Pentrefwyr yn 'falch' o'u gwaith i ddiddymu polisi ail gartrefi Gwynedd

AbersochFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Abersoch ym Mhen Llŷn yn gyrchfan boblogaidd gyda thwristiaid

  • Cyhoeddwyd

Mae grŵp o bentrefwyr ym Mhen Llŷn wnaeth frwydro'n llwyddiannus yn erbyn polisi Cyngor Gwynedd ar ail gartrefi yn dweud eu bod yn falch o'u "moment Dafydd yn erbyn Goliath".

Tua 18 mis yn ôl fe wnaeth y cyngor gymryd yr hyn a alwodd yn "gam rhagweithiol" i gyfyngu ar nifer yr ail gartrefi yn yr ardal.

Roedden nhw'n gobeithio helpu pobl leol a oedd yn cael eu prisio allan o'r farchnad drwy gyflwyno deddfwriaeth sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i berchnogion tai yn y sir gael caniatâd cynllunio cyn troi eiddo preswyl yn ail gartref.

Ond dywedodd rhai trigolion Abersoch, sy'n gweld tua 30,000 o ymwelwyr dros yr haf, fod sgil-effeithiau y ddeddfwriaeth - a elwir yn Erthygl 4 - wedi bod yn anodd.

Dywedon nhw fod yn rhaid i grefftwyr chwilio am waith ymhellach i ffwrdd a bod rhai oedd wedi bod yn ymweld â'r ardal ers amser hir ddim yn teimlo croeso.

Cymerodd grŵp ymgyrchu 'Pobl Gwynedd Yn Erbyn Erthygl 4' gamau cyfreithiol yn erbyn Cyngor Gwynedd, ac ym mis Tachwedd 2025 cafodd cyfarwyddyd Erthygl 4 ei ddiddymu.

Cafodd cais Cyngor Gwynedd i apelio yn erbyn y penderfyniad ei wrthod fis diwethaf, a dywedon nhw eu bod yn "hynod siomedig" ac yn ystyried eu camau nesaf.

Ychwanegodd llefarydd ar ran y cyngor eu bod "yn benderfynol o wneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod gan bobl Gwynedd fynediad at gartrefi addas ac i reoli'r nifer sylweddol o ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr yn ein cymunedau".

Enlli Angharad Williams a Laura AllissFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Enlli Angharad Williams a Laura Alliss yn dweud bod twristiaeth yn bwysig i'w hardal leol

Dywedodd Laura Alliss, 38, sy'n byw yn Abersoch, ei bod hi wedi taflu hysbysiad gan y cyngor am Erthygl 4 i'r bin cyn sylweddoli ei fod yn cael effaith ar bawb yng Ngwynedd.

Yn ddiweddarach fe wnaeth hi brynu ail gartref, sy'n cael ei redeg fel llety gwyliau.

Sylweddolodd Enlli Angharad Williams, 29, a gafodd ei magu yn Abersoch, fod Erthygl 4 wedi "effeithio'n fawr" ar ei gallu i ail-forgeisio'r tir roedd hi wedi adeiladu ei thŷ arno, pan gafodd hynny ei gyfuno â chyfyngiad Adran 106, dolen allanol oedd yn bodoli'n barod.

Dyw Enlli ddim yn berchen ar ail gartref.

Fe helpodd y ddau gyfreithiwr sicrhau bod adolygiad barnwrol yn cael ei gomisiynu, ar ôl i grŵp godi £105,000.

Dywedodd Enlli bod ei ffrindiau a'i theulu yn "eithaf blin" i ddechrau ar ôl iddi roi ei henw i lawr fel hawlydd yn erbyn y polisi, nes iddyn nhw ddod i ddeall effaith y sefyllfa.

Disgrifiodd Enlli y cyfnod fel un llawn straen, gan ddweud ei bod hi'n "ecstatig" gyda'r penderfyniad i ddileu'r polisi, gan ychwanegu: "Dwi wir yn falch o'r gymuned.

"Dwi'n meddwl ei fod wedi dangos faint o gymuned sydd ar ôl yma.

"Allwn ni ddim byw heb dwristiaeth yma."

Llŷr Wyn WilliamsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Llŷr fod llawer o'i gyfoedion eisoes wedi gadael am ddinasoedd yn Lloegr oherwydd diffyg swyddi â chyflogau da

Yn ôl data Llywodraeth Cymru yn 2023-2024, Gwynedd oedd â'r gyfran uchaf o ail gartrefi yng Nghymru gydag 8.3%, gyda Sir Benfro yn ail ar 6.5%.

