Bellamy yn enwi ei garfan ar gyfer gemau ail gyfle Cwpan y Byd

Dyma gyfle cyntaf Craig Bellamy i arwain Cymru i gystadleuaeth Cwpan y Byd fel prif hyfforddwr
- Cyhoeddwyd
Mae Craig Bellamy wedi enwi ei garfan ar gyfer gemau ail gyfle Cwpan y Byd ac mae capten Cymru, Aaron Ramsey wedi cael ei adael allan unwaith eto.
Ymhlith y rhai eraill sy'n absennol mae Kieffer Moore sydd ddim ar gael oherwydd anaf.
Bydd Cymru'n herio Bosnia-Herzegovina yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 26 Mawrth.
Os yn fuddugol, bydd Cymru'n wynebu naill ai'r Eidal neu Ogledd Iwerddon bum diwrnod yn ddiweddarach am le yng Nghwpan y Byd yr haf hwn yng Nghanada, Mecsico a'r Unol Daleithiau.

Mae Aaron Ramsey wedi bod heb glwb ers gadael clwb Pumas ym mis Rhagfyr, a doedd y chwaraewr 35 oed ddim wedi chwarae i'r tîm ym Mecsico ers mis Medi.
Mae'r diffyg amser chwarae yma, yn ogystal ag ambell i anaf, yn golygu nad yw Ramsey wedi chwarae dros Gymru ers mis Medi 2024.
Dywedodd Bellamy: "Dyw e heb chware pêl-droed cystadleuol ers saith mis. Dyw e ddim yn rhan o glwb."
Ychwanegodd nad oedd mewn lle i wneud sylw am ddyfodol Ramsey.
Os bydd Cymru'n llwyddiannus yn y ddwy gêm, dyma fyddai'r tro cyntaf erioed i Gymru gymhwyso ar gyfer dwy gystadleuaeth Cwpan y Byd yn olynol ar ôl chwarae yn rowndiau terfynol twrnament 1958 a 2022.
Roedd buddugoliaeth Cymru o 7-1 yn erbyn Gogledd Macedonia ym mis Tachwedd yn ddigon i sicrhau eu bod yn gorffen yn ail yng Ngrŵp J ac felly yn saff o chwarae gartref yn y rownd gynderfynol.
Gorffennodd Bosnia-Herzegovina yn ail i Awstria mewn grŵp a oedd hefyd yn cynnwys Rwmania, Cyprus a San Marino.
Bydd enillwyr y gemau ail gyfle yn wynebu Canada, un o'r gwledydd sy'n cynnal y gystadleuaeth, yn Toronto ar 12 Mehefin, y Swistir yn Los Angeles ar 18 Mehefin a Qatar yn Seattle ar 24 Mehefin.
Y garfan yn llawn
Gôl-geidwaid: Karl Darlow (Leeds United), Danny Ward (Wrecsam), Adam Davies (Sheffield United), Tom King (Everton).
Amddiffynwyr: Jay Dasilva (Coventry City), Rhys Norrington-Davies (Queens Park Rangers - ar fenthyg o Sheffield United), Dylan Lawlor (Caerdydd), Ben Cabango (Abertawe), Joe Rodon (Leeds United), Neco Williams (Nottingham Forest), Ronan Kpakio (Caerdydd).
Canol cae: Ethan Ampadu (Leeds United), Josh Sheehan (Bolton Wanderers), Jordan James (Caerlŷr - ar fenthyg o Stade Rennais), Joel Colwill (Caerdydd), Harry Wilson (Fulham), David Brooks (Bournemouth), Sorba Thomas (Stoke City), Rubin Colwill (Caerdydd).
Ymosodwyr: Liam Cullen (Abertawe), Nathan Broadhead (Wrecsam), Brennan Johnson (Crystal Palace), Mark Harris (Oxford United), Lewis Koumas (Hull City - ar fenthyg o Lerpwl), Dan James (Leeds United), Rabbi Matondo (Rangers).
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.