Llafur 'wedi gorffen' yng Nghymru, yn ôl arweinydd y Blaid Werdd

Dywedodd Zack Polanski nad yw pobl ledled Cymru "eisiau pleidleisio dros y Blaid Lafur mwyach"
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd y Gwyrddion yn dweud bod y Blaid Lafur "wedi gorffen" ac nid yw "pobl ledled Cymru" eisiau pleidleisio dros y blaid sy'n rhedeg Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU bellach.
Dywedodd Zack Polanski, sydd wedi addo disodli'r Blaid Lafur, fod arolygon barn yn dangos bod modd "ennill rhwng pump ac 11 aelod o'r Senedd" yn etholiad y Senedd fis Mai.
Ond dywedodd wrth BBC Cymru nad oedd yn "hunanfodlon am hyn".
Wrth ymuno ag ymgyrchwyr yng Nghaerdydd, dywedodd Polanski fod polisïau'r Gwyrddion ar gyfer yr etholiad yn cynnwys cyflwyno rheolaethau rhent, disodli treth gyngor gyda "system decach", gan addo "ffordd wahanol o wneud gwleidyddiaeth".
Nid yw'r Gwyrddion, sy'n dweud bod ganddyn nhw fwy nag 8,000 o aelodau yng Nghymru, erioed wedi ennill seddi ym Mae Caerdydd o'r blaen.
Mae disgwyl iddyn nhw elwa o system etholiadol fwy cyfrannol a fydd yn cael ei chyflwyno ar gyfer etholiad 7 Mai.
Mae arolygon barn yn awgrymu bod Reform a Phlaid Cymru yn cystadlu am y safle cyntaf, tra gallai'r Blaid Lafur golli pŵer ar ôl bod yn gyfrifol am Lywodraeth Cymru ers dechrau ddatganoli ym 1999.
'Ffordd wahanol o wneud gwleidyddiaeth'
Dywedodd Zack Polanski, a enillodd arweinyddiaeth y Blaid Werdd yng Nghymru a Lloegr fis Medi diwethaf "nad oes modd gwadu bod Llafur wedi gorffen".
"Maen nhw wedi bod yn hunanfodlon am ormod o amser, ac mae pobl ledled Cymru yn dweud nad ydyn nhw eisiau pleidleisio dros y Blaid Lafur mwyach," meddai.
Dywedodd fod y Gwyrddion yn cynnig rhywbeth gwahanol i'r "hen bleidiau".
"Rydym yn siarad am bethau fel rheolaethau rhent, gan sicrhau ein bod yn diddymu'r dreth gyngor ac yn cyflwyno system decach ac yn dod â dŵr i ddwylo cyhoeddus, yn ogystal â gostwng biliau pobl yn fwy cyffredinol," meddai.
"Yn gryno, mae hyn i gyd yn cynrychioli ffordd wahanol o wneud gwleidyddiaeth."
Nos Sadwrn, bydd Zack Polanski ac arweinydd y blaid yng Nghymru, Anthony Slaughter yn ymddangos mewn digwyddiad sy'n cael ei alw'n "ddiwrnod gweithredu" yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd, ac mae'r blaid yn dweud fod dros 400 o bobl wedi prynu tocynnau.

