Plaid Cymru a Reform yn dadlau dros ffigyrau maniffestos etholiad y Senedd

Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru a Dan Thomas, arweinydd Reform yng NghymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae ffrae ynghylch costau addewidion etholiad y Senedd wedi codi rhwng Plaid Cymru a Reform

  • Cyhoeddwyd

Mae ffrae am gostau addewidion etholiad y Senedd wedi codi rhwng y ddwy blaid sy'n ymddangos i fod yn cystadlu am y brig ym mis Mai.

Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo Reform o "addewidion heb gost a fyddai'n dinistrio gwasanaethau cyhoeddus", tra bod Reform wedi ymateb gan ddweud bod Plaid Cymru wedi defnyddio "cyfrifiad cefn pecyn sigaréts".

Mae Reform wedi dweud y byddai'n lleihau treth incwm ar draws y tri band treth, yn gosod cap ar godiadau treth cyngor ac yn adeiladu ffordd liniaru'r M4 o amgylch Casnewydd os bydd yn llywodraethu Cymru.

Mae trethiant wedi ei grybwyll ymhob maniffesto sydd wedi ei gyhoeddi hyd yn hyn, gyda'r Ceidwadwyr yn addo tynnu ceiniog oddi ar y gyfradd sylfaenol o dreth incwm a Llafur yn dweud na fydd yn codi cyfraddau treth incwm Cymru.

Mae arweinydd Reform yng Nghymru, Dan Thomas, hefyd wedi ailadrodd addewid i gyhoeddi costau maniffesto'r blaid, er iddo ddweud yn wreiddiol na fyddai'r manylion yn cael eu rhyddhau.

Mae'r BBC wedi cael gwybod bod y costau hyn wedi cael eu dadansoddi gan y felin drafod annibynnol y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, ond er gwaethaf sawl cais dydy'r costau heb eu cyhoeddi eto.

Mae disgwyl i Blaid Cymru a'r Gwyrddion ddatgelu eu maniffestos yr wythnos hon, gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol i'w cyhoeddi yr wythnos nesaf.

Mae arolygon barn yn awgrymu bod Plaid a Reform yn brwydro i fod y blaid fwyaf, gyda Llafur yn wynebu her i barhau mewn grym.

Mae Plaid Cymru wedi honni y byddai cynlluniau Reform i dorri treth incwm, gosod cap o 5% ar dreth gyngor ac adeiladu ffordd liniaru'r M4 yn arwain at "dwll du" o £1biliwn yng nghyllid cyhoeddus Cymru.

Mewn datganiad, dywedodd y byddai capio treth cyngor yn arwain at ddiffyg o £437m i gynghorau lleol, ac y gallai'r ffordd liniaru'r M4 gostio tua £492m y flwyddyn dros gyfnod adeiladu o bum mlynedd.

Mae'r BBC wedi adrodd eisoes y byddai cynlluniau treth incwm Reform yn costio tua £371m yn y flwyddyn ariannol gyfredol.

Dydy Plaid Cymru heb gyhoeddi ei chyfrifiadau manwl.

Luke FletcherFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd llefarydd economi Plaid Cymru, Luke Fletcher mai "economeg ffantasi" sydd ym maniffesto Reform

Dywedodd llefarydd economi Plaid, Luke Fletcher, nad yw cyfrifiadau maniffesto Reform yn gwneud synnwyr, a dywedodd mai "gambl" yw eu strategaeth yn hytrach na chynllun.

Fe gyhuddodd Reform hefyd o gael "agenda llymder cudd" a fyddai'n "dinistrio" gwasanaethau cyhoeddus.

Mewn ymateb, dywedodd arweinydd Reform yng Nghymru, Dan Thomas nad oedd gan Blaid Cymru "goes i sefyll arni wrth son am gyfrifiadau".

Ychwanegodd: "Fyddan nhw ddim hyd yn oed yn dangos eu gwaith ar gyfer y cyfrifiad cefn pecyn sigaréts hwn."

Heriodd Dan Thomas blaid Rhun ap Iorwerth hefyd i gyhoeddi costau ei maniffesto pan fydd yn datgelu ei chynlluniau yr wythnos hon.

Dywedodd: "Byddwn yn cyhoeddi ein costau ni, ond a fydd Plaid yn cyhoeddi eu rhai nhw?"

Dan Thomas a Nigel FarageFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Dan Thomas ei benodi i arwain y blaid yn etholiad y Senedd gan Nigel Farage ym mis Chwefror

Yn ei lansiad maniffesto'r wythnos diwethaf, addawodd Llafur na fyddai'n codi cyfraddau treth incwm Cymru ac y byddai'n gwneud treth cyngor yn "decach".

Dywedodd arweinydd Llafur Cymru, Eluned Morgan, bod y blaid yn dal i gefnogi ailasesu treth cyngor erbyn 2028.

Dywedodd y Ceidwadwyr y byddent yn cymryd ceiniog o'r gyfradd sylfaenol o dreth incwm, yn capio cynnydd mewn treth cyngor ar 5% ac y byddent hefyd yn adeiladu ffordd liniaru'r M4.

Er nad yw Plaid Cymru wedi cyhoeddi ei holl gynlluniau eto, mae wedi wynebu cwestiynau am ei phenderfyniad i ehangu gofal plant i bob plentyn o naw mis i bedwar oed, gan gostio £400-500m y flwyddyn erbyn diwedd y cyfnod cyflwyno pum mlynedd.

Mae gwrthwynebwyr Plaid Cymru wedi ei herio i egluro pa wasanaethau y byddai'n eu torri i dalu am y polisi.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth ei fod yn "arian y gallwn ei fforddio" wrth gyhoeddi'r cynlluniau fis Hydref diwethaf.

Cysylltwch â ni

Dy Lais, Dy Bleidlais

Nid yw'r Gwyrddion na'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cyhoeddi maniffestos eto chwaith, ond maen nhw wedi awgrymu y bydden nhw'n disodli treth cyngor ac – os oes angen – yn rhoi ceiniog ar dreth incwm i dalu am ofal cymdeithasol, yn y drefn honno.

Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi rhybuddio nad yw cynlluniau Reform yn "wynebu" realiti treth a gwariant ar gyfer llywodraeth nesaf Cymru yn llawn.

Dywedodd hefyd y gallai cynlluniau'r Ceidwadwyr arwain at doriadau sylweddol i wasanaethau cyhoeddus ac y gallai cynlluniau treth incwm Llafur adael y blaid heb lawer o le i addasu pethau.

Bydd Cymru'n pleidleisio ar 7 Mai dan system newydd o gynrychiolaeth gyfrannol, sy'n disgwyl gwobrwyo pleidiau'n fwy cywir am y ganran o'r bleidlais y maent yn ei hennill.

Mae'r Senedd yn ehangu o 60 i 96 o seddi a bydd 16 etholaeth newydd, gyda phob un yn darparu chwe aelod o'r Senedd.

Ni ddisgwylir i unrhyw blaid ennill mwyafrif, sy'n golygu y gallai fod cyfnod o negodi i lunio cytundeb llywodraethu.

Bydd pleidleisiau'n cael eu cyfrif ar 8 Mai.