Angen trwydded llety gwyliau ac Airbnb yng Nghymru, ar ôl pasio deddf

Lluniau taiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae dogfennau'r llywodraeth yn cyfeirio at gynnydd mawr mewn llety hunanarlwyo "yn rhannol o ganlyniad i dwf llwyfannau ar-lein fel Airbnb a Booking.com"

GanDaniel Davies
Gohebydd gwleidyddol
  • Cyhoeddwyd

Bydd angen trwydded ar bobl i osod llety gwyliau, gan gynnwys ar lwyfannau fel Airbnb, o dan gyfraith a gafodd ei phasio gan Senedd Cymru nos Fawrth.

Bydd yn rhaid i dai hunanarlwyo, fflatiau a mathau eraill o lety fel cabanau, fodloni safonau diogelwch.

Nid yw ystafelloedd sbâr wedi'u cynnwys, ond gallent gael eu cynnwys yn y dyfodol.

Bydd y gyfraith, a gafodd ei llunio fel rhan o gytundeb rhwng llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru, yn amddiffyn "enw da" Cymru fel cyrchfan gwyliau, meddai gweinidogion.

Pasiodd aelodau'r Senedd y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) yn unfrydol nos Fawrth.

Er mwyn cael trwydded, bydd angen i ddarparwyr brofi bod eu llety yn addas ar gyfer ymwelwyr, trwy ddangos bod ganddynt dystysgrifau diogelwch nwy a thrydan, larymau carbon monocsid, yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, a'u bod wedi cynnal asesiad risg diogelwch tân a chymryd rhagofalon perthnasol.

Dywedodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, bod pasio'r bil yn "gam sylweddol tuag at ddenu ymwelwyr i Gymru, gan wybod bod llety o safon yn eu disgwyl".

Mae'n dilyn polisi sy'n caniatáu creu treth dwristiaeth, y byddai'n rhaid gwario'r elw ohoni ar bethau fel toiledau cyhoeddus a chynnal a chadw traethau.

Dywedodd Drakeford y bydd y ddau bolisi yn sicrhau "bod twristiaeth Cymru yn cadw ei henw da o safon fyd-eang a bod ein heconomi ymwelwyr yn parhau i dyfu mewn ffordd sy'n cefnogi ac yn gwella'r cymunedau y mae'n dibynnu arnynt".

Mae dogfennau'r llywodraeth yn cyfeirio at gynnydd mawr mewn llety hunanarlwyo "yn rhannol o ganlyniad i dwf llwyfannau ar-lein fel Airbnb a Booking.com".

Mae'r cynllun trwyddedu yn debygol o ddechrau yn 2029 a bydd yn adeiladu ar y gofrestr genedlaethol o ddarparwyr llety ymwelwyr i greu cyfeiriadur cyhoeddus o lety ymwelwyr.

Daeth cynllun trwyddedu ar gyfer llety tymor byr fel Airbnb i rym yn yr Alban yn 2022.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.