Llafur yn addo rhewi cyfraddau treth incwm wrth lansio eu maniffesto

- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd Llafur Cymru, Eluned Morgan, wedi addo rhewi cyfraddau treth incwm yng Nghymru os yw ei phlaid yn ennill etholiad y Senedd ym mis Mai.
Ers 2019 mae gweinidogion Cymru wedi gallu cynyddu neu leihau'r tair cyfradd o dreth incwm yng Nghymru ond erioed wedi gwneud hynny.
Mae Eluned Morgan, yn ystod cyhoeddi maniffesto ei phlaid i bleidleiswyr wedi dweud ei bod yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw "a rhoi arian yn ôl ym mhocedi'r bobl".
Mi fydd y bleidlais yn cael ei chynnal ar 7 Mai i ddewis 96 aelod ar gyfer Senedd Cymru.
Ar hyn o bryd, mae hawl gan Weinidogion Cymru newid y cyfraddau o fewn tri band treth sydd wedi'u gosod gan lywodraeth y DU.
Ond nid oes ganddyn nhw'r pwerau dros lefelau'r incwm y mae'n rhaid i bobl dalu'r cyfraddau gwahanol o dreth.
Mae treth incwm wedi cael ei osod ar 20% i bobl sy'n ennill rhwng £12,571 a £50,270.
Mae enillion rhwng £50,271 a £125,140 yn cael eu trethu ar gyfradd o 40%.
Ac mae cyfradd ychwanegol o 45% ar gyfer incwm dros £125,140.
Mae gan Lywodraeth Cymru a'r Senedd bŵer dros 10 pwynt canran o bob cyfradd treth incwm.
Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn dweud eu bod yn rhagweld y byddai cyfraddau treth incwm Cymru yn codi £3.6bn yn y flwyddyn 2025-26.
'Gwneud bywyd bob dydd ychydig yn haws'
Wrth i Eluned Morgan ddatgelu maniffesto etholiad ei phlaid yn Abertawe ddydd Llun dywedodd y bydd rhewi treth incwm yn rhan o ffocws Llafur Cymru er mwyn "mynd i'r afael â chostau byw a rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl".
Dywedodd wrth gynulleidfa o aelodau'r blaid ac ymgeiswyr: "Heddiw, rwy'n gwneud addewid clir i bobl Cymru: yn nhymor nesaf y Senedd, ni fydd Llywodraeth Lafur Cymru yn codi treth incwm.
"Mae tegwch yn dechrau gyda deall y pwysau y mae teuluoedd yn ei wynebu, ond mae tegwch hefyd yn golygu gweithredu.
"Mae'r maniffesto hwn yn darparu cymorth go iawn gyda chostau byw. Byddwn yn gosod cap o £2 ar brisiau bws sengl ledled Cymru, byddwn yn cadw'r prisiau o £1 i bobl ifanc a theithio am ddim i bobl dros 60 oed, a byddwn yn creu 20,000 o leoedd gofal plant newydd, gan ehangu'r ddarpariaeth o naw mis oed fel y gall teuluoedd weithio a byw.
"Oherwydd mae tegwch yn golygu - gwneud bywyd bob dydd ychydig yn haws."
Fe wnaeth hi hefyd siarad am gynlluniau i greu swyddi, buddsoddi £4bn i adeiladu ysbytai newydd, mynd i'r afael â materion amgylcheddol a chodi safonau ysgolion.
Ar 7 Mai mi fydd pleidleiswyr ar draws Cymru'n mynd i'r polau i ethol 96 o aelodau, sydd wedi cynyddu o 60, o 16 etholaeth newydd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.