lwybrau trawsffiniol
- Datganoli plismona, carchardai, cyfiawnder ieuenctid a’r gwasanaeth prawf er mwyn caniatau i Gymru ddatblygu dull gweithredu cymunedol ar gyfer troseddu
- Datganoli toll teithwyr awyr er mwyn sicrhau bod Maes Awyr Caerdydd ar yr un gwastad â meysydd awyr yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a rhanbarthau Lloegr
- Creu Cyngor Gweinidogion y DU er mwyn dod â llywodraethau Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon ac arweinwyr rhanbarthol Lloegr at ei gilydd
- Rhoi pŵer i’r Senedd wneud Dydd Gŵyl Dewi yn wyliau cyhoeddus
Plaid Werdd Cymru
Arweinydd
Anthony Slaughter
- Torri costau byw gyda thocynnau bws am £1, a theithio am ddim i bobl o dan 22 oed
- Disodli’r Dreth Gyngor gyda Threth Gwerth Tir sy’n decach, lle bydd y rhan fwyaf o aelwydydd yn talu llai, tra bydd perchnogion eiddo mwy cefnog yn talu mwy
- Gwneud rhentu yn fwy fforddiadwy drwy gyflwyno rheolaethau rhent sy’n deg i denantiaid a rhewi rhenti i denantiaid preifat fel mesur dros dro
- Cyflwyno gofal plant cynhwysol i bob plentyn o naw mis oed, gan ddechrau gydag ariannu 20 awr yr wythnos
- Creu 60,000 o dai cyngor newydd mewn 10 mlynedd
- Glanhau ein hafonydd a’n moroedd drwy weithio i ddod â Dŵr Cymru/Welsh Water i berchnogaeth gyhoeddus go iawn
Plaid Werdd Cymru
- Torri costau byw gyda thocynnau bws am £1, a theithio am ddim i bobl o dan 22 oed
- Disodli’r Dreth Gyngor gyda Threth Gwerth Tir sy’n decach, lle bydd y rhan fwyaf o aelwydydd yn talu llai, tra bydd perchnogion eiddo mwy cefnog yn talu mwy
- Rhewi rhenti i denantiaid sy’n rhentu’n breifat
- Cyflwyno gofal plant cynhwysol i bob plentyn o naw mis oed, gan ddechrau gydag ariannu 20 awr yr wythnos
- Dod â thlodi bwyd i ben drwy gyflwyno Bil Bwyd Da i Gymru sy’n adeiladu cadwyni cyflenwi i ffermwyr a bwyd iach i gymunedau
Plaid Werdd Cymru
- Sefydlu Cronfa Trawsnewidiad Gwyrdd i ariannu'r newid i ynni glân, inswleiddio cartrefi ac adeiladau cyhoeddus
- Creu ac ehangu cynlluniau hyfforddi er mwyn i bobl weithio ym maes ynni adnewyddadwy, ôl-osod adeiladau, a rheoli tir cynaliadwy
- Gweithio gyda chronfa bensiwn sector cyhoeddus Cymru i fuddsoddi mewn cwmnïau a seilwaith newydd yng Nghymru
- Diwygio ardrethi busnes fel bod busnesau bach yn talu llai tra bod corfforaethau ac archfarchnadoedd mawr yn talu mwy
- Sefydlu Hyb Datblygu Cydweithredol, i gefnogi busnesau di-elw a busnesau cymunedol i ffynnu mewn ardaloedd lleol ar draws sectorau gan gynnwys ynni adnewyddadwy
- Galw am bwerau benthyca cryfach fel y gall Llywodraeth Cymru fuddsoddi i ddatblygu’r economi a gwella gwasanaethau cyhoeddus
Plaid Werdd Cymru
- Cefnogi pobl sy’n byw gyda chyflyrau fel canser a diabetes yn well, drwy ddiagnosis cynnar a gofal cymunedol estynedig sy’n cael eu darparu drwy hybiau iechyd a llesiant lleol
- Ailadeiladu’r GIG drwy roi staff yn gyntaf, ariannu meddygon teulu a deintyddion yn briodol, a buddsoddi mwy mewn atal salwch yn hytrach nag ymateb iddo’n unig
- Dod â gofal mewn coridorau i ben drwy ddatgan na ddylai ‘gofal mewn cadair’ fyth ddigwydd am fwy na 24 awr
- Sicrhau bod byrddau iechyd yn cydweithio’n agosach, gan ddod â’r diwylliant seilo i ben, a chefnogi staff i gyflwyno syniadau’n gyflym er mwyn torri rhestrau aros ar draws y wlad
- Buddsoddi mewn atgyweirio tai, teithio llesol, trafnidaeth gyhoeddus, a mesurau eraill a fydd yn lleihau pwysau ar y GIG
Plaid Werdd Cymru
- Cryfhau cymorth i geiswyr lloches sy’n cael eu lleoli yng Nghymru gan Lywodraeth y DU, gyda gwersi Cymraeg a Saesneg, tai addas, a chyfleoedd i ymgartrefu yn eu cymuned newydd
- Ymestyn y rhaglen Cenedl Noddfa i sicrhau ei bod yn diwallu anghenion pobl sy’n cael eu lleoli yng Nghymru
Plaid Werdd Cymru
- Adeiladu system o reolaethau rhent ar gyfer marchnad rhentu sy’n decach ac yn fwy fforddiadwy a rhewi rhenti i denantiaid preifat fel mesur dros dro
- Creu 60,000 o dai cyngor newydd mewn 10 mlynedd – gan gynnwys prynu tai sy’n bodoli’n barod i gynyddu'r cyflenwad yn gyflym
- Creu Hawl i Gartref Digonol, gan weithio i roi terfyn ar ddigartrefedd a chael teuluoedd allan o lety dros dro
- Gwahardd achosion o droi allan ‘heb fai’
- Creu datblygwr tai cenedlaethol i weithio gyda chynghorau i adeiladu tai cyngor newydd yn gyflym ac ar y raddfa sydd ei hangen
- Gwahardd y system lesddaliad ar gyfer cartrefi newydd a chefnogi lesddeiliaid i brynu eu rhydd-ddaliad am bris teg
Plaid Werdd Cymru
- Peidio â gwanhau ymrwymiadau hinsawdd - gan gynnwys 100% o drydan adnewyddadwy erbyn 2035
- Ei gwneud yn ofynnol i osod paneli solar ar do pob adeilad newydd. Rhaid i bob datblygiad tai newydd gael systemau gwresogi heb danwydd ffosil
- Gwneud i gyllid llifogydd weithio, cefnogi atebion sy'n seiliedig ar natur, a chyflawni amddiffyniad hirdymor gyda chymunedau wrth wraidd y broses
- Bydd Cronfa Trawsnewidiad Gwyrdd yn datgloi buddsoddiad hirdymor i adeiladu seilwaith ynni adnewyddadwy, gan weithio gyda Chronfa Pensiwn Cymru
- Glanhau ein hafonydd a’n moroedd drwy weithio i ddod â Dŵr Cymru/Welsh Water i berchnogaeth gyhoeddus go iawn, ei wneud yn fwy atebol, a monitro pob corff dŵr erbyn 2027 i orfodi deddfau llygredd
- Adeiladu system ffermio decach sy’n cynnal bywoliaeth ffermwyr, yn cefnogi ffermwyr y dyfodol a ffermydd bach, ac yn gwobrwyo adferiad natur
Plaid Werdd Cymru
- Ymgorffori addysg feithringar ac addysg drwy chwarae ar gyfer plant iau, cryfhau cymorth anghenion dysgu ychwanegol a chymorth iechyd meddwl fel bod ysgolion yn llefydd lle mae plant yn ffynnu ac yn hapus
- Ystafelloedd dosbarth heb ffonau symudol gydag eithriadau ar gyfer hygyrchedd ac iechyd
- Cyflog drwy gydol y flwyddyn i staff cymorth ysgolion a chynnydd yn isafswm yr amser ar gyfer cynllunio, paratoi ac asesu gofynnol i addysgwyr
- Rhoi’r gorau i gau ysgolion bach gwledig, yn enwedig mewn ardaloedd Cymraeg
- Lleihau dyled annheg myfyrwyr drwy dalu llog yn rhannol ar fenthyciadau Cynllun 2 i raddedigion yng Nghymru a rhoi terfyn ar gyfraddau llog gormodol i fyfyrwyr newydd
Plaid Werdd Cymru
- Cysylltu gwasanaethau bysiau ledled Cymru gydag un amserlen a system docynnau syml
- Blaenoriaethu llwybrau newydd i fysiau mewn ardaloedd gwledig ac anghysbell
