Jane Dodds heb ymuno ag Ed Davey yn ystod ei ymweliad â Chaerdydd

Mae'r berthynas rhwng y ddau wedi bod dan straen ers i Ed Davey ofyn i Jane Dodds ystyried ei rôl dros y modd y gwnaeth hi ddelio ag achos o gam-drin rhywiol pan oedd hi'n gweithio i Eglwys Loegr
- Cyhoeddwyd
Doedd arweinydd Cymreig y Democratiaid Rhyddfrydol, Jane Dodds, ddim yn bresennol, pan ddaeth arweinydd ei phlaid Ed Davey i Gaerdydd ddydd Gwener i gefnogi'r ymgyrch ar gyfer etholiad y Senedd.
Mae'r berthynas rhwng y ddau wedi bod dan straen ers i Ed Davey ofyn i Jane Dodds ystyried ei rôl dros y modd y gwnaeth hi ddelio ag achos o gam-drin rhywiol pan oedd hi'n gweithio i Eglwys Loegr.
Dywedodd Ms Dodds nad oedd hi'n gallu cwrdd â'r AS gan fod digwyddiad arall ganddi'r diwrnod hwnnw, gan ddweud bod ymweliad Ed Davey wedi'i drefnu ar "y funud olaf un".
Yn ôl cyfryngau cymdeithasol y Democratiaid Rhyddfrydol, fe wnaeth Ed Davey gwrdd â phrif ymgeiswyr y brifddinas mewn digwyddiad yng Nghaerdydd, a deallir ei fod hefyd wedi bod yn ymgyrchu yn y ddinas.
Doedd BBC Cymru ddim wedi derbyn gwahoddiad i'r digwyddiad.
Ymweliad Davey 'yn funud olaf iawn'
Doedd yr arweinydd yng Nghymru ddim yn barod i ddatgelu cyflwr y berthynas, pan gafodd ei chyfweld ar raglen Breakfast BBC Radio Wales ddydd Mawrth.
"Mae fy mherthynas ag unrhyw un yn fater preifat. Dydw i ddim am siarad am hynny," meddai.
"Mae Ed a minnau'n canolbwyntio ar drechu Reform. Rydym ni'n rhannu ein hangerdd dros ofal cymdeithasol.
"Mae Ed wedi arwain ar hyn yn Senedd y DU ers llawer iawn of flynyddoedd, o'i brofiadau ei hun, ac rydym ni nawr yn arwain ar hynny yma yng Nghymru."
Wrth drafod yr ymweliad, dywedodd: "Roedd Ed Davey yma, roedd yng Nghaerdydd, fe wnaeth o gyfarfod â'r ymgeisydd yng Nghaerdydd, aeth am dro bach o amgylch Caerdydd yn cwrdd â busnesau a thrigolion."
"Doeddwn i ddim yno," meddai.
"Roedd gen i ymrwymiad y diwrnod yna, roedd yn funud olaf iawn, cafodd ei drefnu munud olaf iawn a doeddwn i ddim yn gallu bod yno, ond rwy'n deall bod yr ymweliad wedi mynd yn dda iawn a'i fod wedi gallu siarad am ofal cymdeithasol ac efo busnesau lleol."

Ni fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn gweithio gyda phlaid sy'n gwario arian cyhoeddus ar annibyniaeth yn y Senedd nesaf yn ôl Jane Dodds
Mae fideo ar Facebook yn dangos Ed Davey yn cwrdd ag ymgyrchwyr y Democratiaid Rhyddfrydol, gan gynnwys eu prif ymgeiswyr yng Nghaerdydd Penarth a Chaerdydd Ffynnon Taf, Cadan ap Tomos a Rodney Berman.
Mae'r blaid yn gobeithio rhoi hwb i'w chynrychiolaeth o'r unig sedd yr oedd ganddyn nhw yn y Senedd ddiwethaf, ac maen nhw wedi bod yn glir bod ceisio atal annibyniaeth Cymru yn un o'u negeseuon allweddol yn yr ymgyrch,
Maen nhw'n credu bod ganddyn nhw obaith o ethol cymaint â phum Aelod o'r Senedd yn yr etholiad ar 7 Mai.
Does yna'r un blaid yn debygol o ennill mwyafrif ar hyn o bryd, yn ôl arolygon barn, ac mae'n debygol y bydd yn rhaid i wleidyddion gydweithio er mwyn ffurfio llywodraeth.
Mae'r blaid yn dweud nad fydden nhw'n caniatáu i "geiniog" gael ei gwario ar yr achos dros annibyniaeth.
Wrth lansio ei maniffesto, gwrthododd Jane Dodds â dweud a fyddai'n cefnogi pleidiau eraill i atal Dan Thomas, arweinydd Reform, rhag dod yn brif weinidog, oherwydd y llinell goch yma.
Ar Radio Wales, dywedodd na fyddai'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn gweithio gyda Phlaid Reform na'r Ceidwadwyr.
Yn hytrach dywedodd y byddai'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gweithio gyda phleidiau "sy'n rhannu ein gwerthoedd".
Ond roedd hi'n gadarn na fyddai'n gweithio gyda phlaid sy'n gwario arian cyhoeddus ar annibyniaeth.
'Dydw i ddim am newid fy meddwl'
Pan gafodd ei holi am sylwadau Rodney Berman, oedd wedi awgrymu bod yna hyblygrwydd o ran gweithio gyda Phlaid Cymru, dywedodd: "Mae gennym ni ein llinellau coch ac os ydym ni mewn sefyllfa lle gallwn ni drafod gydag unrhyw blaid a gallai fod yn Blaid Cymru. Ydy, mae hynny'n gywir.
"Fi yw arweinydd y blaid. Fi fydd yr un sy'n trafod. Dydw i ddim am newid fy meddwl. Rwy'n glir. "Rydyn ni'n bod yn onest gyda'r cyhoedd nawr."
Ond wrth siarad wythnos yn ôl, doedd Rodney Berman, cyn-arweinydd cyngor Caerdydd, wnaeth arwain yr awdurdod mewn clymblaid gyda Phlaid Cymru, ddim wedi diystyru gweithio gyda'r blaid.
"Yr hyn 'dan ni'n ei ddweud yw y byddwn ni'n hapus i weithio gyda phleidiau eraill, nid Reform, nid y Ceidwadwyr - byddwn ni'n gweithio gyda phleidiau eraill ar y blaenoriaethau sy'n bwysig i'r bobl.
"Byddwn ni'n o bosib yn trafod pethau gyda nhw fesul achos."
Fe ychwanegodd: "Ni fyddem ni o reidrwydd yn cefnogi arian yn mynd i gomisiwn arall."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.