Ymgeisydd Reform wedi beio NATO am ryfel Rwsia yn Wcráin

John ClarkFfynhonnell y llun, Facebook/Reform UK Bangor Conwy Môn
Disgrifiad o’r llun,

Mae John Clark yn ail ar restr Reform yn etholaeth Bangor Conwy Môn

  • Cyhoeddwyd

Dywedodd ymgeisydd Reform ar gyfer etholiad y Senedd fod NATO yn defnyddio'r rhyfel yn Wcráin "fel esgus" i roi pwysau ar Rwsia [bleed Russia dry].

Mae John Clark, sy'n ail ar restr Reform yn etholaeth Bangor Conwy Môn, hefyd wedi honni nad oedd y rhyfel "erioed am Crimea na'r Donbas".

Beirniadodd gynghrair amddiffynnol NATO, gan ddweud ei fod yn amau y byddai'r rhyfel wedi digwydd o gwbl pe na bai'r gynghrair wedi ehangu i ddwyrain Ewrop.

Mae gwleidyddion Llafur a'r Ceidwadwyr wedi galw am ei dynnu o'r rhestr ymgeiswyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cwestiynu gwerthoedd ymgeiswyr Reform.

Dywedodd llefarydd Reform bod "cyfundrefn greulon Putin yn haeddu cael ei beirniadu yn y modd cryfaf posib", a bod rhyfel Rwsia yn Wcráin yn "anghyfreithlon a direswm".

Mewn sylwadau eraill, dywedodd Clark fod Rishi Sunak yn casáu pobl Prydain "yn fwy na Putin".

Rhoddodd ganmoliaeth i Putin hefyd am ei gyfweliad gyda'r newyddiadurwr o'r UDA, Tucker Carlson.

Mewn un neges, awgrymodd Clark fod Putin yn "ddieuog" o ladd Alexei Navalny, gwrthwynebydd gwleidyddol yn Rwsia.

Ar ôl i'r BBC ofyn iddo am y sylwadau, dywedodd ei fod "wrth gwrs" yn credu bod Vladimir Putin yn gyfrifol am farwolaeth Navalny, a'i fod yn gwneud "jôc" am wleidydd Prydeinig.

Yn etholiad y Senedd eleni, gall pleidiau enwebu hyd at chwe ymgeisydd fesul sedd.

Mae'r cyntaf a'r ail ar y rhestr fel arfer â'r siawns orau o gael eu hethol. Mae hynny'n golygu bod gan Clark siawns o ennill sedd.

Mae NATO yn gynghrair amddiffynnol a ddaeth i fodolaeth ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Nid yw Wcráin yn aelod, er ei bod wedi gwneud cais.

Mewn neges ar X yn Ionawr 2023, dywedodd Clark: "Nid oedd y rhyfel hwn erioed am Crimea na'r Donbas.

"Mae NATO eisiau gwaedu Rwsia'n sych ac mae'n hapus defnyddio Wcráin fel esgus."

Yn Rhagfyr 2023, ysgrifennodd: "Dwi'n amau y byddai'r rhyfel wedi digwydd pe na bai NATO yn gwthio mewn i ddwyrain Ewrop."

Mae NATO wedi dweud dro ar ôl tro mai amddiffyn yw ei bwrpas. Mae Putin wedi dadlau ers blynyddoedd bod ehangu'r gynghrair yn fygythiad.

PutinFfynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o’r llun,

Mewn datganiad dywedodd John Clark nad oedd yn cefnogi Putin, ond yn gwneud jôc gyda'i sylwadau

Yn Chwefror 2024, dywedodd Clark ar X fod y prif weinidog ar y pryd, Rishi Sunak, "yn casáu pobl Prydain yn fwy na Putin".

Mewn ymateb i fideo gan Tucker Carlson am ei gyfweliad â Putin, dywedodd Clark: "Siarad yw'r cam cyntaf tuag at heddwch. Diolch Tucker Carlson. Diolch Mr Putin."

Bu farw Alexei Navalny, gwleidydd amlwg yn Rwsia, yn y carchar ym mis Chwefror 2024. Roedd wedi ei garcharu am 19 mlynedd ar gyhuddiadau sy'n cael eu hystyried fel rhai gwleidyddol.

Ar ddiwrnod ei farwolaeth, dywedodd David Cameron fod "Putin yn atebol".

Ymatebodd Clark gyda'r geiriau: "Pan ddechreuodd David Cameron siarad, ro'n i'n gwybod fod Putin yn ddieuog."

Galw am ei dynnu o'r rhestr

Mae John Clark wedi cyfeirio ymholiadau gan BBC Cymru at swyddogion y wasg Reform.

Mewn datganiad drwy law'r blaid, dywedodd Clark: "Wrth gwrs bod Putin yn unben creulon ac ef a'i lywodraeth wnaeth ladd Navalny. Roeddwn i'n gwneud jôc am David Cameron."

Mae'r DU a chynghreiriaid Ewropeaidd yn credu bod Navalny wedi cael ei wenwyno, gan roi bai ar lywodraeth Rwsia.

Dywedodd Mick Antoniw, AS Llafur dros Bontypridd, y dylai Clark "gael ei dynnu o'r rhestr" gan ychwanegu ei bod yn "annirnadwy" y byddai ymgeisydd "pro-Putin" yn cael croeso i'r Senedd.

Yn ôl arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds, mae'r sylwadau yn "frawychus" ac yn codi cwestiynau am farn a gwerthoedd y rhai sy'n ceisio swydd etholedig dros Reform.

Galwodd Janet Finch-Saunders, sydd hefyd yn sefyll yn etholaeth Bangor Conwy Môn, arno i gamu i lawr: "Mae'r sylwadau yma'n achos pryder ac yn codi cwestiynau am farn rhai o fewn Reform tuag at gyfundrefn Putin."

Mae nifer o ymgeiswyr Reform wedi ymddiswyddo yn y dyddiau diwethaf, tra bod Plaid Cymru hefyd wedi colli ymgeisydd yr wythnos ddiwethaf oherwydd negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae disgwyl i'r prif bleidiau i gyd gynnig ymgeiswyr ym Mangor Conwy Môn. Bydd y rhestrau llawn o ymgeiswyr yn cael eu cyhoeddi yr wythnos nesaf.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.