- Creu llwybrau bysiau cyflym, gan gynnwys gwasanaethau ar draws y cymoedd, lle mae’r gwasanaethau’n annigonol ar hyn o bryd, a lansio gwasanaeth bysiau pellter hir
- Creu cynllun hirdymor i fuddsoddi mewn gwasanaethau rheilffordd dibynadwy, hygyrch a gwydn
- Cyflwyno Cledrau Caerdydd a datblygu cynlluniau ar gyfer Abertawe, Casnewydd a Wrecsam
- Dyblu cyfran y teithiau sy’n cael eu gwneud ar droed, ar olwyn neu ar feic erbyn 2030
- Symud cyllid ar gyfer ffyrdd newydd i fynd i’r afael â thyllau ac arwynebau ffordd anniogel
Plaid Werdd Cymru
- Ehangu’r broses cofrestru pleidleiswyr awtomatig ledled Cymru
- Adolygu’r system bleidleisio rhestrau caeedig, gan gynnwys gwaith sydd ei angen i helpu pleidleiswyr i ddeall y system
- Cynnwys y cyhoedd yn uniongyrchol yn y broses o wneud penderfyniadau drwy gynulliad y dinasyddion a chyllidebu cyfranogol, lle mae cymunedau yn penderfynu gyda’i gilydd sut i wario cyllidebau penodol
- Cefnogi datganoli plismona a chyfiawnder i Gymru, gyda chynlluniau i leihau poblogaeth carchardai a mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched
- Cefnogi datganoli rheilffyrdd, dŵr, a meysydd eraill fel bod gan Gymru o leiaf yr un pwerau â Senedd yr Alban
- Gwireddu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ar draws pob polisi i greu dyfodol tecach, gwyrddach i’n pobl ifanc
Reform UK
Arweinydd
Dan Thomas
- Torri 1c oddi ar bob band treth incwm Cymru
- Cael gwared ar y terfyn cyflymder diofyn o 20mya, heblaw y tu allan i safleoedd sensitif fel ysgolion ac ysbytai
- Adeiladu ffordd liniaru’r M4, uwchraddio’r A55 a’r A470
- Cael gwared ar y polisi ‘Cenedl Noddfa’ a rhoi’r gorau i wario arian trethdalwyr Cymru dramor
- Diwygio’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy er mwyn rhoi blaenoriaeth i gynhyrchu bwyd a chymunedau gwledig dros dargedau gwyrdd
- Torri rhestrau aros y GIG a dod a gofal mewn coridorau i ben
Reform UK
- Torri 1c oddi ar bob band treth incwm Cymru heb unrhyw doriadau i wasanaethau rheng flaen
- Gweithredu rheol sy’n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gyngor sydd eisiau codi’r dreth gyngor fwy na 4.99% i gynnal refferendwm lleol
- Cyflwyno addewid ‘clo trethi’ sy’n golygu na fydd Reform yn cyflwyno unrhyw drethi neu ardrethi newydd sydd heb eu hamlinellu yn y maniffesto
- Gwerthu adeiladau’r llywodraeth sydd heb eu defnyddio a rhoi’r arbedion i wasanaethau rheng flaen
- Dileu cosbau ardrethi busnes sy’n benodol i Gymru ar dafarndai, gwestai a lletygarwch
- Ymgyrch i dorri TAW ar letygarwch
Reform UK
- Cael gwared ar y dreth dwristiaeth i gefnogi swyddi a busnesau yng Nghymru
- Adolygu pob cwango er mwyn torri gwastraff, gan uno neu gael gwared ar y rheini sydd â’r un swyddogaethau
- Diwygio’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy er mwyn rhoi blaenoriaeth i gynhyrchu bwyd a chymunedau gwledig dros dargedau gwyrdd
- Prynu’n lleol a sicrhau bod y llywodraeth yn talu cyflenwyr yn brydlon
- Creu swydd gweinidog ar gyfer diwydiant yn benodol
- Gweithredu adolygiad trylwyr o ardrethi busnes er mwyn helpu busnesau i ffynnu
Reform UK
- Diogelu GIG sydd am ddim ac yn deg yma yng Nghymru bob amser
- Gweithredu strategaeth i dorri rhestrau aros y GIG
- Cael gwared ar ofal mewn coridorau i adfer urddas i gleifion a staff
- Digido systemau mewnol y GIG er mwyn iddyn nhw fod yn addas ar gyfer y dyfodol
- Mynd i'r afael â gwaith cynnal a chadw sydd heb ei gwblhau yn ein hysbytai er mwyn iddyn nhw fod yn ddiogel ar gyfer gofal modern
- Gwella mynediad at feddygon teulu a gwneud cyllid meddygon teulu yn decach mewn ardaloedd gwledig
Reform UK
- Cael gwared ar y polisi ‘Cenedl Noddfa’
- Gwrthwynebu rhoi ceiswyr lloches mewn gwestai a thai amlfeddiannaeth (HMOs) yng Nghymru
- Llywodraeth Cymru i ddod â gwariant ar gymorth tramor i ben
Reform UK
- Cyflymu’r broses gynllunio i ddarparu mwy o gartrefi
- Blaenoriaethu Cymry a chyn-filwyr ar gyfer tai cymdeithasol
- Diddymu gofynion cynaliadwyedd sy’n codi costau adeiladu tai
- Gosod safonau dylunio cenedlaethol uwch i sicrhau bod adeiladau'n cadw ac yn adlewyrchu treftadaeth leol
- Disodli Cymorth i Brynu Cymru gyda chymhellion sydd wedi'u targedu'n well
Reform UK
- Gwahardd cynlluniau gwynt newydd ar y tir a rhoi’r gorau i ddefnyddio ffermdir cynhyrchiol sylweddol ar gyfer ffermydd solar
- Darparu cyllid aml-flwyddyn i Glybiau Ffermwyr Ifanc
- Datblygu strategaeth fwyd 10 mlynedd gyda ffermwyr ac undebau ffermwyr
- Gweithio o fewn y cymhwysedd datganoledig i alluogi ynni niwclear yng Nghymru
- Cyflwyno Deddf Afonydd Cymru i lanhau ein dyfrffyrdd
- Buddsoddi mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd a neilltuo cyllid yn decach
Reform UK
- Diwygio Cwricwlwm Cymru i sicrhau ffocws ar bynciau craidd fel mathemateg a gwyddoniaeth
- Sicrhau bod prifysgolion yn cyd-fynd â mentrau economaidd o bwys
- Gorfodi safonau ymddygiad clir mewn ysgolion
- Cyflwyno tablau cynghrair i roi grym i rieni
- Cryfhau rheolau presenoldeb mewn ysgolion
- Amddiffyn rhyddid barn mewn addysg uwch
- Ehangu addysg dechnegol a phrentisiaethau
Reform UK
- Cael gwared ar y terfyn cyflymder diofyn o 20mya, heblaw y tu allan i safleoedd sensitif fel ysgolion ac ysbytai
- Adeiladu Ffordd Liniaru’r M4
- Uwchraddio gwibffordd yr A55 yng ngogledd Cymru
- Uwchraddio rhannau o’r A470 i wella’r cysylltiadau trafnidiaeth rhwng y gogledd a’r de
- Gwahardd cyflwyno cynlluniau ‘talu fesul milltir’
- Cynyddu capasiti rheilffyrdd sy’n cyfateb i alw teithwyr
Reform UK
- Cael gwared ar wleidyddiaeth lle ceir cwynion cyfansoddiadol cyson a gweithio i wneud i'r setliad datganoli presennol weithio
Heritage Party
Arweinydd
David Kurten
- Diddymu addysg rhywioldeb uwchradd o’r cwricwlwm a gwahardd ideoleg rhywedd a "rhywioli" plant mewn ysgolion
- Diddymu datganiadau argyfwng hinsawdd a chael gwared ar "sero net" – gan ddod â phob cyfyngiad a threth ar allyriadau CO2 i ben, sy'n faich ariannol ar aelwydydd a busnesau
- Dim mwy o dyrbinau gwynt, clwstwr paneli solar, peilonau a BESS (systemau storio sy'n cael eu gweithredu gan fatris) sy'n difetha ein cefn gwlad
- Atal datblygiadau di-ben-draw: gwahardd targedau tai a rhoi’r gorau i adeiladu ar dir cefn gwlad a thir amaethyddol gwarchodedig
- Cael gwared ar statws Cymru fel "Cenedl Noddfa" ar gyfer mudwyr a cheiswyr lloches a chau gwestai ffoaduriaid a thai amlfeddiannaeth (HMOs)
- Cael gwared ar barthau 20 mya, gan adfer 30 mya fel y cyflymder diofyn mewn ardaloedd trefol
Heritage Party
- Diddymu datganiadau argyfwng hinsawdd a chael gwared ar "sero net" – gan ddod â phob cyfyngiad a threth ar allyriadau CO2 i ben, sy'n faich ariannol ar aelwydydd a busnesau
- Gwrthwynebu ymyrryd mewn rhyfeloedd tramor yn Wcráin, Palesteina, Iran a lleoedd eraill sy'n arwain yn uniongyrchol at gostau ynni uwch gartref
- Sicrhau cyfrifoldeb ariannol a chyllidol - lleihau gwariant y llywodraeth nes bod benthyca'r llywodraeth yn ddim, er mwyn atal chwyddiant
- Dim mwy o gynnydd yn nhreth incwm Cymru na Lloegr a Gogledd Iwerddon.
- Dim cynnydd yn y Dreth Trafodiadau Tir
Heritage Party
- Cael gwared ar yr Ardoll Ymwelwyr yng Nghymru neu’r "dreth i dwristiaid", sy’n uniongyrchol niweidiol i’r sector lletygarwch
- Cadarnhau economi marchnad rydd lle gall busnesau bach a chanolig ffynnu a chreu swyddi
- Gweithredu i ddiogelu ein seilwaith dŵr a diwydiannol a chyfleusterau diwydiannol o bwysigrwydd cenedlaethol, fel ffwrneisi chwyth a phurfeydd olew
- Gweithredu i adfer y diwydiant gweithgynhyrchu i Gymru
- Rhoi’r gorau i bob taliad i ffermwyr i beidio â chynhyrchu bwyd; yn hytrach, sicrhau bod 100% o gymorthdaliadau amaethyddol yn cael eu rhoi i ffermwyr i gynhyrchu bwyd o ansawdd uchel gyda safonau uchel o ran lles anifeiliaid
- Sicrhau nad oes mwy o gyfnodau clo, sy’n ddinistriol i fusnesau a bywoliaeth pobl
Heritage Party
- Cefnogi hyfforddiant mewn swydd i nyrsys a bydwragedd, a dileu'r cap ar nifer y myfyrwyr o Brydain sy'n cael astudio meddygaeth a deintyddiaeth yn y brifysgol
- Sicrhau bod GIG Cymru ar gyfer gwladolion y DU yn unig, a’i wneud yn ofynnol i wladolion tramor ddefnyddio gofal iechyd preifat
- Gorfodi cydsyniad ar sail gwybodaeth/ymreolaeth feddygol fel nad yw "dim pigiad, dim swydd" neu "dim pigiad, dim teithio" byth yn digwydd eto
- Annog meddygaeth ataliol a dileu cyfyngiadau ar feddyginiaethau rhad a diogel
- Gweithredu system optio i mewn ar gyfer rhoi organau, heb unrhyw organau’n cael eu cymryd o gorff person nes bod y galon a'r cylchrediad wedi dod i ben
- Atal y broses o batholegu emosiynau a theimladau fel "iechyd meddwl"; cyfyngu ar y defnydd o gyffuriau gwrthiselyddion a gwrthseicotigau a thrin problemau iechyd meddwl go iawn gyda therapi
Heritage Party
- Cael gwared ar statws Cymru fel "Cenedl Noddfa" ar gyfer mudwyr a cheiswyr lloches
- Cael gwared ar y mentrau i ddod â mudwyr digwmni 16-18 oed i Gymru o ardaloedd eraill
- Cau gwestai ffoaduriaid a thai amlfeddiannaeth (HMOs)
- Eirioli dros symud pob mudwr anghyfreithlon o’r DU
- Eirioli dros ostyngiad o 75% mewn fisas gwaith ac astudio i’r DU
Heritage Party
- Atal datblygiadau di-ben-draw: gwahardd targedau tai a rhoi’r gorau i adeiladu ar dir cefn gwlad a thir amaethyddol gwarchodedig
- Dylai pob cartref newydd gael ei adeiladu mewn arddulliau traddodiadol sy’n cyd-fynd â threftadaeth yr ardal
- Gwarchod ein treftadaeth a’n hadeiladau hanesyddol; creu Parthau Dadeni i adfer adeiladau hanesyddol mewn ardaloedd sydd wedi’u difetha gan bensaernïaeth fodernaidd
- Dim mwy o dai amlfeddiannaeth (HMOs)
- Diddymu Tystysgrifau Perfformiad Ynni ar gyfer adeiladau
- Diddymu pwerau cynllunio DNS ac IC/SIP a dychwelyd y broses o wneud penderfyniadau i ddwylo cynghorau lleol gyda’r hawl i drigolion apelio
Heritage Party
- Dim mwy o dyrbinau gwynt, clwstwr paneli solar, peilonau a BESS (systemau storio sy'n cael eu gweithredu gan fatris) sy'n difetha ein cefn gwlad
- Cael gwared ar ynni annibynadwy ac adfer seilwaith ynni parhaus, dibynadwy, rhad sy’n seiliedig ar lo, olew, nwy a gorsafoedd pŵer niwclear modiwlaidd bach
- Annog ffermio organig ac adfywiol sy’n defnyddio llai o gemegau, yn cynhyrchu bwyd iachach ac yn cynnal y pridd yn well
- Gwahardd neonicotinoids a glyffosad a gwahardd ychwanegu fflworid at ddŵr; gwahardd chwistrellu cemegau yn yr atmosffer ar gyfer pylu solar neu geobeirianneg
- Buddsoddi mewn systemau dŵr glaw a dŵr budr deuol i roi stop ar ollyngiadau carthion
- Ailgychwyn carthu afonydd a gwahardd adeiladu mewn gorlifdiroedd i atal llifogydd
Heritage Party
- Diddymu addysg rhywioldeb uwchradd o’r cwricwlwm a gwahardd ideoleg rhywedd a "rhywioli" plant mewn ysgolion
- Annog rhagoriaeth mewn addysg ac anelu at hunangynhaliaeth mewn sgiliau yng Nghymru: darparu ysgolion gramadeg, technegol, cyffredinol ac arbennig ym mhob ardal
- Cadarnhau rhieni fel prif addysgwyr plant
- Cefnogi addysg yn y cartref a gwrthwynebu pob cofrestriad addysg gartref
- Caniatáu cymryd gwyliau yn ystod y tymor a chael gwared ar ddirwyon i rieni
- Gostwng y targed o 50% o bobl sy'n gadael yr ysgol i fynd i’r brifysgol a chefnogi prentisiaethau a chrefftau dysgu
Heritage Party
- Cael gwared ar barthau 20 mya, gan adfer 30 mya fel y cyflymder diofyn mewn ardaloedd trefol a dileu pob dirwy a phwyntiau ar drwydded yrru a roddwyd am yrru rhwng 20 a 30 mya
- Gwrthwynebu gwahardd gwerthiant cerbydau petrol a diesel
- Diddymu pob parth a rhaglen sy'n gosod cyfyngiadau a thaliadau newydd a diangen ar gerbydau, gan gynnwys dinasoedd 15 munud, dinasoedd SMART, LTN, CAZ, LEZ, ULEZ
- Cadw rheilffyrdd Cymru ym mherchnogaeth y cyhoedd
- Cadw gwasanaethau bysiau lleol hanfodol ym mherchnogaeth y cyhoedd
- Cymeradwyo adeiladu ffyrdd a phontydd newydd lle bo angen, gan gynnwys ffordd liniaru’r M4
Heritage Party
- Cadw Cymru yn y DU - gwrthwynebu ail-ymuno â’r UE
- Cael gwared ar y Senedd ac adfer pwerau’r Senedd i siroedd Cymru neu San Steffan fel y bo’n briodol
- Adfer yr isafswm oed pleidleisio i 18
- Caniatáu i wladolion Prydain yn unig i bleidleisio, i sefyll am swydd gyhoeddus neu i weithio yn y gwasanaeth sifil
- Cyfyngu ar gyflogau gweision sifil i uchafswm cyflog y Prif Weinidog
Yn siarad ar raglen Radio Wales Breakfast, dywedodd Mr ap Iorwerth: "Mae hyn i gyd yn seiliedig ar yr [arian] sydd gennym ni yn y pot yn barod.
