Gwagio 14 o dai ger clwb golff yn Y Rhondda oherwydd tân gwair

Roedd y fflamau'n ymestyn dros dair milltir yn ôl y gwasanaeth tân
- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid i breswylwyr 14 o dai yn Rhondda Cynon Taf eu gadael dros nos wrth i griwiau tân ddelio â thân gwair mawr.
Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, roedd y fflamau'n dair milltir o hyd ger Clwb Golff Y Rhondda ym Mhont-y-gwaith, ger Glynrhedynog.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw yna tua 23:40 nos Fercher ac fe gafodd tai cyfagos eu gwagio yn fuan wedi hynny.
Yn ôl un o'r preswylwyr roedd coed yn eu gardd ar dân.
Fe gafodd cyfanswm o 12 o gerbydau'r gwasanaeth tân a thanciau dŵr symudol eu hanfon i'r ardal i ddiffodd y fflamau ac roedd preswylwyr yn ôl yn eu tai erbyn 04:00.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.