Beth sy'n weddill o 'bentref coll' Cwm Tawe - ysbrydoliaeth clasur Huw Chiswell?

LLun du a Gwyn o Graig Road, y ffordd wedi'i hollti a rwbel ar hyd y fforddFfynhonnell y llun, Rosalyn Davies
Disgrifiad o’r llun,

Yn y 60au cafodd nifer o dai yn ardal Pantyffynnon, Godre'r Graig, eu dymchwel

GanSara Dafydd
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae'n bentref wnaeth ysbrydoli clasur Huw Chiswell, Y Cwm, ond erbyn heddiw, mae Pantyffynnon yng Nghwm Tawe yn cael ei adnabod fel 'y pentref coll'.

Yn raddol ers y 1960au mae dros 100 o gartrefi wedi'u dymchwel yn ardal Pantyffynnon o Godre'r Graig yn dilyn cyfres o dirlithriadau.

Fe ddechreuodd y peryglon cynharaf ar 1 Rhagfyr 1959 pan syrthiodd rhan o Fynydd Allt y Grug i lawr i'r pentref.

Wrth hel atgofion am hen fywyd y pentref mae rhai'n disgrifio'r sefyllfa'n "dorcalonnus" ac yn gobeithio am fwy o fuddsoddiad.

Rosalynd Davies mewn siwmper brown a siaced brown golauFfynhonnell y llun, BBC Cymru
Disgrifiad o’r llun,

"O'n i'n gallu clywed synau yn y nos ac oedd hynny'n hala 'mach o fraw"

Mae'r cynghorydd sir dros Godre'r Graig, Rosalyn Davies, wedi byw yn yr ardal hyd ei hoes a'n "synnu bod neb wedi marw".

"Oedd Gwyneth Davies wedi gwneud bwyd i'w gŵr yn y kitchenette, aeth hi â'r bwyd mewn... ac erbyn bod hi wedi mynd nôl mewn i'r gegin gefn oedd y tirlithriad wedi dod mewn i'r tŷ."

Yn raddol cafodd tai yn yr ardal eu dymchwel, a nifer o deuluoedd wedi eu gwasgaru ar hyd yr ardal, y rhan fwyaf o'r teuluoedd yn siaradwyr Cymraeg.

"Roedd rhai wedi symud i'r Farteg, rhai wedi mynd mor bell â Threbannws."

Ym 1963 fe benderfynodd teulu Rosalyn symud i Gilmaengwyn.

"Oedd ofn ar bobl i sefyll 'na. O'n ni'n eithaf saff achos o'n ni'n byw mewn bungalow tu ôl i Heol y Graig. Ond o'n i'n gallu clywed synau yn y nos ac oedd hynny'n hala 'mach o fraw."

Oriel luniauNeidio heibio'r oriel luniauSleid 1 o 4, Llun du a Gwyn o rhes o dai gyda rwbel yng nghanol y stryd, Roedd y rhan fwyaf o drigolion Pantyffynnon yn siarad Cymraeg

Wrth hel atgofion am ei phlentyndod mae Rosalyn yn disgrifio Pantyffynnon fel "pentref o fewn pentref", gyda dros 100 o dai, siopau a dwy dafarn.

"'Fyna oedd y siopau mwyaf. Oedd gyda ti'r swyddfa bost, siop y giât, oedd y cigydd Twm Bwtch, oedd Jim Harries yn neud lolipops a hufen iâ, siop Alfa, siop chips."

Erbyn heddiw braidd dim sy'n weddill o'r pentref bywiog yma, ac mae cerdded ar hyd y llwybr yn "dorcalonnus" meddai.

"Ar ôl symud o'n i'n ffeindio fe'n galed ofnadwy i fynd lan."

'Mae'n frawychus'

Er gwaetha'r tristwch anodd iawn yw meddwl am sut fyddai modd osgoi'r sefyllfa yn ôl Rosalyn.

"Alli di ddim ymladd yn erbyn mynydd sy'n symud. Mae lot o chwareli wedi achosi problemau a gweithfeydd glo. Mae gymaint o ddŵr yn dod lawr o'r mynydd mae'n frawychus.

