Clychau eglwys hanesyddol i ganu am y tro cyntaf mewn 150 mlynedd

Cafodd Eglwys y Santes Fair ei hadeiladu yn 1873
- Cyhoeddwyd
Bydd clychau eglwys hanesyddol yn canu am y tro cyntaf mewn 150 mlynedd mewn gwasanaeth Pasg ym Metws-y-coed.
Cafodd Eglwys y Santes Fair ei hadeiladu yn 1873 gyda chynllun ar gyfer cylch llawn o glychau, ond ni chafodd y gwaith erioed ei gwblhau.
Dros ganrif yn ddiweddarach mae prosiect, a ddechreuodd yn Eisteddfod Llanrwst yn 2019, i adfer yr eglwys er mwyn gosod set gyflawn o glychau yn y tŵr wedi'i gwblhau.
Dywedodd y Parchedig Stuart Elliott, offeiriad lleol ac arweinydd ardal weinidogaeth Bro Gwydyr, fod y prosiect yn "drawsnewidiad sylweddol i'r pentref".

Dywedodd y Parchedig Stuart Elliott, offeiriad lleol ac arweinydd ardal weinidogaeth Bro Gwydyr, "Bydd yn arbennig iawn eu clywed yn canu am y tro cyntaf mewn gwasanaeth eglwys ar Sul y Pasg"
Dywedodd fod y caniad prawf ddydd Sul yn "foment hyfryd ac emosiynol".
"Bydd yn arbennig iawn eu clywed yn canu am y tro cyntaf mewn gwasanaeth eglwys ar Sul y Pasg, fel y gall y gymuned gyfan glywed yr alwad maent yn ei chyhoeddi," meddai.
"Er bod y prosiect hwn yn un ymarferol yn ei hanfod, yn ymwneud ag adeiladau a strwythur, mae ei galon yn y gymuned newydd o glochyddion a fydd yn ffurfio o amgylch yr eglwys.
"Ni fyddai'r prosiect wedi bod yn bosibl heb ymroddiad y grŵp lleol a weithiodd yn galed i godi arian ac i helpu gyda'r gwaith corfforol o osod y clychau."
Ychwanegodd bod rhoddion gan bobl a busnesau lleol, yn ogystal â nifer o ymddiriedolaethau, wedi gwneud y prosiect yn bosibl.

Daeth wyth o'r clychau o Eglwys Sant Ioan ym Mhorthmadog yn 2024, ar ôl i'r eglwys honno gau
Yn ôl Esgobaeth Bangor, dechreuodd y prosiect yn dilyn sgwrs ymysg aelodau o Gôr Penmachno yn Eisteddfod Llanrwst am ddiffyg tŵr lleol i glochyddion ymarfer ynddo.
Daeth grŵp lleol at ei gilydd i godi arian ar gyfer y prosiect, sydd erbyn hyn wedi costio tua £100,000.
Cafodd ei ariannu'n bennaf drwy grantiau, gan gynnwys cefnogaeth gan Ymddiriedolaeth Keltek, Ymddiriedolaeth Hobart ac Ymddiriedolaeth Bernard Piggott.

Yn ôl Esgobaeth Bangor, daeth wyth o'r clychau o Eglwys Sant Ioan ym Mhorthmadog yn 2024, ar ôl i'r eglwys honno gau, gyda chloch arall a gafodd ei chastio yn 1873 wedi ei hadfer a'i hailosod fel cloch y cloc a'r gloch ganu.
Cafodd y clychau o Borthmadog eu creu gan John Warner & Sons o Lundain, gyda chwech yn dyddio o 1900 a dwy wedi'u hychwanegu yn 1902.
Roedd y gwaith gosod yn cynnwys glanhau a thiwnio'r clychau, tynnu'r hen osodiadau a gosod penstociau newydd, meddai Esgobaeth Bangor.
Cafodd ffrâm sylfaen newydd ei dylunio hefyd gan ddefnyddio rhannau o'r gosodiad ym Mhorthmadog, wedi'i chefnogi gan drawstiau gwreiddiol y tŵr.
Mae mecanwaith cloc yr eglwys hefyd wedi'i ddisodli fel ei fod bellach yn gallu canu pob awr.
Bydd y clychau'n cael eu canu cyn gwasanaeth Dydd y Pasg am 11:00, gyda Chwarter Pêl yn cael ei chanu ar ôl hynny.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.