Y Blaid Werdd yn gobeithio siapio'r llywodraeth wedi'r etholiad

Mae Zack Polanksi yn dweud y byddai ei blaid yn trafod rheolaethau rhent, gostwng biliau dŵr a disodli'r dreth gyngor gyda'r llywodraeth newydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r Blaid Werdd wedi lansio eu hymgyrch ar gyfer etholiad y Senedd gan ddweud y gallen nhw siapio'r llywodraeth newydd fydd yn cael ei ffurfio.
Mae'r blaid, sy'n gobeithio ennill eu seddi cyntaf erioed yn y Senedd, yn dweud y gallen nhw fod â rôl allweddol mewn penderfynu pwy fydd yn brif weinidog yn gyfnewid am weithredu rhai o bolisïau'r blaid
Dywedodd arweinydd y Blaid Werdd, Zack Polanksi, y byddai ei blaid yn trafod rheolaethau rhent, gostwng biliau dŵr a disodli'r dreth gyngor gyda'r llywodraeth newydd.
Yn y cyfamser, mae rhai o'r blaid wedi cyhuddo Plaid Cymru o beidio â bod yn ddigon "asgell chwith".
Mae'r etholiad yn cael ei gynnal ar 7 Mai.

Zack Polanksi ac Anthony Slaughter yn lansiad yr ymgyrch yng Nghaerdydd
Mae Mark Drakeford o Lafur Cymru wedi dweud y gallai pleidiau asgell chwith uno i atal grŵp Nigel Farage rhag ffurfio llywodraeth.
Y gred yw ei bod yn annhebygol y bydd unrhyw un blaid yn ennill mwyafrif o dan y system bleidleisio newydd ar gyfer etholiad y Senedd, sy'n ceisio adlewyrchu'n well sut mae pobl yn pleidleisio.
Mae'n debyg y bydd angen i bleidiau gael ryw fath o gytundeb cyn gallu ethol prif weinidog. Mae'r Blaid Werdd wedi diystyru gweithio gyda Reform.
Dydyn nhw erioed wedi ennill sedd yn y Senedd - dywedodd un aelod amlwg o'r blaid eu bod nhw'n hyderus y gallen nhw gipio pum sedd - digon i ffurfio grŵp yn y Senedd.
Dywedodd un ymgeisydd, Tessa Marshall, ei bod hi'n credu y gallai'r blaid ennill 10 sedd.
Cymru wedi cael ei 'thwyllo San Steffan'
Dywedodd Zack Polanski, arweinydd y Blaid Werdd, yn ystod y digwyddiad yng Nghaerdydd: "Gallai'r blaid benderfynu pwy fydd y prif weinidog newydd yn yr etholiad.
"Rydyn ni'n gwybod y bydd llywodraeth newydd ym Mae Caerdydd.
"Bydd pob un o'r Blaid Werdd a fydd yn cael ei ethol i'r Senedd yn cynrychioli egwyddorion a pholisïau y blaid - sef rheoli rhent, gwneud yn siŵr ein bod yn gostwng biliau dŵr trwy weithio tuag at berchnogaeth gyhoeddus o'r cwmnïau dŵr, a bargen decach trwy ddiddymu'r dreth gyngor a'i disodli â threth gwerth tir."
Dywedodd fod arolygon barn yn dweud y gallai'r blaid ennill "pump, chwech efallai hyd yn oed mwy o seddi... yn dibynnu ar ba arolwg barn rydych chi'n ei gredu".
Mae Cymru wedi cael ei "thwyllo gan lywodraeth San Steffan dro ar ôl tro".
"Dro ar ôl tro nid yw Cymru wedi cael y gefnogaeth, yr arian, na'r pwerau sydd eu hangen arni"

"Dyw ein polisïau gwleidyddol erioed wedi bod mor angenrheidiol," meddai Anthony Slaughter.
Dywedodd arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, Anthony Slaughter, y bydd ei blaid "yn penderfynu ac yn llywio cyfeiriad llywodraeth nesaf Cymru".
"Mewn cyfnod o argyfwng costau byw, dirywiad natur ac anhrefn hinsawdd, nid yw ein llais, ein polisïau gwleidyddol erioed wedi bod yn fwy angenrheidiol," meddai.
Pan ofynnwyd iddo pam y dylai pleidleiswyr asgell chwith gefnogi'r Blaid Werdd yn hytrach na Phlaid Cymru, os oes gan Plaid well siawns o ennill yr etholiad, dywedodd Mr Slaughter mai'r Blaid Werdd ydy'r "unig blaid asgell chwith yng Nghymru".
"Cael y llais radical chwith hwnnw yn y Senedd, gan wthio llywodraeth nesaf Cymru i'r cyfeiriad cywir," meddai.
Dywedodd Tessa Marshall, ymgeisydd yn yr etholiad: "Nid plaid asgell chwith yw Plaid Cymru. Efallai eu bod nhw'n smalio bod.
"Ond rydyn ni'n gwybod bod craidd eu polisïau efallai ychydig yn fwy tuag at y canol nag y byddai rhai pobl yn ei hoffi," meddai, gan gyhuddo Plaid o fod "eisoes wedi cefnu rywfaint ar Sero Net".
Mae'r Blaid Werdd o blaid annibyniaeth i Gymru. Dywedodd Zack Polanski mai "mater i bobl Cymru ydi o a nid fi sy'n gyfrifol am benderfynu".
Dywedodd Mr Polanski a Mr Slaughter nad yw annibyniaeth ddim yn broblem yn yr etholiad.
Dywedodd Mr Slaughter: "Ar hyn o bryd mae'n edrych fel na fydd gan unrhyw blaid fwyafrif llwyr.
"Plaid Cymru a Reform fydd y ddwy blaid fwyaf rydyn ni'n tybio ond bydd angen cefnogaeth arnyn nhw i ffurfio llywodraeth.
"Ond nid yw cefnogaeth gan y Blaid Werdd yn y dyfodol yn dod am ddim.
"Dydyn ni ddim yno i gefnogi plaid. Rydyn ni yno i gyflawni'r addewidion rydyn ni'n eu gwneud i bobl Cymru."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.