Mae pryderon wedi bod ers tro bod ail gartrefi - sy'n golygu eiddo wedi'i ddodrefnu nad yw'n brif breswylfa'r perchennog - yn codi prisiau ar gyfer pobl leol, yn ogystal â phryderon am yr effaith ar gymunedau Cymraeg.

Ond mae'r sefyllfa'n gymhleth.

Mae Llŷr Wyn Williams, 26 o Abersoch, yn gweithio i fusnes adeiladu ei dad, a dywedodd mai'r sector adeiladu oedd wedi cael ei "tharo galetaf" yn dilyn gostyngiad yn y galw am ailddatblygu eiddo.

Dywedodd fod y sector wedi cael ei gefnogi yn y gorffennol gan brynwyr tai, yn eu hadnewyddu neu'n eu hailadeiladu, ac yn eu gwerthu eto'n gyflym.

Nawr, mae Llŷr ac eraill o'r pentref yn honni bod crefftwyr yn chwilio am waith mewn gwahanol ardaloedd.

AbersochFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Abersoch yn gweld tua 30,000 o ymwelwyr yn ystod misoedd prysuraf yr haf

Yn ogystal ag Erthygl 4, mae Gwynedd yn un o nifer o gynghorau Cymru sy'n codi premiwm treth gyngor o 150% ar ail gartrefi, ar ôl cynyddu hyn o 100% yn 2023.

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos fod prisiau tai yn y sir wedi gostwng mwy na 12% flwyddyn ar flwyddyn.

Dywedodd Llŷr fod llunwyr polisi wedi camddeall beth oedd yn cadw cymunedau Cymraeg eu hiaith yn fyw.

"Oni bai bod y swydd honno yma gyda chyflog cystadleuol, fyddwn i ddim wedi aros," meddai.

Dywedodd Llŷr ei fod yn gobeithio y byddai'r cyngor nawr yn gweithredu mwy o bolisïau "o blaid busnes".

Dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod wedi darparu mwy na £3m mewn cyllid i gwmnïau lleol yn ystod y tair blynedd diwethaf i'w helpu i fuddsoddi ar gyfer y dyfodol.

'Rhyfel yn erbyn twristiaeth'

Mae Robert Middleton, 60, wedi byw yn Abersoch ers 25 mlynedd ar ôl arfer ymweld â'r pentref gyda'i deulu bob haf pan oedd yn blentyn.

Mae Mr Middleton, sy'n rhedeg tafarn a deli, yn honni fod yna "ryfel yn erbyn twristiaeth" a bod gwaith i grefftwyr yn "dechrau prinhau'n araf" gan nad oes gan berchnogion ail gartrefi "yr arian i'w wario".

"Yn y pendraw, y swyddi sy'n cael eu taro," meddai.

Dywedodd ei bod hi'n "dod yn anoddach" i drigolion wneud bywoliaeth a'i fod yn credu bod diddymu Erthygl 4 yn "foment Dafydd a Goliath" i ymgyrchwyr.

Mae Leigh Hookes, 52, wedi bod yn berchen ar fwyty Mecsicanaidd Mañana yn Abersoch ers 31 mlynedd ac mae ei deulu wedi byw yn y pentref ers cenedlaethau.

Dywedodd fod perchnogion ail dai yn gwario "miliynau o bunnoedd".

Dywedodd fod Erthygl 4 wedi cymryd rheolaeth perchnogion ar "beth rydych chi'n ei wneud â'ch eiddo" ac wedi gostwng gwerth ei dŷ.

Er bod y polisi wedi'i wrthdroi, ychwanegodd: "Mae wedi cael effaith enfawr ar y farchnad dai yma ac mae hynny'n rhwystredig iawn, iawn i ni."

Rhys ElvinsFfynhonnell y llun, Llun cfyrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rhys Elvins o gwmni gwerthu tai Elvins ei fod wedi gweld pobl yn gostwng prisiau eiddo i geisio gwerthu

Dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod wedi "ymrwymo i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy i ddiwallu anghenion tai pobl Gwynedd".

Dywedodd y cyngor fod mwy na 4,000 o bobl ar y rhestr aros am dai cymdeithasol yn y sir oherwydd "diffyg tai addas i bobl leol".

Mae mwy na 500 o dai fforddiadwy wedi cael eu creu gan gymdeithasau tai, gyda 600 pellach wedi cael eu hadeiladu, eu datblygu neu eu hailddefnyddio drwy Gynllun Gweithredu Tai'r cyngor, a gafodd ei lansio yn 2021, ychwanegodd llefarydd.

