Chwe Gwlad: Alisha Joyce yng ngharfan Cymru wedi genedigaeth mab

Alisha Joyce's last Test match was against Japan in WXV2 in October 2024
- Cyhoeddwyd
Mae Alisha Joyce wedi cael ei chynnwys yn y garfan ar gyfer gêm nesaf tîm rygbi merched Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad - bum mis yn unig wedi iddi roi genedigaeth i'w mab Ralphie.
Mae'r blaenasgellwr ymhlith yr eilyddion y mae'r prif hyfforddwr, Sean Lynn, wedi eu henwi ar gyfer yr ornest oddi cartref yn erbyn Lloegr yn Ashton Gate brynhawn Sadwrn.
Mae'r gêm yn erbyn y pencampwyr Chwe Gwlad presennol a phencampwyr y byd yn cael ei chynnal 562 o ddiwrnodau ers y tro diwethaf iddi a'i chymar, yr asgellwr Jaz Joyce, chwarae dros Gymru gyda'i gilydd.
Dywedodd Lynn ei bod â bob ffydd ynddi, er taw ond hanner awr o rygbi y mae hi wedi chwarae hyd yma y tymor hwn gyda'r Bristol Bears yn yr Her Celtaidd.

Yn absenoldeb Kate Williams (chwith) trwy anaf, Bethan Lewis (dde) fydd capten Cymru brynhawn Sadwrn
Mae'r mewnwr Keira Bevan yn dychwelyd i'r 15 a fydd yn dechrau'r gêm ddydd Sadwrn, wedi i'w lle fynd i Seren Lockwood penwythnos diwethaf.
Fe fydd Branwen Metcalfe yn dechrau gêm i'w gwlad am y tro cyntaf, yn absenoldeb y capten Kate Williams trwy anaf, ac fe fydd Bethan Lewis yn arwain y tîm.
Fe allai'r asgellwr Catherine Richards wneud ei hymddangosiad cyntaf yn yr ymgyrch o'r fainc gan fod Carys Cox yn gwella wedi anaf wrth hyfforddi.
Mae Cymru ym mhumed safle'r tabl gyda phwynt yn unig ar ôl colli o 19-24 i'r Alban ac yna o 7-38 yn erbyn Ffrainc, gyda'r ddwy gêm yn cael eu chwarae yng Nghaerdydd.
Tîm Cymru
Powell; Singleton, Dallavalle, Keight, J Joyce; George, Bevan; Pyrs, Jones, Tuipulotu, Aiono, Crabb, Metcalfe, Lewis (capten), King.
Eilyddion: Reardon, Davies, Rose, Evans, A Joyce, Lockwood, De Vera, Richards
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.