Anthony Slaughter, arweinydd y Gwyrddion yng Nghymru
Mae Anthony Slaughter hefyd yn dweud y gallen nhw gael sawl AS yn y Senedd newydd.
"Y llynedd fe wnaethon ni geisio torri drwodd i'r Senedd, ond mae arolygon barn diweddar wedi rhagweld y gallai'r Gwyrddion ennill pum sedd neu fwy ar 7 Mai," meddai.
"Yma yng Nghaerdydd, mae gynnon ni gannoedd o ymgyrchwyr yn ymgyrchu i gael fi a Tessa Marshall wedi'u hethol, ac rydym yn anelu at ethol Paul Rock yn rhan arall yn y ddinas.
"Mae pleidlais dros y Gwyrddion yng Nghymru yn bleidlais i dorri biliau, datrys yr argyfwng tai a gwthio llywodraeth newydd Cymru i fod yn fwy beiddgar."
Fel Plaid Cymru, mae'r Gwyrddion o blaid annibyniaeth i Gymru.
Ac fel arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, mae Anthony Slaughter yn dadlau na ddylid cynnal refferendwm ar annibyniaeth yn ystod pedair blynedd nesaf y Senedd.
"Mewn sawl ffordd, rwy'n cytuno â Rhun ar hyn, mai nid nawr yw'r adeg ar gyfer refferendwm ar annibyniaeth," meddai wrth BBC Cymru.
"Mae hwn yn foment o newid yng ngwleidyddiaeth Cymru - ar ôl 26 mlynedd bydd pobl newydd yn llywodraethu.
"Nid nawr yw'r amser i ailystyried refferenda.
"Yn y pedair blynedd nesaf mae'n hanfodol gwneud bywydau pobl yng Nghymru yn well, a dangos iddyn nhw y gall pethau fod yn well yng Nghymru, hyd yn oed gyda'r pwerau cyfyngedig sydd gennym.
"Mae hynny'n caniatáu i ni gael sgyrsiau ymhellach yn y dyfodol ynglŷn â sut mae pobl eisiau i Gymru gael ei llywodraethu."
Pryder y gallai etholwyr gael eu twyllo gan luniau ffug o wleidyddion
- Cyhoeddwyd10 Mawrth
Gwahaniaethau goroesi canser dros Gymru yn dangos 'problemau parhaus'
- Cyhoeddwyd20 Chwefror
Yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd Anthony Slaughter wrth BBC Cymru am ei flaenoriaethau os oes angen cydweithredu rhwng y pleidiau yn y Senedd newydd.
Mae arolygon barn hefyd yn awgrymu bod Reform a Phlaid Cymru yn agos at ei gilydd wrth gystadlu am y lle cyntaf, tra gallai'r blaid Lafur golli pŵer ar ôl bod yn gyfrifol am Lywodraeth Cymru ers i ddatganoli ddechrau ym 1999.
Dyw e ddim yn debygol y bydd gan unrhyw blaid fwyafrif, felly mae'n bosibl y bydd angen cytundeb rhwng dwy blaid neu fwy.
Dywedodd Slaughter y gallai diwygio'r diwydiant dŵr a rheolaethau rhent fod yn rhan o unrhyw gytundeb sy'n cynnwys y Gwyrddion: "Nid ydym yno i gymeradwyo pethau neu i newid yr ymylon yn unig."
Ar reoli rhenti, dywedodd fod problemau yn y sector tai oherwydd landlordiaid twyllodrus a oedd yn codi "rhent afresymol am fflatiau llaith, llawn llwydni" a phobl a oedd yn "berchen ar sawl eiddo".

Wrth drafod dŵr, dywedodd Slaughter ei fod yn pryderu am "gyflwr" afonydd ac arfordir Cymru, a byddai'n edrych ar fodel perchnogaeth Dŵr Cymru.
Ni ddywedodd a fyddai cael y Gwyrddion mewn grym yn golygu mwy o arian i'r Gwasanaeth Iechyd, ond dywedodd fod angen ei ddefnyddio'n ddoeth, a byddai ei blaid yn integreiddio gofal cymdeithasol i'r GIG ac yn blaenoriaethu iechyd ataliol.
Dywedodd Slaughter hefyd ei fod yn gwrthwynebu'r rhyfel yn Iran, er nad oedd ganddo unrhyw gydymdeimlad â'r drefn bresennol yn Tehran.
Dywedodd fod hyn oherwydd bod y camau a gymerwyd gan Israel a'r Unol Daleithiau wedi torri cyfraith ryngwladol.
Mewn ymateb i gyfweliad Zack Polanski, dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Mae'r Gwyrddion yn dweud eu bod nhw eisiau cefnogi rhentwyr. Pam wnaethon nhw rwystro'r mesur yn y senedd a fydd yn darparu mwy o dai? Pam wnaeth Cyngor Bryste, sydd dan reolaeth y Gwyrddion, gynnig gwerthu 1,200 o dai cyngor?
"Siarad gwag, heb weithredu - dyna beth gewch chi gan y Gwyrddion."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.