Dywedodd yr asiant tai Rhys Elvins, 35, fod Erthygl 4 wedi cyfyngu ar y farchnad ac wedi gweld prisiau "llond llaw" o eiddo yn gostwng, ond ers iddo gael ei ddiddymu dywedodd fod "ychydig o gynnydd" wedi bod.

Craig ab Iago
Disgrifiad o’r llun,

"Mae yna lawer o negyddiaeth, yn enwedig gan bobl fel [y grŵp] 'Pobl Gwynedd'," meddai'r Cynghorydd Craig ab Iago

Ond dywedodd cynghorydd Cyngor Gwynedd, Craig ab Iago, fod diddymu Erthygl 4 yn "siomedig".

"Nid peth emosiynol ydi hyn, dim ond ni yn ceisio rhoi cartref i bobl sydd heb gartrefi," meddai.

Dywedodd fod Cyngor Gwynedd yn gweithio ar "newid y naratif o amgylch hunan-rymuso".

"Dyna beth rydyn ni [ei angen], yn y pen draw, y peth fydd yn ein cael ni allan o'r holl argyfyngau rydyn ni ynddyn nhw ar hyn o bryd yw cymunedau cadarn a chynaliadwy," meddai.

"Mae yna lawer o negyddiaeth, yn enwedig gan bobl fel [y grŵp] 'Pobl Gwynedd', sy'n drueni, oherwydd dyw hynny ddim yn iach i neb."

Fe wnaeth barnwr ddyfarnu nad oedd cabinet Cyngor Gwynedd wedi cael y manylion llawn cyn gwneud eu penderfyniad, a diddymodd Erthygl 4.

Cafodd cais y cyngor i apelio ei wrthod ym mis Chwefror eleni.

Dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod yn "hynod siomedig" gyda dyfarniad diweddar y Llys Apêl, ond eu bod yn parhau i fod yn "ymrwymedig" ac yn "ystyried ein camau nesaf i gyflawni'r nod hwn".

Fe wnaeth ymchwiliad gan y cyngor ganfod, ar gyfartaledd, bod 65.5% o aelwydydd Gwynedd yn cael eu prisio allan o'r farchnad dai.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd eu bod yn "cymryd camau i gynyddu'r ddarpariaeth o dai fforddiadwy, i liniaru effaith y nifer fawr o ail dai a llety gwyliau tymor byr yn ein cymunedau a datblygu'r economi leol i hybu bywoliaeth pobl leol".

'Anfon neges at gynghorau eraill'

Dywedodd Dr Jeff Smith, cadeirydd grŵp cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith, ei fod yn "falch bod Gwynedd yn benderfynol o gyflwyno mesur Erthygl 4".

"Mae arwyddion cynnar yn awgrymu bod prisiau tai wedi bod yn gostwng ar ôl iddo gael ei gyflwyno," ychwanegodd.

"Mae hyn yn beth da, gan ei fod yn caniatáu i bobl leol aros yn yr ardal, mewn sir lle mae 65% o'r boblogaeth wedi'u prisio allan o'r farchnad dai.

"Mae hefyd yn anfon neges at gynghorau eraill sydd wedi bod yn aros i weld canlyniad yr adolygiad barnwrol cyn cymryd camau gweithredu.

"Os bydd Gwynedd yn bwrw ymlaen hyd yn oed ar ôl y penderfyniad, does dim rheswm i gynghorau eraill beidio â dechrau'r broses o'i gyflwyno."

'Argyfwng tai yng Nghymru'

Dywedodd Llywodraeth Cymru "y dylai pawb gael mynediad at gartref da, fforddiadwy i'w brynu neu ei rentu yn eu cymunedau eu hunain".

Ychwanegodd llefarydd: "Rydym yn cymryd camau radical gan ddefnyddio'r systemau cynllunio, eiddo a threthu i gyflawni hyn, fel rhan o becyn cydgysylltiedig o atebion i set gymhleth o faterion."

Dywedodd Plaid Cymru fod "argyfwng tai yng Nghymru", a'u bod wedi amlinellu cynlluniau i gynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol a fforddiadwy.

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig y byddai'r mesurau yng Ngwynedd "yn taro'r union bobl y dylen nhw eu cefnogi, fel masnachwyr lleol, busnesau bach a theuluoedd sydd wrth wraidd y gymuned".

Dywedodd llefarydd ar ran Reform UK ei bod yn "hanfodol" i bobl gael mynediad at dai yn eu cymunedau, a'r ffordd orau o sicrhau hyn yw "ehangu'r cyflenwad".

Mae Llafur Cymru, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Phlaid Werdd Cymru wedi cael cais am sylw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig