Kieffer Moore i fethu gemau ail gyfle Cwpan y Byd gydag anaf

Nid oes disgwyl i Moore ddychwelyd i chwarae nes mis Ebrill
- Cyhoeddwyd
Ni fydd Kieffer Moore, ymosodwr Wrecsam, ar gael i chwarae i Gymru yng ngemau ail gyfle Cwpan y Byd oherwydd anaf i'w goes.
Mae'r chwaraewr 33 oed wedi bod yn destun amheuaeth ers iddo gael ei anafu yn ystod y golled yn erbyn Chelsea yng Nghwpan yr FA yn gynharach yn y mis.
Nid oes disgwyl i Moore ddychwelyd i chwarae nes mis Ebrill.
Mae hynny'n golygu na fydd ar gael i'r gêm gynderfynol yn erbyn Bosnia-Herzegovina ar 26 Mawrth ac - os ydyn nhw'n ennill y gêm honno - y rownd derfynol yn erbyn yr Eidal neu Ogledd Iwerddon, bum diwrnod yn ddiweddarach.
Dywedodd rheolwr Wrecsam, Phil Parkinson: "Ni fydd Kieffer yn iawn ar gyfer y gemau rhyngwladol, sy'n ergyd iddo ef ac i Gymru."
Bydd y garfan ar gyfer y gemau hynny yn cael ei chyhoeddi fore Mawrth.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth

- Cyhoeddwyd12 Chwefror

- Cyhoeddwyd26 Chwefror
