Ymgeisydd Plaid Cymru yn ymddiheuro am 'sylwadau diofal'

Oliver Bradley-Hughes gydag arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Oliver Bradley-Hughes gydag arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth

  • Cyhoeddwyd

Mae ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer etholiad y Senedd wedi ymddiheuro am yr hyn a ddisgrifiodd fel "sylwadau diofal" a wnaeth ar gyfryngau cymdeithasol yn ei arddegau.

Mae Oliver Bradley-Hughes, sy'n ceisio cael ei ethol yn etholaeth Clwyd ym mis Mai, yn dweud ei fod yn "ddrwg iawn" ganddo am y sylwadau sy'n cyfeirio at gymryd cyffuriau anghyfreithlon, ac iaith rywiaethol.

Mae gwefan Plaid Cymru yn ei ddisgrifio fel "athro ysgol uwchradd a thiwtor coleg ymroddedig".

Gwnaed y sylwadau dros ddegawd yn ôl.

Mae Bradley-Hughes yn drydydd ar restr Plaid Cymru ar gyfer etholaeth Clwyd yng ngogledd-ddwyrain Cymru.

O dan y system bleidleisio cynrychiolaeth gyfrannol newydd ar gyfer Senedd Cymru, mae pob plaid yn rhestru eu hymgeiswyr, a'r uchaf maen nhw ar y rhestr, y mwyaf tebygol ydyn nhw o gael eu hethol.

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau sydd ar y gweill (Yn agor mewn tab porwr newydd)

Mewn datganiad, dywedodd Mr Bradley-Hughes: "Gwnaed y postiadau yma dros 15 mlynedd yn ôl, pan oeddwn i yn fy arddegau, ac nid ydynt yn adlewyrchu'r person ydw i heddiw.

"Roedd rhai yn dyfynnu geiriau caneuon, a rannais ar y pryd heb feddwl.

"Nid ydynt yn adlewyrchu fy marn o gwbl.

"Rwy'n 31 oed nawr ac ni fyddwn byth yn gwneud sylwadau o'r fath heddiw ac rwy'n deall eu bod yn anghywir ar y pryd.

"Wrth edrych yn ôl, gallaf weld pa mor hawdd oedd gwneud sylwadau diofal ar-lein fel person ifanc ar adeg pan oedd cyfryngau cymdeithasol yn newydd ac nad oedd llawer o arweiniad i bobl ifanc.

"Wedi dweud hynny, fy nghyfrifoldeb i oedd hyn ac rwy'n derbyn hynny yn llawn.

"Mae'n ddrwg iawn gen i am unrhyw dramgwydd neu bryder a achoswyd ganddynt.

"Rwyf wedi tyfu a dysgu llawer ers hynny. Mae fy ngwerthoedd heddiw – parch, cynhwysiant, a gwasanaeth cyhoeddus – yn llywio popeth rwy'n ei wneud ac rwyf wedi ymrwymo i fyw yn ôl y rhain bob dydd".

Ychwanegodd: "Rwy'n gobeithio y bydd pobl yn fy marnu nid yn ôl camgymeriadau fy ieuenctid ac yn ôl sylwadau a wnaed ar-lein cyn i fy marn ddatblygu'n llawn fel oedolyn ond yn ôl y gwaith rwy'n ei wneud nawr i wasanaethu fy nghymuned a chynnal yr egwyddorion rwy'n credu ynddynt."

Dywedodd Plaid Cymru nad oedd ganddyn nhw unrhyw beth pellach i'w ychwanegu at ddatganiad Mr Bradley-Hughes.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.