"Rydym wedi gwneud penderfyniadau a dewisiadau gofalus er mwyn i ni fod mewn sefyllfa lle rydym yn hyderus y gallwn gyflawni hynny o fewn y cyllid sydd gennym."
Ychwanegodd: "Rydym yn gofyn i bobl graffu nid ar faint rydym yn ei wario, ond ar yr hyn rydym yn ei gyflawni.
"Bydd hon yn llywodraeth, os gawn ni'r anrhydedd o'i ffurfio, a fydd yn canolbwyntio ar ganlyniadau - gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl - ac nid faint sy'n cael ei wario sy'n bwysig ond beth 'da ni am ei wneud hefo'r arian yna," meddai.
'Plaid angen bod yn onest gyda phleidleiswyr'
Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Mae angen i Blaid Cymru fod yn onest gyda phleidleiswyr ynglŷn â sut y byddan nhw'n talu am eu haddewidion.
"Unwaith eto, all Rhun ap Iorwerth ddim dweud faint fyddai o yn ei dorri i ariannu eu haddewid gofal plant sy'n anfforddiadwy.
"Mae'n dweud y byddan nhw'n gwario arian sydd wedi'i neilltuo i fynd i'r afael â thlodi plant yn 'wahanol', ond ni all ddweud pa wasanaethau hanfodol y byddai'n ei dorri."
Dywedodd arweinydd Reform yng Nghymru, Dan Thomas, bod maniffesto Plaid Cymru yn "waith ffuglen".
"Os wneith Plaid ryddhau eu ffigyrau nhw, mi wnawn ni'r un peth," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: "Mae'n hawdd i Blaid Cymru wneud addewidion gwariant mawr cyn etholiad, ond dyw honni bod y symiau'n gywir ddim yn ddigon."

Yn gynharach eleni, dywedodd Plaid Cymru eu bod yn dal i gefnogi Vivek Thuppil
Gofynnwyd i Rhun ap Iorwerth hefyd am sylwadau ymgeisydd Plaid Cymru a alwodd Israel yn "wladwriaeth derfysgol".
Gwnaeth Vivek Thuppil y sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Dwi'n credu bod Israel wedi bod yn gyfrifol am hil-laddiad yn Gaza," meddai Mr ap Iorwerth.
"Byddaf yn defnyddio'r gair hwnnw a dwi'n credu bod pobl Gaza wedi cael eu brawychu (terrorized) dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf."
Pan ofynnwyd iddo a oedd sylwadau Mr Thuppil yn dderbyniol, dywedodd: "Byddaf yn defnyddio termau cryf iawn iawn i gondemnio gweithredoedd Israel yn Gaza.
"Yn yr un modd a gwnes i gondemnio gweithredoedd y terfysgwyr a ymosododd ar Israeliaid diniwed ym mis Hydref 2023."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ebrill

- Cyhoeddwyd7 Mai 2025

- Cyhoeddwyd15 Ebrill
