Merch 10 oed yn canfod yr acsolotl cyntaf ym Mhrydain tra ar wyliau yng Nghymru

Mae Evie wedi arfer gweld acsolotlod mewn fideos ar-lein ac roedd hi wrth ei bodd ar ôl dal un go iawn - swfenîr go anghyffredin o'i gwyliau yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae merch 10 oed wedi darganfod creadur amffibiaidd eithriadol o brin - y cyntaf i'w weld erioed yn y gwyllt yn y DU - tra ar wyliau yng Nghymru.
Daeth Evie Hill o hyd i acsolotl - math o salamandr - yn llechu dan bont dros Afon Ogwr ger Pen-y-bont ar Ogwr wrth iddi badlo yn y dŵr.
Mae'r creadur amffibiaidd, sydd yr un maint â chath fach, ag ond un cynefin trwy'r byd, sef llyn arbennig yn Mecsico.
Er bod nifer fawr yn byw mewn caethiwed, mae poblogaeth yr acsolotl yn y gwyllt mewn perygl gwirioneddol o ddiflannu.

Roedd yr acsolotl yn llechu yn Afon Ogwr dan bont ger Pen-y-bont ar Ogwr
Daeth Evie o hyd i'r creadur golau gwan brychlyd naw modfedd o hyd dan y Dipping Bridge wedi i rywbeth "tebyg i fat gwyrdd" dynnu ei sylw.
"Wnes i godi fe lan ac roedd yna acsolotl yna," dywedodd.
Doedd ei mam, Melanie, ddim yn credu'r peth i ddechrau.
"Ro'n i'n meddwl ei bod wedi gweld madfall neu rywbeth," dywedodd. "Syndod llwyr oedd gweld ei bod, mewn gwirionedd, yn dal acsolotl."

Dywedodd un arbenigwr bod yr acsolotl yn anghyffredin o fawr ac â marciau trawiadol arno
Roedd anaf ar y creadur, ac wedi'r darganfyddiad fe adawodd y teulu eu gwyliau'n syth.
Mae'r acsolotl bellach yn parhau i wella yn eu cartref yng Nghaerlŷr.
"Wyddwn i ddim eu bod yn gallu tyfu mor fawr," meddai Melanie Hill.
"Rwy' wedi bod yn dweud wrth Evie bod y rhai mae hi'n eu gweld ar YouTube ddim yn bodoli, a dyma fi nawr gydag un yn fy nghegin!"
'Tipyn o gamp i'w weld a'i ddal'
Mae Canolfan Genedlaethol Lles Ymlusgiaid yn cofnodi adroddiadau o rywogaethau estron yn y gwyllt ar ran llywodraeth y DU.
Yn ôl Chris Newman o'r ganolfan, mae'r acsolotl dan sylw yn anghyffredin o fawr ac â marciau trawiadol, ac mae'n debygol bod Evie wedi ei achub rhag cael ei fwyta gan rywogaeth arall yn yr afon.

Mewn acwariwm neu sŵ môr y mae'n bosib gweld acsolotl fel arfer ond maen nhw'n eithriadol o brin yn y gwyllt
"Mae hyn yn sefyllfa unigryw," dywedodd Chris Newman. "Does dim cofnod o acsolotl yn y gwyllt yn y DU o'r blaen.
"Mae gan y ferch ifanc 'ma lygaid craff eithriadol i'w weld.
"Dydw i ddim yn meddwl y byddai wedi byw am hir iawn, felly mi wnaeth wir gymwynas ag e i'w ddal. Mae hynny ynddo'i hyn yn gamp achos maen nhw'n llithrig."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.