'Byddai cam-drin yn codi'n sydyn gyda mwy o oriau o ofal plant am ddim'

Martin Roberts Ffynhonnell y llun, Facebook/Martin Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Martin Roberts y "bydd mamau'n dymuno eu bod wedi gofalu am eu babanod eu hunain"

GanCatrin Haf JonesGohebydd gwleidyddol a Gwyn LoaderPrif ohebydd Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Mae ymgeisydd Reform wedi honni y byddai "cam-drin mewn meithrinfeydd yn codi'n sydyn" os cynigir mwy o oriau o ofal plant am ddim i rieni yng Nghymru.

Mewn post ar-lein, dywedodd Martin Roberts y "bydd mamau'n dymuno eu bod wedi gofalu am eu babanod eu hunain".

Ychwanegodd yr ymgeisydd Reform yn etholaeth Pontypridd Cynon Merthyr y "dylai plant gael eu magu gan y rhieni nes eu bod yn ddigon hen ar gyfer meithrinfa cyn-ysgol".

Mae'r sylwadau'n dilyn honiadau gan Blaid Cymru fod ymgeisydd Reform arall yn yr etholaeth, Mark Lawrence, wedi dweud mewn dadl etholiadol y byddai'n well ganddo gefnogi menywod i aros gartref i ofalu am eu plant yn hytrach na buddsoddi mewn gofal plant.

Nid yw Reform wedi gwadu'r sylwadau honedig gan Mark Lawrence nac wedi ymateb yn uniongyrchol i'r sylwadau gan Martin Roberts, ond mewn ymateb i BBC Cymru dywedodd y blaid nad oes gan Blaid Cymru "goes i sefyll arni," gan gyfeirio at bostiadau cyfryngau cymdeithasol blaenorol gan rai gyn-ymgeiswyr a rhai presennol Plaid Cymru.

Mae Mark Lawrence yn drydydd ar restr Reform yn etholaeth Pontypridd Cynon Merthyr, tra bod Mark Roberts yn bedwerydd ar restr y blaid yn yr un etholaeth.

Beth yw polisïau'r pleidiau?

Mae rhoi mwy o oriau o ofal plant am ddim i rieni wedi dod yn fater arwyddocaol yn etholiad y Senedd eleni.

Mae Plaid Cymru a'r Blaid Werdd yn addo 20 awr am ddim yr wythnos i blant o 9 mis i 4 oed, tra bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn addo 30 awr yr wythnos.

Mae Llafur yn addo 30 awr yr wythnos i blant tair a phedair oed.

Mae'r Ceidwadwyr yn addo 30 awr o ofal plant neu'r opsiwn i enwebu taid neu nain ar gyfer taliad gofal plant.

Nid yw Reform UK wedi ymrwymo i unrhyw bolisi gofal plant os cânt eu hethol.

Dywedodd ymgeisydd Plaid Cymru, Heledd Fychan, fod "mynediad at ofal plant fforddiadwy o ansawdd uchel yn hanfodol i fenywod gael dewis go iawn — boed hynny'n golygu aros gartref, gweithio, neu gydbwyso'r ddau.

"Ni ddylid ystyried gofal plant fel cyfrifoldeb menywod yn unig chwaith ac ni allaf gredu bod yn rhaid i mi ddweud hyn yn 2026.

"Mae safbwyntiau fel hynny'n perthyn yn gadarn i adran deinosoriaid amgueddfa."

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig fod y sylwadau "yn peryglu tanseilio'r dewisiadau y mae teuluoedd yn eu gwneud bob dydd.

"Dylid cefnogi rhieni, nid eu barnu, ac mae teuluoedd yn haeddu hyblygrwydd i ddewis yr hyn sy'n gweithio orau iddyn nhw."

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru "nad oes lle i'r sylwadau hyn yn ein cymdeithas.

"Dim ond enghraifft arall ydyn nhw o Reform eisiau ein llusgo'n ôl i'r gorffennol.

"Mae Llafur Cymru yn canolbwyntio ar y dyfodol, gyda chynnig i ehangu gofal plant a chynlluniau i ymestyn prydau ysgol am ddim i ysgolion uwchradd".

Gofynnwyd i'r Blaid Werdd a'r Democratiaid Rhyddfrydol am eu hymateb hefyd.

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau sydd ar y gweill (Yn agor mewn tab porwr newydd)

Pan ofynnwyd iddynt am eu hymateb i'r sylwadau gan Martin Roberts a'r sylwadau honedig gan Mark Lawrence, dywedodd llefarydd ar ran Reform fod gan Blaid Cymru eu problemau eu hunain gydag ymgeiswyr presennol a chyn-ymgeiswyr, gan gynnwys un a rannodd bost cyfryngau cymdeithasol yn awgrymu y dylid "difa (put down)" y cyn-Brif Weinidog Rishi Sunak" ac un arall a ddefnyddiodd air sarhaus i ddisgrifio plant mewn post ar-lein.

"Dim ond blaen y mynydd iâ yw hwn o ran Plaid Cymru. Nid oes ganddyn nhw goes i sefyll arni," ychwanegon nhw.

Gellir dod o hyd i restr lawn o ymgeiswyr ar gyfer etholaeth Pontypridd Cynon Merthyr yma.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.