BBC yn tynnu'n ôl o gynhyrchu rhaglen Clwb Rygbi i S4C

Y Clwb RygbiFfynhonnell y llun, S4C
  • Cyhoeddwyd

Mae'r BBC wedi cadarnhau na fydd yn cynhyrchu rhaglen Clwb Rygbi ar gyfer S4C o ddiwedd y tymor hwn.

Daw'r newid yn sgil costau partneriaeth a gyhoeddwyd ym mis Ionawr eleni i hyrwyddo cynnwys S4C ar BBC iPlayer, yn ôl BBC Cymru.

Dywed S4C na fydd y newid yn effeithio ar wylwyr y rhaglen.

Bydd y sianel yn cynnal proses dendro i gwmnïau annibynnol er mwyn parhau â'r ddarpariaeth o dan gontract y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.

Eglurodd BBC Cymru fod costau'r datblygiadau newydd ar iPlayer yn golygu y bydd yn cynhyrchu llai o gynnwys teledu ar gyfer S4C o fis Medi ymlaen.

Dywedodd bod y bartneriaeth, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr, yn golygu y bydd cynnwys Cymraeg S4C yn ymddangos yn amlach ar hafan iPlayer yng Nghymru, gyda rhai rhaglenni mawr yn cael eu hyrwyddo ledled y DU am y tro cyntaf.

Ychwanegodd BBC Cymru, er mwyn ariannu'r newidiadau hyn o fewn y gyllideb bartneriaeth strategol, bydd y BBC yn dod â'i gyfraniad i rai cynyrchiadau i ben, gan gynnwys darllediadau rygbi byw'r Bencampwriaeth Rygbi Unedig.

Ar hyn o bryd mae'r BBC yn darparu o leiaf 520 awr o raglenni i S4C bob blwyddyn fel rhan o'i gytundeb, ond bydd hynny'n lleihau o ganlyniad i'r newidiadau.

Bydd BBC Cymru yn parhau i gynhyrchu rhaglenni gan gynnwys Pobol y Cwm, darllediadau'r Eisteddfod Genedlaethol a chynnwys newyddion.

Deellir na fydd y broses gomisiynu newydd ar gyfer Clwb Rygbi yn effeithio ar gyfresi rheolaidd eraill S4C.

Dywedodd S4C mewn datganiad y bydd "yn cynnal proses dendro ar gyfer blwyddyn o hawliau darlledu sy'n parhau o dan gontract y Bencampwriaeth Rygbi Unedig, gan wahodd cwmnïau cynhyrchu annibynnol i wneud cais tendro".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig