'Problemau sylweddol' mewn addysg grefyddol, yn ôl arbenigwyr

Mae arbenigwyr yn rhybuddio am gyflwr addysg grefyddol yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae arbenigwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi codi pryderon am gyflwr addysg grefyddol yng Nghymru, gan rybuddio bod "problemau sylweddol" yn y ddarpariaeth dysgu mewn ysgolion.
Daw hyn yn dilyn adroddiad diweddar gan y corff arolygu Estyn, oedd yn nodi diffyg cydbwysedd a dyfnder mewn gwersi, a phrinder staff sydd â arbenigedd yn y maes.
Mae Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru ym Mhrifysgol Bangor wedi mynegi "pryder difrifol" am y canfyddiadau.
Maen nhw'n yn rhybuddio y gallai'r pwnc edwino ymhellach heb newidiadau, ac yn galw am fwy o gefnogaeth a buddsoddiad.
Dim gwerslyfr Cymraeg i ddysgu pwnc yn 'bryder sylweddol'
- Cyhoeddwyd26 Mai 2024
Addysg Grefyddol gorfodol yn torri hawliau?
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2020
Newid i addysg grefyddol yn 'ynysu' athrawon
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2018
Yn ôl adroddiad Datblygu maes dysgu a phrofiad (MDaPh) y Dyniaethau, a oedd yn seiliedig ar arolygiadau a gynhaliwyd rhwng 2024 a 2025, roedd amrywiaeth fawr yn y ffordd y caiff bynciau'r dyniaethau eu haddysgu mewn ysgolion.
Dywed y pwyllgor fod crefydd, gwerthoedd a moeseg yn "arbennig wedi'u tangynrychioli", gyda "diffyg dysgu proffesiynol penodol i'r pwnc yn cyfyngu ar ddatblygiad staff."
Yn ogystal, mae prinder staff arbenigol a gallu cyfyngedig i ddefnyddio cyfleoedd cyfoethogi'n cael effaith negyddol ar brofiadau disgyblion.
Mewn datganiad, mynegodd Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru "bryder difrifol", gan ychwanegu bod y "canfyddiadau'n cyflwyno darlun clir ac anesmwyth".
Mae hefyd yn rhybuddio: "Yn anochel, mae amser cwricwlwm cyfyngedig yn cyfyngu ar y dyfnder, y cydlyniad a'r uniondeb disgyblaethol y mae gan ddysgwyr hawl i'w profi.
"Mae arolygwyr hefyd yn sylwi nad yw dysgwyr yn cael eu cefnogi i ymgysylltu'n ystyrlon â chymhlethdod."

Dywedodd un o Gyfarwyddwyr Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru fod llai o bobl yn hyfforddi i fod yn athrawon crefydd, gwerthoedd a moeseg
Mewn cyfweliad â rhaglen Newyddion S4C dywedodd un o Gyfarwyddwyr Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru y Dr Gareth Evans-Jones fod llai o bobl yn hyfforddi i fod yn athrawon crefydd, gwerthoedd a moeseg.
Dywedodd hefyd fod blaenoriaethau ysgolion ac agweddau mewnol yn gallu effeithio ar faint o amser a roddir i'r pwnc, gan ychwanegu bod y syniad ei fod yn "bwnc Mickey Mouse" yn anghywir.
Yn ôl Dr Evans-Jones, mae pynciau STEM yn tueddu i gael mwy o sylw, er bod cysylltiadau pwysig rhwng y disgyblaethau hyn a chrefydd a moeseg.
Rhybuddiodd fod perygl y bydd y pwnc yn dirywio ymhellach heb newid, ac y gallai gael ei leihau i fod yn bwnc ymylol o fewn y dyniaethau.
Yn Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam, fodd bynnag, mae athrawon yn dweud bod diddordeb yn y pwnc yn parhau'n gymharol sefydlog.
Eleni, mae pedwar disgybl Lefel A ac wyth yn dilyn y cwrs TGAU, gyda 10 disgybl arall wedi dewis y pwnc ar gyfer TGAU fis Medi.

Dywed Aimie Williams-Burn fod y pwnc yn cael "chwarae teg" yn ei hysgol
Wrth ymateb i'r pryder gan rai fod Addysg Grefyddol yn bwnc ymylol dywedodd Aimie Williams-Burn, Pennaeth Addysg Grefyddol, Ysgol Morgan Llwyd,"'Da ni wastad wedi cael chwarae teg o ran opsiynau a chynnig y cwrs lefel A."
"Er efallai fod gennym ni niferoedd bach, 'da ni wastad yn derbyn disgyblion sydd wir isio 'neud y pwnc ac yn angerddol, gan wybod yn union be' ma' nhw isio ei wneud yn y dyfodol.'
"Mae gennym ni ddisgyblion sydd isio mynd i weithio fel cyfreithwyr, gwaith llys, doctoriaid, ac maen nhw'n gweld fod yna werth yn y pwnc."
"I fi tydio erioed wedi bod yn bwnc hen ffasiwn, ond 'da ni yn trio neud o mor gyfredol ac yn berthnasol o oedran blwyddyn 7 hyd at Lefel A."

Dywed Catrin, sy'n ddisgybl Lefel A, fod camddealltwriaeth am gynnwys y pwnc
Dywedodd Catrin, sy'n dilyn Astudiaethau Crefyddol fel pwnc Lefel A, nad oes digon o ddealltwriaeth o gynnwys y pwnc.
"Mae pawb yn meddwl bo ni jest yn astudio Iesu.
"Dwi'n meddwl mai jest camsyniad o beth yn union ydy'r pwnc ydy'r broblem fwyaf."
Ychwanegodd fod hyn yn gamddealltwriaeth gyffredin sy'n effeithio ar ddewis disgyblion iau.
"Mae fy chwaer ym mlwyddyn naw a dwi wedi bod yn ei gwthio hi i neud Addysg Grefyddol, ond dydy hi ddim yn cael dim ohono fo."

Mae Ariana'n dweud nad oes angen bod yn grefyddol i astudio'r pwnc
Dywedodd disgybl arall, Ariana nad oes angen bod yn grefyddol i astudio'r pwnc, gan bwysleisio ei fod yn helpu i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o fywyd.
"Mae pawb yn gofyn i ni, ydach chi'n grefyddol?" meddai Ariana sydd â'i bryd ar fynd i astudio gradd mewn athroniaeth ym Mhrifysgol Manceinion. "Oes, mae rhai pobol yn grefyddol, ond does dim rhaid."
"Mae'r pwnc jyst yn dod a lefel dyfnach a dealltwriaeth o bob dim dachi'n neud yn eich bywyd."

Dywed Angharad fod y pwnc yn helpu deall gwahanol safbwyntiau
Mae disgybl arall, Angharad o Langollen yn gobeithio mynd i astudio diwynyddiaeth ym Mhrifysgol Durham, ac yn dweud fod astudio Addysg Grefyddol yn gymorth i ddeall am y byd a'i bobol.
"Yn bersonol dwi yn grefyddol, ond dwi actually, really yn mwynhau cael dealltwriaeth gwahanol o bethau." meddai.
"'Da ni'n astudio Bwdhaeth ar y funud, ac mae o mor dda i weld pa mor wahanol ydy eu syniadau nhw i'r ffyrdd traddodiadol 'da ni'n wybod amdanyn nhw."
"Mae o mor bwysig ein bod ni'n gwybod fod yna fwy nag un ffordd o feddwl."