Ychwanegodd bod "angen mwy o fuddsoddiad yn gyffredinol, ond mae'n anodd achos does dim llawer o dir ar gael yn yr ardal".

Cyfyng Road, YstalyferaFfynhonnell y llun, BBC Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd pobl orchymyn i adael y rhes yma o dai yn 2017

A thaflaid carreg o Bantyffynnon mae Heol Cyfyng, ardal arall sy'n byw yng nghysgod Mynydd Allt y Grug.

Wedi tirlithriad yn 2017 cafodd tua 20 o bobl orchymyn gan Gyngor Castell Nedd Port Talbot i adael eu cartrefi ar frys.

Mae'r tai yn wag hyd heddiw heblaw am gartref Richard Morrison, 51, wnaeth wrthod symud.

Mae wedi byw yno ers 25 o flynyddoedd ac yn honni bod y "tai yn ddiogel" ar ôl cynnal asesiadau risg ei hun.

"Mae'r tai wedi bod yno ers dros 150 o flynyddoed, dylai'r cyngor ddim fod wedi eu condemnio dros nos.

"Mae'r ardal i gyd wedi dirywio. Does dim gwaith cynnal a chadw yn digwydd. Mae'r cyngor fel petai yn troi lan ar ôl pob digwyddiad."

Sadie, 17, gwallt hir brown a siwmper dduFfynhonnell y llun, BBC Cymru
Disgrifiad o’r llun,

'Dwi yn meddwl bod yr ardal wedi cael ei hanghofio'

Mae Sadie, 17, yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Ystalyfera a'n byw yn Godre'r Graig.

"Oedd fy Hen Mamgu arfer byw ym Mhanteg, roedd rhaid iddi hi adael ei chartref, maen eithaf trist i feddwl amdano.

"Dwi yn meddwl bod yr ardal wedi cael ei hanghofio, bydde fe'n dda i gael mwy o lefydd i fynd."

Maisie, 18, gwallt hir melyn a siwmper dduFfynhonnell y llun, BBC Cymru
Disgrifiad o’r llun,

'Fi'n cofio fy Mamgu a Tadcu yn siarad am y pentref a'r pethau oedd yma'

Mae Maisie, 18, o Ystalyfera'n gobeithio mynd i Gaerdydd i'r brifysgol. Byddai gwell ganddi byw mewn dinas meddai.

"Yn enwedig gyda swyddi dwi ddim yn teimlo bod unrhyw beth yn yr ardal imi. Fi'n cofio fy Mamgu a Tadcu yn siarad am y pentref a'r pethau oedd yma, mae'n drist i wybod 'mod i ddim yn gallu profi'r un pethau â nhw."

Ond mae Dainton, 18 o Ystalyfera yn gobeithio dychwelyd i'r ardal ar ôl astudio.

"Dwi'n hoffi'r lle gormod a dwi'n teimlo mai dyma dwi eisiau bod pan dwi'n henach."

'Y cyngor yn barod i ymgysylltu'

Mewn ymateb fe ddywedodd Cyngor Castell Nedd Port Talbot eu bod yn y broses o ddymchwel y tai sydd dan eu perchnogaeth ar Heol Cyfyng: "Unwaith y bydd bloc o dai cyfagos yn y teras dan berchnogaeth y Cyngor, byddan nhw'n cael eu dymchwel gyda'i gilydd am fod hyn yn fwy diogel ac am darfu llai ar y gymuned leol o gymharu â dymchwel un eiddo ar y tro."

Esbonion nhw fod y broses yn un hir gyda pherchnogion yn cael cyfle i fynd drwy broses apelio ar "unrhyw hawliadau yswiriant cafodd eu gwrthod".

Mae'r cyngor yn pwysleisio eu bod dal yn "barod i ymgysylltu â'r rheiny a effeithiwyd arnynt, a'u cefnogi, i alluogi'r broses i fynd yn ei blaen".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig