Ysgrifennydd Cymru yn 'difrodi Cymru' yn ôl cyn-brif ysgrifennydd preifat

Llun o'r ysgrifennydd Jo Stevens yn cerdded allan yn gafael ar ffeil goch. Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Jo Stevens yw ysgrifennydd presennol Cymru, swydd a grëwyd yn y 1960au

  • Cyhoeddwyd

Mae Ysgrifennydd Cymru Jo Stevens yn "difrodi Cymru" yn ôl Des Clifford, cyn-brif ysgrifennydd preifat i Brif Weinidogion Cymru, Carwyn Jones a Mark Drakeford.

Wrth siarad ar bodlediad Gwleidydda, dywedodd: "Mae'n well cael neb na rhywun sydd yn difrodi Cymru fel sy'n digwydd ar hyn o bryd."

Daw ei sylwadau ar ôl i Brif Weinidog Cymru, Eluned Morgan ddadlau bod angen swydd ysgrifennydd Cymru – hwn ar ôl i Cyn-Gwnsler Cyffredinol Cymru, Mick Antoniw ddweud bod angen cael gwared ar y swydd.

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Cymru, cangen o Lywodraeth y DU, eu bod - ynghyd ag ysgrifennydd Cymru - "yn cyflawni rôl hanfodol yn cynrychioli buddiannau Cymru o fewn y DU ac o amgylch bwrdd y Cabinet".

Yn ôl y llefarydd mae hynny yn golygu "helpu i sbarduno twf economaidd, annog buddsoddiad mewnol a sicrhau bod y setliad datganoli yn gweithredu'n gywir i bobl Cymru".

Dywedodd y cyn ysgrifennydd preifat ei fod "wedi bod o'r un farn o'r cychwyn cyntaf" ar ôl iddo gael ei gwestiynu ynglŷn ag os oes angen swydd ysgrifennydd Cymru.

"Yr unig reswm pam bod yna ysgrifennydd cymru yw achos bod yna rywun sy'n chwifio fflag Cymru o gwmpas bwrdd y cabinet," ychwanegodd Mr Clifford.

'Pobl ddim yn cymryd Swyddfa Cymru o ddifrif'

Wrth gael ei holi gan Bethan Rhys Roberts, fe gyfeiriodd yr Athro Richard Wyn Jones at y ffaith bod yr ysgrifennydd Cymru presennol, Jo Stevens, yn gwrthod gwneud cyfweliadau ac "felly tydi hi ddim yn cynrychioli'r cabinet yng Nghymru.

"Y gwir amdani, ac efallai bydd pobl ddim eisiau cydnabod hyn, siŵr o fod swyddfa Cymru ydi'r swyddfa leiaf pwysig," meddai.

"Tydi pobl ddim yn cymryd Swyddfa Cymru o ddifri' ac mae hynny'n creu problem strwythurol.

"Un o'r pethau sy'n fy nharo i dro ar ôl tro ac wrth siarad hefo gweision sifil ydi cyn lleied maen nhw'n ei ddeall am Gymru."

Yr Athro Richard Wyn Jones yn gwenu.
Disgrifiad o’r llun,

"Tydi pobl ddim yn cymryd Swyddfa Cymru o ddifri' ac mae hynny'n creu problem strwythurol," meddai Yr Athro Richard Wyn Jones

Y datrysiad yn ôl Richard Wyn Jones yw "creu swyddfa diriogaethol yn Whitehall sydd yn swyddfa hefo statws go iawn a gweinidog sydd yn cyfri."

Mae Eluned Morgan yn rhybuddio y dylai swydd Ysgrifennydd Cymru fod yn llais i Gymru wrth fwrdd y cabinet yn Llundain - yn hytrach na llais llywodraeth y Deyrnas Unedig yng Nghymru.

Dywedodd Des Clifford fod Eluned Morgan mewn "sefyllfa anodd dros ben" gan fod Llafur yn Llywodraethu y Deyrnas Unedig a Chymru.

"Allith hi ddim troi cefn ar y blaid Lafur yn San Steffan," meddai.

Gydag etholiad Senedd Cymru ym mis Mai yn prysur agosáu, fe ddwedodd bod "rhywfaint o densiwn yn anochel rhwng Bae Caerdydd a San Steffan."

Disgrifiad,

Des Clifford yn siarad ar bodlediad Gwleidydda

Mae'r cyn gwnsler Cyffredinol Mick Antoiw wedi cwestiynu a oes angen y swydd o fod yn ysgrifennydd Cymru.

Mewn cyfweliad â BBC Radio Wales Breakfast, dywedodd Antoniw hefyd fod Swyddfa Cymru - ysgrifennydd gwladol adran Cymru yn San Steffan - yn "sefydliad cyn datganoli" ac nad oedd angen ysgrifennydd Cymru mwyach.

Mae Jo Stevens wedi bod yn ysgrifennydd gwladol Cymru ers mis Gorffennaf 2024. Cafodd ei phenodi i'r swydd gan y Prif Weinidog Keir Starmer yn dilyn yr etholiad cyffredinol, gan ddod y fenyw gyntaf i fod yn y rôl.

Cafodd y swydd ei greu gan lywodraeth Lafur Harold Wilson ym 1964.

'Sicrhau buddsoddiad cenedlaethau i Gymru'

Wrth ymateb dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Cymru, cangen o Lywodraeth y DU: "Yn ystod y 18 mis diwethaf yn unig, mae Swyddfa Cymru, dan arweiniad yr Ysgrifennydd Gwladol, wedi dyrannu mwy na £100 miliwn mewn cefnogaeth hanfodol i weithwyr dur a'r gymuned ym Mhort Talbot.

"Mae wedi bod yn allweddol wrth sicrhau buddsoddiad cenedlaethau i Gymru gan gynnwys niwclear newydd yn Wylfa ar Ynys Môn, dau barth twf deallusrwydd artiffisial yng ngogledd a de Cymru a biliynau mewn buddsoddiad a fydd yn trawsnewid rheilffyrdd Cymru yn y blynyddoedd i ddod."

Ychwanegodd y llefarydd fod ysgrifennydd Cymru ym Mhort Talbot wythnos yma, "i gyhoeddi mesurau newydd i hybu cynhyrchu dur domestig ac amddiffyn miloedd o swyddi cynhyrchu dur yng Nghymru".