Ffigurau hunanladdiad yn yr heddlu 'ddim yn dangos maint y broblem'

HeddluFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Gallai'r cynnwys isod beri gofid i rai

Mae uwch-swyddog heddlu wedi rhybuddio y gallai'r ffigurau swyddogol ar hunanladdiadau ymhlith swyddogion a staff fod ymhell o adlewyrchu gwir raddfa'r broblem, gan ddisgrifio'r sefyllfa fel "argyfwng".

Mae'r Prif Arolygydd Trystan Bevan, cadeirydd Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru, yn galw am well cofnodi data ar draws y wlad.

Yn ôl Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr (PFEW), bu farw 100 o swyddogion a staff drwy hunanladdiad rhwng 2022 a 2025, ac fe geisiodd mwy na 200 ladd eu hunain.

Fodd bynnag, mae'r Ffederasiwn yn bryderus gan nad oes gofyniad cyfreithiol i gofnodi'r ffigurau hyn.

'Angen gwneud popeth posibl'

Wrth ysgrifennu yng nghylchlythyr Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru, Your Voice, dywedodd y Prif Arolygydd Trystan Bevan fod y ffigurau'n "peri pryder mawr" a bod angen gwneud "popeth posibl i fynd i'r afael â'r argyfwng hwn."

"Yr hyn sy'n fy ngwneud hyd yn oed yn fwy pryderus yw'r diffyg cofnodi gorfodol ledled y wlad oherwydd heb y data ni allwn ddeall maint y broblem yn iawn."

Rhybuddiodd y gallai'r ffigurau swyddogol fod ond yn rhan o'r darlun ar hunanladdiadau ymysg swyddogion a staff.

Mae'r Ffederasiwn yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i gofnodi'r ystadegau ond dywedodd y Prif Arolygydd fod angen dull mwy cydlynol ar lefel genedlaethol.

Pwysleisiodd fod data cywir ac ymddiriedaeth yn hanfodol er mwyn deall achosion yr argyfwng, nodi patrymau a gwella lles aelodau.

"Mae angen data cywir a dibynadwy arnom er mwyn gallu deall y rhesymau dros yr argyfwng presennol yn iawn, i nodi tueddiadau ac i wella lles ein haelodau," meddai.

Gan nad yw'n ofynnol i heddluoedd gofnodi hunanladdiad neu ymgais i ladd ei hunain, nid yw plismona yn cael ei ystyried gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol fel "galwedigaeth risg" neu "occupation of risk".

Mae'r Ffederasiwn wedi amlinellu cynllun chwe phwynt i fynd i'r afael â'r broblem, gan gynnwys galw am gofnodi pob achos a chyfyngu ymchwiliadau camymddwyn i 12 mis.

Mae hefyd yn cynnwys diwygio'r system grwnerol i adlewyrchu ffactorau risg sy'n ymwneud yn benodol â phlismona, a thrin hunanladdiad fel digwyddiad sy'n gysylltiedig â gwaith dan ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch.

Dywedodd y Prif Arolygydd Trystan Bevan, yn y cyfamser, ei fod yn annog aelodau sy'n cael trafferth i siarad ac i chwilio am gymorth.

"Mae plismona yn swydd unigryw, sy'n gallu cael effaith sylweddol ar unigolion," meddai. "Nid yw gofyn am gymorth yn wendid, mae cefnogaeth yno."